Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.
Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.
Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.
Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.
Pedwar cystadleuydd sy'n mynd â ni ar eu hoff deithiau cerdded lleol, gan frwydro i ennill mil o bunnau!
Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.
Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.
Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.
Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar Yodlo hefo Ieuan Jones, yn Ceufadu ar yr afon Tâf yng ngwmni Rhys Pinner, ac yn my
Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.
Mae Gwenan yn benderfynol o gadw i ffