S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rhyngwladol

Sut i wylio S4C yn rhyngwladol?

Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.

Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.

Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.

Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.

Am Dro!

Pedwar cystadleuydd sy'n mynd â ni ar eu hoff deithiau cerdded lleol, gan frwydro i ennill mil o bunnau!

Cylchlythyr

  • Ble rydych chi'n byw?

Ar gael nawr

Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.

Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.

Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.

Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.

  • Cais Quinnell

    Cais Quinnell

    Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar Yodlo hefo Ieuan Jones, yn Ceufadu ar yr afon Tâf yng ngwmni Rhys Pinner, ac yn my

  • Kim a Cêt a Twrch

    Kim a Cêt a Twrch

    Ymunwch â Kim a Cêt ar antur hudolus a chwareus sy'n llawn dawns a cherddoriaeth wrth iddyn nhw chwilio am Twrch yn y goedwig.

  • Anifeiliaid Bach y Byd

    Anifeiliaid Bach y Byd

    Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ag anifeiliaid bach y byd. Y tro hwn bydd y daith yn mynd a ni i'r goedwig law i gwrdd a'r Broga Dart Gwenwynig ac i waelod y mor i gwrdd a'r Chwyddbysgodyn a'r Pysgodyn Llew.

  • Bwrdd i Dri

    Bwrdd i Dri

    Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.

  • Dreigiau Cadi

    Dreigiau Cadi

    Mae rheilffyrdd yn rhedeg i amserlenni ac felly pan mae Cadi angen newid yr amseroedd trenau yn y gorsafoedd mae Bledd a Cef yn awyddus i helpu, ond faint mae dreigiau yn gwybod am ddweud yr amser'

  • Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Eurof sydd yn y stiwdio steilio heddiw. Cyn brifathro, sy'n caru popeth rygbi ac sy'n byw mewn shorts a dillad chwaraeon. Mae'n ysu cael trio steil newydd a ffeindio gwisg fydd yn addas ar gyfer mynd a'i wraig Diane allan am bryd o fwyd sbesial.

  • Sigldigwt

    Sigldigwt

    Mae Gwesty Sigldigwt ar agor! Ymunwch gyda Tref y ci, Elin a Berian wrth iddynt edrych ar ôl pob math o anifeiliaid gyda help eu ffrindiau ifanc. Heddiw cawn gwrdd â Deiniol y cocatŵ, ac Ifan a'i gi.

  • Ar Brawf

    Ar Brawf

    Mae Gwenan yn benderfynol o gadw i ffwrdd o alcohol a chyffuriau er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o droseddu eto. Mae Tom mewn perygl o gael ei yrru yn ôl i'r llys am fethu ei apwyntiadau gwaith di-dâl. Elin a Danielle ydy'r Swyddogion Prawf sy'n rheoli'r ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Ar Sgwrs dan y Lloer heno fe fydd Elin yn sgwrsio tan yr oriau mân hefo'r soprano, Rhian Lois.

  • Ne-wff-ion

    Ne-wff-ion

    Heddiw ar Newffion mae Tom ac Ela-Medi am greu fersiwn newydd o'r gan Penblwydd Hapus.

  • Sain Ffagan Cyfres 2

    Sain Ffagan Cyfres 2

    Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sychu blodau gan ddefnyddio dulliau traddodiadol tra bod y curadur Ceri Thompson yn casglu straeon ac eitemau i'w rhoi mewn i arddangosfa newydd i nodi trychineb Aberfan.

  • Teulu'r Castell

    Teulu'r Castell

    Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.

  • Cysgu o Gwmpas

    Cysgu o Gwmpas

    I'r Gogledd Ddwyrain mae'r ddau yn mentro y tro yma, i ymweld âg Ystâd godidog Penarlâg. Cyfle i hel afalau a phrofi danteithion Siop Fferm yr Ystâd, cyn gwledda ar bryd o fwyd dros tanllwyth o dân.

  • Fferm Fach

    Fferm Fach

    Dydy Mari ddim yn credu Mam bod Cennin Pedr yn tyfu o fwlb felly mae Hywel y ffermwr hudol yn cynnig helpu.

  • Richard Holt - Yr Academi Felys

    Richard Holt - Yr Academi Felys

    Mae drysau'r Academi ar agor! Amser i griw newydd o bobyddion ddangos eu sgiliau i Richard yn y gegin. Yn y bennod cyntaf, bydd y gr¿p yn mynd draw i Melin Llynon er mwyn cyfarfod â'r cogydd patisserie enwog am y tro cyntaf - a cheisio gwneud argraff dda arno!

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Mae'r môr-ladron Ben Dant a Cadi wedi glanio ar Ynys Bendibelliawn, ond mae'r hen gapten drewllyd Capten Cnec wedi glanio yno'n barod ac wedi cipio'r ynys. A fydd y criw o forladron bach o Ysgol Rhydaman yn llwyddo i helpu Ben Dant a Cadi i drechu Capten Cnec a chipio'r ynys yn ôl'

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    Mae pentre' Llan Llon yn gyffro i gyd; mae'r anifeiliaid wedi penderfynu cynnal sioe dalent - ond pwy fydd yn serennu'

  • Bethesda: Pobol y Chwarel

    Bethesda: Pobol y Chwarel

    Cyfres newydd sy'n mynd â ni i ganol cymuned chwarelyddol Bethesda - cymuned glos Gymreig. Yn y rhaglen olaf cawn gwrdd â Carrie Rimes - dynes busnes sy'n dechrau ar fenter newydd gyffrous yn yr ardal wrth iddi droi'r hen eglwys babyddol yn laethdy i wneud caws. Hefyd cawn weld trigolion Bethesda yn dod ynghyd am gêm o bingo ac yn trafod pwysigrwydd cymuned a'u gobeithion am y dyfodol.

  • Nos Da Cyw

    Nos Da Cyw

    Cyfres o straeon bach cyn cysgu. Heddiw, Tara Bethan sy'n darllen Trysor.

  • Ein Byd Bach...

    Ein Byd Bach...

    Lliwiau Natur ¿ Yn y bennod yma byddwn yn dysgu am sut mae'r enfys yn ffurfio, be sy'n neud y gwair yn wyrdd, bwydydd lliwgar a'r 'Aurora Borealis' neu golau'r gogledd.

  • Gwdihw

    Gwdihw

    Cyfres yng nghwmni Megan Llyn sy'n cwrdd â phob math o anifeiliaid, rhai gwyllt, rhai dof a rhai anhygoel.

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Mae Elin Fflur yn mwynhau sgwrs glyd gyda'r gantores, actores a chyflwynwraig enwog, Caryl Parry Jones.

  • Amser Maith Maith Yn Ôl

    Amser Maith Maith Yn Ôl

    Oes y Tuduriaid a chartre' prysur Teulu'r Bowens yw stori Tadcu heddiw yn 'Amser Maith Maith yn ôl'. Does dim wyau yn y cwt ieir ac mae Elen a Siôn yn meddwl am gynllun i ddarganfod ble mae'r wyau yn mynd.

  • Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Mae'r cyflwynydd Alun Williams, y cogydd Chris Roberts a'r comediwr Kiri Pritchard McLean yn parhau ar eu hantur fythgofiadwy yn Seland Newydd gan symud o ynys y De i'r Gogledd. Ar ôl ceisio pysgota am koura mewn moroedd garw, bydd y tri yn blasu gwin enwog ardal Marlborough, cyn ymweld â'r unig far Cymreig yn hemisffer y De ac ymarfer rygbi gyda thîm merched lleol.

  • Ffermio

    Ffermio

    Daw fferm Shadog yn fyw wrth i Gary a Meinir gynnal taith dractorau ar y cyd gyda chyngerdd fawreddog o fuarth y fferm. Hefyd fe fyddwn yn dathlu'r Nadolig gyda'r teulu bach. Ydy'r plant wedi bod yn blant da eleni' A fydd Sion Corn wedi plesio Sioned a Dafydd ar fore'r 'Dolig tybed'

  • Dechrau Canu Dechrau Canmol

    Dechrau Canu Dechrau Canmol

    Bydd Nia Roberts yn Sir Drefaldwyn i ddysgu mwy am y paratoadau at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Daw'r canu mawl o Gapel Heol China, Llanidloes.

  • Garddio a Mwy - Cyfres 2024

    Garddio a Mwy - Cyfres 2024

    Blodau, llysiau a phethau da bywyd, yng nghwmni Meinir Gwilym, Sioned Edwards, a Rhys Rowlands. Draw ym Mhant y Wennol mae Meinir yn creu storfa wlân i'r adar bach sy'n nythu yn ei gardd, tra mae Sioned yn hau dringwyr blynyddol ym Mhont y T¿r. Yn rhandiroedd Cae Pawb mae Rhys yn paratoi ar gyfer cnydau'r Hydref.

  • Cacamwnci

    Cacamwnci

    Cyfres gomedi i blant meithrin sy'n cynnwys sgetsys, eitemau doniol, jôcs a chymeriadau dwl iawn!

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Cyfres hwyliog ar gyfer plant meithrin yng nghwmni y môr-ladron Ben Dant a Cadi.

  • None

    Cowbois Tecsas

    Wil ac Aeron sy'n teithio draw i Tecsas ¿ er mwyn gwireddu breuddwyd oes o gael bod yn gowbois!

  • Y 'Sgubor Flodau

    Y 'Sgubor Flodau

    Yn y bennod olaf o'r gyfres bydd y tîm yn creu trefniant i ddathlu 20 mlynedd o elusen Prostate Cymru.

  • Am Dro

    Am Dro

    Heddiw fydd Arfon yn mynd a'r criw am dro i Llandre. Yna taith o Gei Newydd i Gwmtydu gyda Morwenna cyn ei throi hi am Llanrug dan arweiniad Osian. Beth fydd yn diweddu yn Henllan. Dewch i ni fynd Am Dro.

  • Hen Dy Newydd

    Hen Dy Newydd

    Yn y bennod hon, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn cartref i gwpwl ifanc yng Nghaerfyrddin. Ni fydd gan y cwpwl syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu- a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Cyfres animeddedig gyda chaneuon a hwiangerddi traddodiadol a chyfoes. Cân draddodiadol am anturiaethau tair hwyaden yw "Tair Hwyaden Lon"

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Cân fywiog a doniol am anifeiliaid a¿u synau.

  • Jen a Jim Pob Dim

    Jen a Jim Pob Dim

    Er ei bod hi'n nos ac mae'r awyr i fod yn dywyll - mae'n rhy dywyll. Mae Gwil y gofodwr, Cyw a Jangl wedi drysu'n lân. Tybed a wnaiff trip yn y roced ddatrys y dirgelwch'

  • Grid

    Grid

    Y Dylunydd Rhi Dancey sy'n trafod yr heriau i sicrhau byd ffasiwn cynaliadwy.

  • Heno - Cyfres 2024

    Heno - Cyfres 2024

    Rydym wedi bod yn sgwrsio gyda Cerys Matthews, a Kiri Pritchard McLean fydd yn y stiwdio.

  • Shwshaswyn

    Shwshaswyn

    Os yw'r byd yn teimlo yn rhy brysur, dewch i Shwshaswyn i gael saib.

  • Cacamwnci

    Cacamwnci

    Mae Cacamwnci yn ôl gyda mwy o sgetsys dwl a doniol! Cymeriadau newydd sbon fel Iestyn Ymestyn, Tesni Trwsio Popeth, Dani Rheolaeth, a rhai o'r ffefrynnau fel Plismon Preis, Vanessa drws nesa a Delyth Dylwythen. Byddwch yn barod am lond bol o chwerthin!

  • Jambori

    Jambori

    Helo, siwd mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i'r Jamborî! Ymunwch a Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar ¿ bydd cysgodion yn dawnsio, robotiaid yn chwarae a ffrwythau yn symud, hyn a lot mwy ar Jamborî!

  • Sali Mali

    Sali Mali

    Mae ffrindiau SALI MALI'n gwneud twrw mawr, ond mae SALI MALI'n cael trefn arnynt ac yn ffurfio band go iawn.

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Yn dilyn ei sgwrs gefnogol efo Kay mae Sophie yn frwd i gadw'r berthynas i fynd, ond nid yw Kay mor awyddus. Gyda'i berthynas efo Ben yn datblygu mae Jason yn darganfod ei hun yn annog ei dad i drio am waith yn yr Iard. Ar y wyneb nid yw Ben yn awyddus, ond mi fyddai llwyddo i gael ei droed drwy'r drws yno yn beth i'w groesawu. Mae newyddion da yn cyrraedd yn y post i Caitlin ac mae hi'n dod i benderfyniad pwysig iawn ynglyn ag arian John. Peth hollol wahanol sy'n cyrraedd y mat croeso i Mathew

  • Dewi a'r Ditectifs Gwyllt

    Dewi a'r Ditectifs Gwyllt

    Mae'r ditectifs yn chwilio am aur! Ond yn lle' Ac ydy o'n saff'

  • Dal Dy Ddannedd

    Dal Dy Ddannedd

    Timau o Ysgol Tyle`r Ynn sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwya o ddannedd glân ac ennill Tlws Dani Dant heddi'

  • Awr Fawr

    Awr Fawr

    Rhaglenni ar gyfer y plant iau ar ôl ysgol.

  • Prynhawn Da - Cyfres 2024

    Prynhawn Da - Cyfres 2024

    Kathryn Thomas fydd yn neud sesiwn ffitrwydd byw yn y stiwdio ac fe fydd Sharon Leech yn trafod lliwiau.

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn rhaglen olaf y gyfres mae'n dangos i ni sut i greu prydau 'ffansi pants', rhai sy'n edrych yn fwy cymhleth nag ydyn nhw. Ac mae Mam a Dad Colleen yn dod draw i fwynhau pwdin arbennig.

  • Sion y Chef

    Sion y Chef

    Mae Siôn wrthi'n paratoi salad Eidalaidd ond cyn hir, mae diflaniad mochyn Magi'n denu ei sylw.

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    Stori am ddau gi bach direidus, sydd wrth eu bodd yn gwisgo esgidiau, sydd gan Cari i ni heddiw.

  • Blociau Rhif

    Blociau Rhif

    Hwyl a sbri i blant ifanc gyda'r blociau rhif.

  • Deian a Loli

    Deian a Loli

    Mae Deian wedi cael llond bol o'i chwaer yn dweud wrtho be i'w wneud bob munud, a ma' petha'n gwaethygu wrth iddi ddod yn ffrindiau â Gwydion y Dewin sydd yn hoffi rheoli pobl yn fwy na hi hyd yn oed! Ond ydi hi'n saff gyda'i 'ffrind' newydd' A fydd Deian yn gallu cael ei chwaer yn nôl'!

  • Odo

    Odo

    Cartwn hyfryd am gwdih¿ bach o'r enw Odo a'i ffrindiau yn y goedwig.

  • Halibalw

    Halibalw

    Ymunwch â chriw Halibalw am raglen llawn hwyl, chwerthin, canu a dawnsio.

  • Amser Maith Maith Yn Ôl

    Amser Maith Maith Yn Ôl

    Stori o Oes y Celtiaid sydd gan Tadcu i Ceti heddiw. Mae Idris a Ffraid yn cysgu'n braf yn eu cartref clud ond pan fydd hi'n amser deffro mae gan y ddau waith i'w wneud i helpu mam a Dad.

  • Cyw

    Cyw

    Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.

  • Dathlu 'Da Dona

    Dathlu 'Da Dona

    Ymunwch â Dona Direidi wrth iddi gynnal parti pen-blwydd llawn gemau, hwyl, dawnsio a chanu.

  • Sgorio

    Sgorio

    Cyfres llawn cyffro pêl-droed y pyramid Cymreig. Holl uchafbwyntiau penwythnos ola'r tymor cyffredin yn y Cymru Premier JD, a chadarnhad o ba glybiau fydd yn disgyn ac yn esgyn.

  • Pobol y Penwythnos

    Pobol y Penwythnos

    Angharad a Caryl sy'n rhannu profiadau eu penwythnos perffaith. Boed waith neu bleser dyma ddiwrnod ym mywyd dwy sy'n byw am ddihangfa'r penwythnos.

  • Shwshaswyn

    Shwshaswyn

    Beth sy'n digwydd ym myd Shwshaswyn heddiw'

  • Jen a Jim a'r Cywiadur

    Jen a Jim a'r Cywiadur

    Cyfres addysgiadol ar gyfer plant meithrin yng nghwmni Jen a Jim.

  • None

    Sgwrs Dan y Lloer: Dafydd Iwan

    Ar Sgwrs dan y Lloer heno fe fydd Elin yn sgwrsio tan yr oriau mân hefo'r canwr a'r gwleidydd - y dyn ei hun, Dafydd Iwan.

  • Jambori

    Jambori

    Helo, shw' mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i gyfres newydd o Jamborî. Ymunwch â Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - gyda hwyaid yn dawnsio yn y bath, drws hudol yn y parc a chath yn coginio cacen. Hyn a lot mwy ar Jamborî!

  • Sgorio Byw

    Sgorio Byw

    Gêm ola'r tymor cyffredin yn y Cymru Premier JD. Am yr ail flwyddyn yn olynol bydd Aberystwyth yn gobeithio osgoi'r cwymp ar ddiwrnod ola'r tymor wrth iddynt chwarae Pontypridd. C/G 2.15.

  • Penblwyddi Cyw

    Penblwyddi Cyw

    Os wyt ti'n dathlu dy ben-blwydd, dyma gyfle i ti weld dy lun ar Cyw.

  • Curadur

    Curadur

    Cyfres sy'n adlewyrchu'r sin gerddoriaeth Gymraeg amrywiol. Y tro hwn: golwg ar rhai o ddylanwadau Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog gyda pherfformiadau gan Plethyn, Llio Rhydderch a Dafydd Owain.

  • Hyd y Pwrs

    Hyd y Pwrs

    Comedi dros ben llestri a dwl-bared-bost gyda Iwan John, Aeron Pughe, Dion Davies, Rhodri Evan a Steffan Rhys Williams. Gwylio wedi naw ar ei ddwlaf-oll!

  • Symud i Gymru

    Symud i Gymru

    Yn y gyfres hon wedi ei chyflwyno gan Steffan Powell, mae darpar brynwyr yn cael eu paru â pherson lleol fydd yn dangos eiddo iddynt o fewn eu cyllideb ac hefyd yn rhoi cipolwg iddynt o'r gymuned a'r ardal maent yn bwriadu symud iddi - y gymdeithas, y diwylliant a'r iaith. Pwrpas y sioe yw rhoi profiad 'profi cyn prynu' i'r gwerthwyr o fyw fel pobl leol wrth chwilio am eu cartref newydd. Bydd y rhaglen hefyd yn mynd i'r afael â'r sensitifrwydd o amgylch ail gartrefi a'r farchnad dai yng Nghymru.

  • Mike Phillips: Croeso i Dubai

    Mike Phillips: Croeso i Dubai

    Tra bod Jude Cisse yn byw bywyd i'r eitha yn Dubai, mae Rhiana Courlander a'i theulu yn benderfynol o gadw eu cefndir Cymreig yn fyw yma. Mae hen ffrind i Mike Phillips, artist Julian Castaldi yn cofio'r hen ddyddiau gyda'r cyn chwaraewr. Ac Mike yn wynebu un o'i ofnau mwyaf.

  • MabinOgi-Ogi a Mwy!

    MabinOgi-Ogi a Mwy!

    Criw Stwnsh yn cyflwyno chwedlau Cymru mewn ffordd ti 'rioed 'di weld o'r blaen! Yr wythnos hon, dyma eu fersiwn nhw o stori Culhwch ac Olwen. Digon o hwyl, chwerthin a rapio!

  • Mabinogiogi - Cyfres 2

    Mabinogiogi - Cyfres 2

    Fersiwn bywiog criw Stwnsh o stori Twm Siôn Cati. Yr wythnos hon mi fydd yna lot o ddwyn a chwarae triciau wrthi ni ddilyn hanes lleidr pen-ffordd enwocaf Cymru.

  • Gwyliau Gartref

    Gwyliau Gartref

    Yn y gyfres newydd hon, byddwn ni'n mynd ar wyliau byr yng Nghymru. Dau griw ar ddwy gyllideb wahanol, ond sut hwyl gawn nhw arni' Biwmares ar Ynys Môn yw'r lleoliad y tro hwn, tref lan môr lle mae dewis eang i siwtio pob poced.

  • Itopia - Cyfres 1

    Itopia - Cyfres 1

    Drama 'sci-fi' llawn diregelwch. Mae ITOPIA wedi rhyddhau'r 'Z' ¿ dyfais cyfathrebu chwyldroadol. Mae Lwsi'n cael trafferth i ddod i arfer gyda'r 'Z' ac yn gofyn am help gan Zac. Mae Alys a Macs yn anghytuno ynglŷn â'r ffordd orau i ddelio â'r hyn welson nhw yn yr Uned Biotech.

  • Bwystfil

    Bwystfil

    Dyw teyrnas yr anifeiliaid byth yn stopio symud, o nofio'n ddwfn o dan y môr i hedfan dros gopaon coed. Mae'n amser i gwrdd â deg bwysfil sy'n symud mewn grŵp.

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Pwy fydd y môr-ladron sy'n ymuno â Ben Dant a Cadi i herio'r byd y tro 'ma'

  • Amser Maith yn ôl - Oes y Tywysogion

    Amser Maith yn ôl - Oes y Tywysogion

    Heddiw yn 'Amser Maith Maith yn ôl' mae na brysurdeb mawr yn llys Llywelyn. Yn anfodus mae 'na frwydro ac mae un o'r milwr sydd wedi anafu yn dod i'r llys. Mae Grwgyn y gwas a Non y forwyn yn edrych ar ôl Iestyn y milwr.

  • Teulu Ni

    Teulu Ni

    Cawn ein tywys ni drwy'r digwyddiadau mawr a bach sy'n digwydd mewn teuluoedd o amgylch Cymru.

  • Dysgu Gyda Cyw

    Dysgu Gyda Cyw

    Rhaglenni addysgiadol ar gyfer y plant lleiaf.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Mynd ar y ceffyl Cân draddodiadol am antur yng nghefn gwlad ar gefn ceffyl a thractor.

  • Ein Byd Bach Ni

    Ein Byd Bach Ni

    Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, plant a'r diwylliant yno.

  • Awyr Iach

    Awyr Iach

    Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Meleri yn ymweld a Sioe Aberystwyth yng nghwmni Tomi, Ianto a Morys gyda Mali a Macs yn cael hwyl ar dwyni tywod Merthyr Mawr a Huw ac Elan yn cwrdd a dwy ffrind sydd wrth eu bodd yn marchogaeth.

  • Oli Wyn

    Oli Wyn

    Cyfres i blant meithrin am gath fath fywiog sy'n hoffi cerbydau o bob math.

  • None

    Guinness World Records Cymru 2024

    Dilynwn yr ymdrechion i dorri recordiau Guinness World Records Cymru 2024 - ac mae un ymgais uchelgeisiol yn cynnwys lori anferth, monster truck a'r rhaff tynnu'r gelyn hiraf yn y byd! Yna, mae Bois y Pizza ac Ysgol y Strade yn anelu at dorri record y llun cerdyn fflip fwyaf - a bydd ymgais hefyd i dorri record y 20 metr cyflymaf ar Space Hopper ac adeiladu'r t¿r uchaf wedi ei neud o bicau ar y maen! Alun Williams a Rhianna Loren sydd yn ôl i dorri mwy o recordiau Guinness World Records!

  • Llanw

    Llanw

    Defnyddio'r llanw fydd thema rhaglen ola'r gyfres. Dau nofiwr sydd am groesi o Ynys Enlli i'r tir mawr, taith adain un o awyrennau mwya'r byd ar Afon Dyfrdwy, a Chymraes sy'n teithio i'r Arctig ar drywydd llanw newydd sy'n ein bygwth ni i gyd.

  • Adre

    Adre

    Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yng nghyfres 5 o 'Adre'.

  • Siwrna Scandi Chris

    Siwrna Scandi Chris

    Ym mhennod olaf y gyfres mae'r cogydd tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts yn profi danteithion Copenhagen yn Denmarc.

  • Pigo Dy Drwyn

    Pigo Dy Drwyn

    Ymunwch â Gareth a Cadi ynghanol y cyffro wrth i'r tîm pinc a'r tîm melyn o Ysgol Gynradd Gymraeg Pontyclun chwarae gemau snotlyd a swnllydi i ennill Y Tlws Trwynol!

  • Siwrne Ni

    Siwrne Ni

    Cyfres newydd, llawn hwyl a fydd yn dilyn plant a'u teuluoedd wrth iddyn nhw deithio mewn car gyda'i gilydd ar siwrnai arbennig. Y tro 'ma, mae Emily yn teithio i Abertawe ar gyfer cystadleuaeth dawns neuadd.

  • Bendibwmbwls

    Bendibwmbwls

    Mae Ben Dant ar antur newydd i ailgylchu, a throi sbwriel yn sbeshal, a gwastraff yn gampwaith. Heddiw bydd e'n ymuno á disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg, Pontypridd i greu trysor penigamp

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    None

  • None

    Windrush: Rhwng Dau Fyd

    Rhaglen newydd yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu. Beth yw bod yn Gymry' Sut mae siaradwyr Cymraeg yn edrych ' Beth am yr iaith ni'n ei defnyddio' 75 mlynedd ers I fenwnfudwyr o'r Caribi gyrraedd Prydain ar long y Windrush, Emily Pemberton sy'n holi'r cwestiynau, gan dynnu ar brofiadau ei theulu, ffrindiau a chymuned ddoe a heddiw yng Nghaerdydd.

  • Priodas Pum Mil

    Priodas Pum Mil

    Abbey a Danial o Bwllheli yw'r pâr hyfryd sy'n cael priodas am bum mil o bunnoedd tro 'ma! Yn lwcus iddyn nhw, mae ganddyn' nhw lond trol o deulu a ffrinidau sydd am wneud yn siwr eu bod nhw'n cael y diwrnod gorau un!

  • Ffasiwn Drefn

    Ffasiwn Drefn

    FFASIWN DREFN - RHAGLEN 4 Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'n trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Meinir Williams Jones o Ynys Môn sy'n cael ei drawsnewid.

  • Cyw

    Cyw

    Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.

  • None

    Port Talbot - Diwedd y Dur?

    Mae gwaith dur Tata yn ymgynghori ar golli 2,400 o swyddi yn y gwaith dur ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Yn y rhaglen hon fe fyddwn ni yn dod i wybod mwy am y gymuned trwy lygaid dau aelod. Mae'r dref a'r ardal yn ddibynnol ar y gwaith dur am gyflogaeth, ac mewn rhyw fodd neu gilydd, mae pob un agwedd bron ar y gymuned â chysylltiad gyda'r gwaith dur. A oes yna obaith i'r gymuned ar ôl colli'r nifer hyn o swyddi'

  • Cynefin

    Cynefin

    Iestyn Jones sy'n adrodd hanes Ynys Dewi mewn Cynefin Byr.

  • Heno

    Heno

    Arwyn Herald fydd yn lawnsio Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gwanwyn a byddwn yn cael sgwrs a chân gyda Lowri Evans.

  • Lorient 2023

    Lorient 2023

    Mae'r cerddorion Al Lewis a Mari Mathias ar bererindod i Wyl Interceltique Lorient, yn Llydaw. Mae'r wyl yn ddathliad unigryw o gerddoriaeth a diwylliant y gwledydd Celtaidd, gyda 5,000 o gerddorion, cantorion, dawnwsyr, ac artistiaid gweledol yn perfformio yno. Mi fydd na gerddoriaeth, sgyrsiau, a lliw yr wyl drwy lygaid Al Lewis a Mari Mathias.

  • Dathlu!

    Dathlu!

    Cyfres newydd, llawn hwyl a fydd yn dilyn plant a'u teuluoedd wrth iddyn nhw ddathlu dathliad arbennig gyda'i gilydd. Y tro 'ma,y mae Gwenlli a'i ffrindiau yn paratoi i ddathlu Sul y Pasg yn y capel lleol yn ogystal ag adref ar y fferm.

  • Prynhawn Da

    Prynhawn Da

    Rhaglen arbennig yn hel atgofion gyda Glynnog Davies - cynhyrchydd a cyn-gyflwynydd Heno a Prynhawn Da ers dechrau'r rhaglen, sydd erbyn hyn wedi ymddeol.

  • Pawb a'i Farn

    Pawb a'i Farn

    Sion Jenkins fydd yn llywio trafodaeth Pawb a'i Farn o neuadd Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth. Ymysg y pynciau sy'n cael eu trafod fydd prinder meddygon teulu, yr angen i fynd a'r afael a thlodi plant, a sut mae dirywiad y diwydiant amaeth yn peryglu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

  • Cefn Gwlad

    Cefn Gwlad

    Hanes Siôn Williams, o'r Foel, Dyffryn Banw yn wreiddiol, sydd nawr yn Rheolwr Fferm ar stad Buccleuch, yn yr Alban, yn ffarmio 18,000 o erwau mewn ffordd sy'n agoriad llygaid go iawn.

  • Nos Da Cyw

    Nos Da Cyw

    Sh! Mae'r haul yn mynd i'w wely ac mae'n amser i ni gael stori fach cyn cysgu. Heddiw cawn stori Plwmp a Deryn yn mynd i wersylla.

  • Boom!

    Boom!

    Y gyfres wyddoniaeth ffrwydrol sy'n gwneud yr arbrofion sy'n rhy beryglus i'w gwneud adre'. Yn y bennod yma bydd y brodyr Bidder yn dangos pam na allwn wastad ymddiried yn ein llygaid a bydd Dr Peri yn creu past dannedd eliffant.

  • Cymoedd Roy Noble

    Cymoedd Roy Noble

    In the second series, Roy Noble visits more South Wales Valleys including the Neath, Gwendraeth, Swansea and Loughor Valleys.

  • None

    Barry John: Cofio'r Brenin

    Dyma raglen deyrnged i gofio am un o fawrion y byd rygbi yng Nghymru fu farw yn ddiweddar - Barry John. Bydd teulu a chyfeillion yn hel atgofion am ei fywyd a'i dalent aruthrol. Rhaglen deimladwy ac emosiynol am un o eiconau Cymru ac un o'r chwaraewyr rygbi gorau welodd Cymru erioed, wrth ddathlu ei fywyd a'i gyfraniad aruthrol.

  • Taith Bywyd

    Taith Bywyd

    Owain Williams fydd yn mynd a'r cyn aelod seneddol, Sian James ar daith bywyd. Byddwn yn clywed hanes Streic y Glowyr pan ddarganfyddodd Sian ei llais, a sud deimlad oedd cael ei stori wedi ei adrodd yn y film lwyddiannus, Pride.

  • Cefn Gwlad

    Cefn Gwlad

    Fel teyrnged i'r diweddar Iolo Trefri, dyma gyfle arall i weld Mari Lovgreen yn dathlu bywyd un o gymeriadau chwedlonol Ynys Môn - na, nid y digrifwr Tudur Owen ond ei dad, sydd wedi treulio oes yn arloesi ac arbrofi. Nid pob ffarmwr sydd wedi creu brîd newydd o ddafad, mentro i fyd adloniant, sefydlu bwyty enwog a zoo nid anenwog, ac wedyn yn 90 oed penderfynu adfer ty tafarn!

  • Heno Aur

    Heno Aur

    Cyfres gydag Angharad Mair a Siân Thomas yn dathlu 30 mlynedd o raglen Heno. Eisteddwch nôl i chwerthin a rhyfeddu ar rai o straeon mawr ddiwedd y 90au. Yn rhaglen ola'r gyfres, bandiau 'Cool' y cyfnod, Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghymru, dathlu'r mileniwm a sgwrs gyda'r cyflwynydd Aled Jones.

  • Codi Hwyl America

    Codi Hwyl America

    Ym mhennod ola'r gyfres wrth i Dilwyn a John ddirwyn tuag at ddiwedd eu taith, maent yn ymweld â Wales yn nhalaith Wisconsin. O faneri'r ddraig goch i enwau strydoedd, maent yn rhyfeddu at yr holl arwyddion adawodd y sefydlwyr o Gymru ym mhob man. Caiff Dilwyn ei urddo i frawdoliaeth enwog beicwyr Harley Davidson yn nhref Milwaukee gerllaw, tra bod John yn darganfod mai Cymry o Fôn, ac nid Almaenwyr ddechreuodd fragu yn y ddinas enwog a gaiff ei galw'n brifddinas fragu'r byd. Daw'n amser wedyn i

  • Adeiladu'r Freuddwyd: Camp Out West

    Adeiladu'r Freuddwyd: Camp Out West

    Ni'n dilyn siwrnai gwr a gwraig, Jon ac Emilie a'u ci, Maggie, wrth i nhw adeiladu'r freuddwyd yng ngorllewin Cymru.

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • None

    Aled Jones a Ser y Nadolig

    Dathlwch hud y Nadolig gydag Aled Jones a'i ffrindiau, gyda pherfformiadau gan Aled ei hun, Al Lewis, Lily Beau, a Carly Paoli. Mae No Good Boyo yn dod â'u tro arferol ar rai o ffefrynnau'r ¿yl, mae Glain Rhys wrth y piano, ac mae Siwan Henderson a Steffan Rhys Hughes yn dod â chyffyrddiad o hud y West End i bethau. Hefyd yn cynnwys Y Cledrau, Brigyn, a Band Pres Tongwynlais, gyda diweddglo i'w gofio gan Aled a chôr arbennig iawn.

  • Ar Dâp - cyfres 2

    Ar Dâp - cyfres 2

    Y tro hwn, y band Adwaith sy'n rhannu eu cerddoriaeth gyda ni.

  • Ar Werth

    Ar Werth

    Dilynwn rai o werthwyr tai amlycaf Cymru gan brofi'r holl emosiwn a'r ddrama sy'n dod gyda rhoi ty ar werth.

  • Awyr Iach

    Awyr Iach

    Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Huw a'r criw yn helpu Cerys ar Fferm Gymunedol Abertawe, gawn ni gwrdd â Ceiron a lot o ieir, bydd Kyra yn sgwtera i'r ysgol a bydd Meleri yn chwilota yn y pyllau glân môr gyda Florence a Martha

  • Bariau

    Bariau

    Rhagflas o Bariau - Pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Ionawr 3.

  • Be Di'r Ateb

    Be Di'r Ateb

    Yn y bennod hon, mae Jade yn cwrdd â Lora, sydd eisiau gofyn i'w chariad, Richard, symud i mewn gyda hi, i'w chartref newydd. Ond, Be di'r ateb'

  • Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Y tro hwn, awn i Baris. Dinas llawn cariad. Dinas llawn diwylliant. Dinas llawn bwyd. Mae'n daith chwedlonol sy'n enwog am y gwrthdaro rhwng Cymru a'r Les Bleus nerthol. Ond dyw'r bois ddim yma am y rygbi - ma' nhw am flasu'r bwydydd arbennig gall y ddinas hon, sy mor enwog am y bwyd, ei gynnig. Pizzas gyda'r enwog Yves Camdeborde, madarch yn tyfu mewn hen maes parcio, seidr a parti pizza wrth gwrs. Ooh la la!

  • Bois y Rhondda

    Bois y Rhondda

    Yn dilyn y rhaglen ddogfen ddiweddar Bois y Rhondda, bydd y gyfres hon yn dilyn anturiaethau nesa'r criw ifanc o Gwm Rhondda wrth iddyn nhw addasu i'r byd newydd sydd ohoni, a wynebu heriau nesa' bywyd. Mewn cyfres gynnes llawn hiwmor a dagrau, byddwn yn cael cip ar gymhlethdodau'r gymdeithas fodern, a'r brwydrau mae cenhedlaeth iau yn eu hwynebu pan nad oes llawer o gyfleoedd yn yr ardal mae nhw wedi'u magu ynddi.

  • None

    Bry: Mewn Cyfyng-gyngor - 1

    Mae Bry bellach yn gweithio i'r Cyngor fel Swyddog Gwastraff, ond mae problemau ar y gorwel. Odi glei, mae Bry: Mewn Cyfyng Gyngor.

  • None

    Bry:Mewn Cyfyng Gyngor - 2

    Ma' Bry nôl! A ma fe dal Mewn Cyfyng Gyngor. Dyw bywyd byth yn hawdd, yn enwedig i Swyddog Gwastraff gyda babi newydd. Ar ben hyn rhaid i Bry drefnu angladd, ac yn waeth fyth... priodas. Wrth gwrs, dyw pethe byth yn mynd yn iawn ....

  • None

    Bwyd Byd Epic Chris

    Yn y bennod arbennig hon, mae Chris yn cydweithio gyda chymuned rhyngwladol Cymru i greu ryseitiau anarferol tanbaid. O'r Caribî i Ynysoedd y Philipinau, Syria a Japan - bydd cogyddion talentog o bedwar ban byd yn helpu Chris i weini'r bwyd i'r Cofis yn ei farchnad Nadoligaidd yng Nghaernarfon!

  • None

    Can i Gymru 2024

    Darllediad byw o Arena Abertawe, gyda 8 cân newydd yn brwydro am dlws Cân i Gymru a £5,000! Perfformiadau byw gan HMS Morris, Bronwen Lewis a Mared Williams.

  • None

    Carol yr Wyl 2023

    10 carol mewn 10 lleoliad arbennig. Pa ysgol fydd yn ennill teitl Carol yr ¿yl 2023' Mared Williams ac Elidyr Glyn sy'n beirniadu'r gystadleuaeth boblogaidd yma i ysgrifennu carolau gwreiddiol ar gyfer plant ysgolion cynradd.

  • Ceffylau, Sheikhs a Chowbois

    Ceffylau, Sheikhs a Chowbois

    Mae Sue ac Emrys wedi teithio i Scottsdale, Arizona ar antur siopa i brynu Ceffylau i rai o'u cleientiaid cyfoethog o fewn Sioe mwyaf ceffylau Arabaidd yn y byd.

  • Celwyddgi

    Celwyddgi

    Pedwar o bobl, pedwar datganiad, ond mae rhywun yn dweud celwydd. I rannu'r wobr o £500 mae'n rhaid darganfod y celwyddgi neu a fydd yr un sy'n gallu palu celwydd yn gadael gyda'r arian i gyd'

  • Chris a'r Afal Mawr

    Chris a'r Afal Mawr

    O fannau enwog i berlau cudd, bydd y cogyddion tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts a Tomos Parry yn coginio a chiniawa o amgylch Efrog Newydd¿ a thanio angerdd gwladgarol gyda gwledd Gymreig arbennig yn Brooklyn!

  • Chwarter Call

    Chwarter Call

    Ymunwch â Cadi, Luke, Jed a Miriam yn y gyfres gomedi Chwarter Call. Digonedd o hwyl a chwerthin gyda teulu'r Anhygoels, Mic Moc a chriw Steddfod Sili.

  • None

    Cofio Clive Rowlands

    Rhaglen deyrnged i gofio'r chwaraewr a'r hyfforddwr rygbi diweddar, Clive Rowlands.

  • None

    Cofio Llewod '71

    Ailddarllediad arbennig yn dilyn marwolaeth Barry John yn ddiweddar. Hanner canrif ers i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd am yr unig dro erioed, mae arwyr rygbi Cymru - gan gynnwys Barry John mewn cyfweliad prin yn y Gymraeg - yn cofio'r daith eiconig, a sut drechwyd Y Crysau Duon gan un o'r timau gorau erioed.

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn y gyfres yma mae'n edrych ar sut mae bwyd yn medru ail-ddeffro hen atgofion. Yma mae Colleen yn creu ryseitiau i greu atgofion newydd i'r teulu.

  • None

    Cranogwen gyda Ffion Hague

    Yr hanesydd a'r ddarlledwraig Ffion Hague sy'n olrhain stori yr arwres arloesol Cranogwen, wrth i gerflun arbennig ohoni gael ei ddadorchuddio yn Llangrannog.

  • Curadur - Cyfres 2

    Curadur - Cyfres 2

    Mae'r bennod olaf yn y gyfres yn mynd â ni i'r Dê-Ddwyrain i gwrdd â Lemfreck, y cerddor o Gasnewydd, wrth iddo ddilyn traddodiad y ddinas o chwyldro a cheisio dod a'r Gymraeg a sîn MOBO Cymru ynghyd. Perfformiadau gan Lemfreck, Mace the Great, Lily Beau, Luke RV a Dom & Lloyd.

  • Curadur - Cyfres 3

    Curadur - Cyfres 3

    Cate Le Bon sy'n curadu'r bennod arbennig hon - o Orllewin Cymru i anialwch Joshua Tree, California. Gyda Pys Melyn, Accu, Kris Jenkins, Samur Khouja, Devendra Banhart, Courtney Barnett a Stella Mozgawa.

  • Cymru, Dad a Fi

    Cymru, Dad a Fi

    Cyfres yn dilyn taith tad a mab, Wayne a Connagh Howard, o gwmpas rhai o ynysoedd Cymru. Yn rhaglen ola'r gyfres, bydd y ddau'n cael profiad 'ysbrydol' ym Machynys; taith wyllt draw i Ynys Echni, ac ymweliad ag ynys mwya' poblogaidd Cymru ¿ Ynys y Barri!

  • None

    Cyngerdd Heddwch Berlin

    Ailddarllediad i nodi penblwydd Karl Jenkins yn 80. Ar Dachwedd 11, 2018, i goffau canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu cantorion o bedwar ban byd yn uno ar gyfer telediad o berfformiad yr Offeren Heddwch gan Syr Karl Jenkins yn Arena Mercedes Benz, Berlin. Gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain, bydd côr unedig o leisiau o 27 gwlad yn dod ynghyd mewn dinas sy'n symbol o heddwch, undod, rhyddid a goddefgarwch. Ymhlith y gwledydd fydd Awstria, Israel, Awstralia, Rwsia, Seland Newydd, Yny

  • Cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023

    Cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023

    Rhan o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023 - o Llwyfan y Maes - cyfle i fwynhau gwledd o gerddoriaeth gan y Candelas.

  • Cyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol 2022

    Cyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol 2022

    Lisa Gwilym yn cyflwyno Dafydd Iwan a'r band mewn noson fythgofiadwy o Lwyfan y Maes, Eisteddfod Ceredigion 2022.

  • None

    Cyw a'r Gerddorfa 2

    Sioe Nadolig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chast o gymeriadau a chyflwynwyr poblogaidd Cyw. Mae pawb ym Myd Cyw yn edrych ymlaen i ddathlu'r Nadolig! Maen nhw wrthi yn paratoi pan ddaw galwad gan Cyw i ddweud bod yna argyfwng! Tybed a ddaw Cyw adre ar gyfer y diwrnod mawr ac a oes digon o amser i Siôn Corn lenwi sled' Efallai gall Deian a Loli helpu'

  • Cywion Bach

    Cywion Bach

    'Buwch' yw gair heddiw ac mae Bîp Bîp, Pi Po, Bop a Bw yn dysgu'r gair tra'n paentio, chwarae, darllen llyfr a llawer mwy! Mŵ!

  • None

    DRYCH: Dyfodol i Dewi

    Mae 'Dyfodol i Dewi' yn dilyn brwydr foesol y comediwr Eleri Morgan am ddod â babi i fyd ansicr, oherwydd newid hinsawdd. Ar ôl addo peidio â chael plentyn ei hun, oherwydd ôl troed carbon enfawr babanod y Gorllewin; mae Eleri yn ffeindio ei hyn gyda beichiogrwydd sioc, a 6 mis i ddod o hyd i ffyrdd o gael babi mwy ecogyfeillgar, a rywfaint o bositifrwydd am y dyfodol. .

  • None

    DRYCH: Stori Alys

    Dawnsio yw popeth i Alys. Ond llynedd newidodd ei bywyd dros nos wrth iddi golli ei choes mewn damwain adref. Mewn dogfen emosiynol, dirdynnol ond yn llawn gobaith a dewrder, byddwn yn dilyn Alys ar ei siwrne i geisio dawnsio eto.

  • Dan Do

    Dan Do

    Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn yn ymweld â chartref teulu sydd â dylanwad Americanaidd yn Llanblethian.

  • Dan Do

    Dan Do

    Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld â beudy sydd wedi ei drawsnewid yn gartref trawiadol yng Ngogledd Ceredigion, tŷ newydd sbon sy'n gartref perffaith i'r teulu yn y Gwyr, a thŷ teras braf yn ardal Pontcanna o Gaerdydd.

  • None

    Dathlu Dewrder 2023

    Mae Dathlu Dewrder 'nôl ac eleni eto fe fyddwn ni'n anrhydeddu ein harwyr tawel yma yng Nghymru. Bydd Elin Fflur, Owain Tudur a Lloyd Lewis yn llywio'r cyfan o seremoni fawreddog yn Sir Gâr. Fe fydd y dagrau'n llifo a'r gwenu'n un, a'r cyfan wrth inni ddathlu dewrder ein harwyr arbennig.

  • None

    Deian a Loli a Chloch y Nadolig

    None

  • None

    Deian a Loli ac Ysbryd y Nadolig

    Pennod arbennig am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Mae hi'n Noswyl Nadolig ac wrth gyfarfod â sowldiwr bach o'r enw Arwen mae Deian a Loli'n dysgu bod 'na argyfwng - mae Ysbryd y Nadolig wedi diflannu a heb hwnnw fydd y Nadolig wedi ei ganslo! Rhaid helpu Arwen ddod o hyd i Ysbryd y Nadolig reit sydyn cyn i'r Nadolig ddod i ben am byth!

  • Der' Dramor 'Da Fi!

    Der' Dramor 'Da Fi!

    Ma' pedwar person sydd erioed wedi cwrdd yn teithio dramor i'r Algarve. Pob un wedi trefnu eu diwrnod delfrydol nhw ar y gwyliau, o weithgaredd, i fwyd, hyd yn oed llety. Bydd pob dewis yn cael i'w sgorio, gyda'r enillydd yn cipio gwobr o £1000.

  • None

    Ein Hail Lais

    Jess Davies, Gav Murphy, Lily Beau, a Nick Yeo sy'n trafod eu perthynas â siarad Cymraeg fel ail iaith.

  • Ein Llwybrau Celtaidd

    Ein Llwybrau Celtaidd

    Sir 5 ar y daith yw Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin. Awn i Gaerfyrddin i fwynhau'r sîn roc Gymraeg yng Ng¿yl Canol Dre, i fwynhau seiclo yn ardal Llanelli, bro'r Scarlets, am drip i Dalacharn i flasu ysbryd Dylan Thomas ac am chips ar draeth Llansteffan. Gorffenwn yn y Mynydd Du, Drefach Felindre a Llandysul. Yna daw'r daith i ben yn sir enedigol Ryland, Ceredigion. Cawn fwynhau afonydd, traethau, pentrefi a threfin, trenau, rhaeadrau a promenâd!

  • FFIT Cymru 2023

    FFIT Cymru 2023

    Beth ydi canlyniad dilyn cynllun iach FFIT Cymru' Mae 6 mis wedi mynd heibio ers i ni weld trawsnewidiad diwethaf Kelly, Matthew, Andrea, Linette a Dylan. Mewn rhaglen arbennig ymunwch â'u ffrindiau, teuluoedd a Lisa Gwilym wrth i ni ddathlu moment fawr: canlyniad taith chwe mis colli pwysau yr arweinwyr, gyda chefnogaeth barhaol yr arbenigwyr.

  • None

    Fairbourne: Y Môr Wrth y Drws

    Fairbourne ym Meirionnydd fydd o bosib y pentref cyntaf ym Mhrydain i ddiflannu dan y dwr oherwydd newid hinsawdd. Dyma'r trigolion yn sôn am eu bro hardd a'u sefyllfa argyfyngus wrth iddynt wynebu lefel y môr yn codi.

  • Fferm Fach

    Fferm Fach

    Mae Guto eisiau gwybod o ble mae mefus yn dod. Felly, mae Hywel, y ffermwr hud, yn mynd ag ef i Fferm Fach er mwyn dangos hud ffermio go iawn iddo.

  • None

    Ffyrnig

    Noson o gomedi LHDTC+ wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Eglwys Norwyaidd hanesyddol Bae Caerdydd, wedi ei chyflwyno gan Al Parr. Sêr y sioe yw rhai o ddigrifwyr gorau Cymru - Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Sianny Thomas. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gymuned Ddawnsfa Gymreig.

  • Gareth!

    Gareth!

    Gareth yr Orangutan sy'n cyflwyno Gareth!, ei raglen deledu hir-ddisgwyliedig ble mae Gareth, ynghyd a'i fand, HMS Morris yn cyfarfod ac yn sgwrsio gyda rhai o wynebau amlycaf Cymru. Yn y rhaglen hon bydd Gareth yn cyfweld y gantores ac awdur, Non Parry ynghyd a'r actor a digrifwr, Iwan John.

  • Goro' Neud

    Goro' Neud

    None

  • Grid - Cyfres 2

    Grid - Cyfres 2

    Cipolwg i fywyd Solwen, merch 17 oed a'i ffrindiau sy'n byw 'off-grid' mewn cymuned yn Sir Gâr.

  • Gwesty Aduniad

    Gwesty Aduniad

    Ym mhennod ola emosiynol y gyfres mae y Gwesty yn helpu Myra Williams, 91 oed, i ddod o hyd i fedd ei brawd bach, sydd ar goll ar ochr arall y byd, ers dros 70 mlynedd. Mae yna aduniad i Ian Thomas, sydd wedi bod yn chwilio am ei chwaer ers dros 10 mlynedd.

  • Gwrach y Rhibyn

    Gwrach y Rhibyn

    Mae'r awr olaf wedi cyrraedd. A fydd y pedwar tîm yn llwyddo i gyrraedd lloches ddiogel a dianc rhag Gwrach y Rhibyn' Mae'n ras yn erbyn amser i ysgolion Bro Myrddin, Brynrefail, Eifionydd a Tryfan ac mae yna sawl rhwystr arall o'u blaenau.

  • Hansh

    Hansh

    I ddathlu mis Hanes LHDT+ mae Miriam Isaac, Leo Drayton a Dan Huw Bowen yn mynd ar daith o amgylch Cymru i ymweld â lleoliadau nodedig yn hanes cwiar Cymru.

  • Hansh ar yr Hewl

    Hansh ar yr Hewl

    Garmon ab Ion sy'n arwain y gynulleidfa trwy gyfres o heriau sy'n seiliedig ar fformatau gemau sydd wedi eu gweld yn flaenorol ar fideos Hansh. Yn gymysgedd o wynebau cyfarwydd y sianel ac aelodau o'r gynulleidfa, bydd Garmon yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd "Pwy sy'n well: Gogs neu Hwntws'" Bydd y cystadleuwyr yn mynd benben yn erbyn wynebau cyfarwydd y sianel mewn heriau poblogaidd e.e 'Cwis Trydanol', 'Be Sy' Yn Y Bocs' a 'Dwi erioed wedi'.

  • Heno Aur

    Heno Aur

    Rhaglen arbennig Nadolig o 'Heno Aur' gydag Angharad Mair a Siân Thomas. Eisteddwch nôl i chwerthin a rhyfeddu ar rai o straeon Nadolig y nawdegau cynnar.

  • Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Cipolwg gonest ac agored o'r sin rygbi hoyw yng Nghymru.

  • Iaith ar Daith

    Iaith ar Daith

    Yn y rhaglen olaf o'r gyfres Iaith ar Daith y comedïwyr a'r actorion Jayde Adams a Geraint Rhys Edwards sy'n teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Jayde i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Jayde yn gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Geraint wrth ei hochor ar hyd y ffordd. Ac fe fydd digon o gaws i gyd-fynd gydag ambell jôc gawslyd falle' Ond- a fydd y Gymraeg yn llifo neu'n brifo'

  • Itopia - Cyfres 2

    Itopia - Cyfres 2

    Drama sci-fi llawn dirgelwch.

  • Lwp ar Dap

    Lwp ar Dap

    None

  • Misho

    Misho

    Cyfres sydd yn edrych ar pob math o sefyllfaoedd all godi pryder i blentyn bach; a dyma gyfle i dawelu meddyliau bach drwy ganu, sgwrsio a lot fawr o chwerthin! Y teimlad o fod yn bryderus sydd dan sylw yn Misho heddiw, ac mae Mr Diarth yn ei gwneud hi'n anodd iawn i blentyn bach aros yn nhŷ Mamgu.

  • Ni yw'r Cymry

    Ni yw'r Cymry

    Rhagflas o'r gyfres trafod newydd - Ni yw'r Cymry.

  • Nos Da Cyw 'Dolig

    Nos Da Cyw 'Dolig

    Stori fach Nadoligaidd cyn cysgu. Mali Harries sy'n darllen stori hudolus am benbleth Siôn Corn ar noswyl Nadolig, ond pwy ddaw i'w helpu tybed'

  • Nôl i'r Gwersyll

    Nôl i'r Gwersyll

    Bydd y criw yn aros ym mloc Penhelyg am eu penwythnos yn yr 80au. Pa weithgareddau fydd wedi'u drefnu i'r gwersyllwyr brwd' Pa lys fydd fwyaf cystadleuol, a beth fydd eu hoff bryd bwyd o'r cyfnod'

  • Pa Fath o Bobl ... 2021

    Pa Fath o Bobl ... 2021

    Miliwn o siaradwyr Cymraeg: dyma nôd ieithyddol Llywodraeth Cymru erbyn 2050. Ydi'r strategaeth yn debygol o lwyddo neu oes mwy o obaith i weledigaeth Garmon o Gwffio, Caru a Canu' O frwydr ymladd MMA i sesiwn ffotograffiaeth a gig, mae Garmon yn benderfynol o adael ei farc.

  • Paid Ti Meiddio Chwerthin

    Paid Ti Meiddio Chwerthin

    Cyfres newydd gyda Molly Palmer yn rhoi pedwar cystadleuydd o dan bwysau i beidio chwerthin! Yr wythnos hon mi fydd Dom James, Mared Parry, Mali Haf a Geraint Rhys Edwards yn cymryd rhan.

  • Paid Ti Meiddio Chwerthin - Cyfres 2

    Paid Ti Meiddio Chwerthin - Cyfres 2

    Ni gyd 'di bod 'na, y teimlad o ishe chwerthin pan chi ddim i fod. Ie, mae Molly yn ei hôl! Y tro yma, mae Gwion Ifan yn trio cracio myfyrwyr Prifysgol De Cymru!

  • Pen Petrol - Cyfres 2

    Pen Petrol - Cyfres 2

    Be sy'n mynd mlaen mewn un o'r 'car meets' drwg-enwog sy'n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain bob wythnos' Dyna mae criw ceir Unit Thirteen isio ffeindio allan yn y bennod olaf o'r gyfres, cyn neidio o un eithaf i'r llall a theithio ar draws y môr Gwyddelig at LZ Festival i weld ffordd llawer gwell - a saffach - o fwynhau ceir.

  • None

    Pluen Eira

    Mae'r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr wyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda'u mab newydd Frank sy'n un ar ddeg mlwydd oed!

  • Pobol y Rhondda

    Pobol y Rhondda

    Ail gyfres o'r rhaglen sy'n cyflwyno'r Rhondda a'i phobl yng nghwmni un o fois yr ardal, Siôn Tomos Owen.

  • Pren ar y Bryn

    Pren ar y Bryn

    Mae trefn yn cael ei adfer gyda Clive yn ôl yn saff yn y gorlan - ond am ba mor hir' A wnaiff Margaret a Sylvia gytuno i helpu Clive rhoi claddedigaeth ddilys i Glyn fel yr addawodd e' Ac os y gwnânt, yna sut' A oes rhywun arall maent yn trysto i gamu i'r adwy'

  • None

    Queens Cwm Rag

    Mae Queens 'Cwm Rag' wedi gadael Llundain ac ar eu ffordd adref i Gymru ar ôl penderfynu dringo'r Wyddfa¿..mewn 'heels'!

  • Richard Holt: Yr Academi Felys

    Richard Holt: Yr Academi Felys

    Mae'r ddau bobydd yn mynd ben-ben i greu a gweini cacennau rhithiol yn ystafell de enwog Richard.

  • Rownd a Rownd-Cyfres 2023

    Rownd a Rownd-Cyfres 2023

    Diwrnod priodas Rhys a Trystan, ac yn dilyn yr helynt efo Chloe, mae pawb yn gweithio'n galed i wneud yr achlysur mor gofiadwy â phosib i'r ddau. A heb dim cynllunio, mae'n edrych fel bod yn ddiwrnod cofiadwy iawn i Dani. Tra mae pawb yn edrych ymlaen at y dathlu, edrych ymlaen at gael mynd i gasglu efan o'r clinic y mae Ioan; mi fydd yn gyfle i'r ddau gwblhau'r trefniadau ar gyfer rhedeg i ffwrdd, ond i hynny weithio, mae'n bwysig cadw'r gyfrinach rhag eu tad. Mae yna dristwch wrth i Mali adael

  • Rygbi Indigo Prem

    Rygbi Indigo Prem

    Gêm rygbi fyw Indigo Prem rhwng Glyn Ebwy a Pont-y-p¿l. C/G 7.30yh.

  • Rygbi Pawb Byw

    Rygbi Pawb Byw

    Cyfle i weld gêm fyw Menywod Abertawe v Menywod Caerdydd. C/G 3.45. Bydd Stadiwm Abertawe yn for o goch a gwyrdd ar un o ddiwrnodau mwyaf y caelender chwaraeon - diwrnod y Farsiti Gymreig. Rhoddodd Fenywod Caerdydd grasfa i fenywod Abertawe y llynedd am yr ail flwyddyn yn olynol - gall y tim cartre dalu'r pwyth yn ol ar eu tomen eu hunain' Ymunwch a Heledd Anna a'r tim am yr holl gyffro. Sylwebaeth Cymraeg gan Owain Gwynedd ac Elinor Snowsill a'r Saesneg gan Dave Rogers a Siwan Lillycrap.

  • Rygbi Pawb Stwnsh

    Rygbi Pawb Stwnsh

    Cyfres sy'n canolbwyntio ar rygbi ieuenctid yng Nghymru.

  • Rygbi Pawb Uchafbwyntiau

    Rygbi Pawb Uchafbwyntiau

    Cyfres sy'n canolbwyntio ar rygbi ieuenctid yng Nghymru.

  • Ser Steilio

    Ser Steilio

    Ymunwch a Mirain Iwerydd a Iwan Steffan i weld pwy sydd wedi dod i'r brig a ennill eu lle yn y ffeinal fawreddog. Bydd y 3 sydd a'r marciau uchaf ar draws y gyfres yn mynd ben i ben mewn rhaglen llawn hwyl, egni a lliw i greu gwisg ar gyfer yr artist drag Catrin Feelings.

  • Sgorio Byw

    Sgorio Byw

    Rownd derfynol Tlws Genero Adran 2024 rhwng Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe yn Stadiwm Glass SDM ym Mhen-y-bont ar Ogwr. C/G 17:10.

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Fe fydd Elin yn sgwrsio â'r chwaraewr rygbi rhyngwladol a'r sylwebydd, Nathan Brew. O flaen tanllwyth o dân a thafliad carreg o goedwig Penllergaer, cawn hanes ei fagwraeth ym Mrynaman, ei yrfa ar y cae rygbi, a magu 5 o blant! Dyma sgwrs fydd yn cnesu'r galon ar noson hydrefol oer.

  • Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 2

    Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 2

    Ailddarllediad yn dilyn marwolaeth Leah Owen. Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â Leah yng ngardd ei chartref ym Mhrion, Sir Ddinbych. Er ei bod wedi hyfforddi cenedlaethau o blant Dinbych a'i gwreiddiau bellach yn nwfn yn yr ardal, mae'n parhau i fod yn ¿hogan o Fôn¿ yn ei chalon. O flaen tanllwyth o dân, bowlen o Lobsgows a'r atgofion yn llifo fe ddown ni i nabod Leah, y fam, yr hyfforddwraig a'r gantores sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o blant Sir Ddinbych a Môn.

  • Stryd i'r Sgrym

    Stryd i'r Sgrym

    Penllanw'r gyfres yw'r gêm T1 arbennig rhwng Cymru a Lloegr wrth i dîm Stryd i'r Sgrym wynebu Streatham-Croydon RFC yng nghlwb Cymry Llundain ¿ a hynny ar fore gêm fawr y Chwe Gwlad rhwng Lloegr a Chymru. A yw'r tri mis o hyfforddiant wedi talu ar ei ganfed'

  • Tekkers

    Tekkers

    Cystadleuaeth pêl-droed gyda Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen yn herio dau dîm mewn pum gêm gorfforol. Ysgol Ifor Hael o Gasnewydd sy'n cystadlu yn erbyn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl yn Stadiwm Tekkers y tro yma, gyda help llaw y capteiniaid cystadleuol.

  • Tisho Fforc - Cyfres 1

    Tisho Fforc - Cyfres 1

    Dau desperate singletons yn chwilio am gariad, ond beth ¿ neu pwy ¿ fydd ar y fwydlen tro 'ma' Dishy Dewi a Saucy Shauna fydd yn gofyn am help Mared Parry i ddarganfod os ydyn nhw'n match, neu beidio.

  • Tisho Fforc - Cyfres 2

    Tisho Fforc - Cyfres 2

    Mae Callum yn edrych am ei sgrym nesaf, ond ai Rosie fydd yr un' Mared Parry fydd yn helpu'r ddau ffeindio cariad.

  • Tisho Fforc - Cyfres 3

    Tisho Fforc - Cyfres 3

    A fydd Riley y gôli yn sgorio gyda Charla y drama cwîn ¿ neu fydd o'n cael cic yn y ceilliau'

  • Trefi Gwyllt Iolo

    Trefi Gwyllt Iolo

    Iolo Williams sy'n ein cyflwyno i fywyd gwyllt yn nhrefi Cymru.

  • None

    Tudur Owen: Go Brin

    Mae'r byd a Chymru wedi newid am byth ac mae Tudur wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr or cyfan. Ydi'r byd angen bod mwy diog' Fydd Lloegr byth yn wlad annibynnol' Dylia' plismyn iaith wisgo iwnifforms' Mae Tudur yn gofyn y cwestiynau yma a llawer mwy yn ei sioe stand yp newydd, wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Ond oes ganddo atebion' Go brin!

  • Ty Am Ddim

    Ty Am Ddim

    I Abertawe awn am y rhaglen olaf i dy smart llawn potensial arbwys parc Cwmdoncyn. Mae'n na gryn dipyn o waith i'w wneud a'r ddau sy'n adnewyddu yn weddol dibrofiad. Oes elw i'w wneud os mae'r ddau yn gaddo'r gwaith i adeiladwyr'

  • None

    Wyt Ti'n Iawn?

    Mae'r diwydiant amaethyddol ar cyfradd uchaf o hunanladdiad, mwy na' un proffesiwn arall. Yn 2018 roedd yna 83 o amaethwyr wedi diweddu eu bywydau yng Nghymru a Lloegr. Dyma brofiadau gr¿p o ffermwyr ifanc cafodd eu heffeithio gan salwch iechyd meddwl.

  • Y Byd ar Bedwar

    Y Byd ar Bedwar

    Mae'r cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda wedi wynebu heriau moesol a chyfreithiol, ac yn dal i wneud. Ond pam Rwanda' Ydy hi'n ddiogel' A beth mae'r ddêl hon yn golygu i un o wledydd lleiaf datblygedig y byd' Siôn Jenkins sy'n teithio yno gyda Chymro o Abertawe sydd â gwreiddiau dwfn yn y wlad.

  • Y Byd yn ei Le

    Y Byd yn ei Le

    Mewn rhaglen arbennig, bydd Catrin Haf Jones yn holi'r ddau ymgeisydd sy'n gobeithio camu i sgidie Mark Drakeford fel arweinydd nesa'r Blaid Lafur yng Nghymru - Vaughan Gething AS a Jeremy Miles AS. Bydd panel o westeion yn y stiwdio yn ymateb, a'r Athro Richard Jones yn dadansoddi'r cyfan.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?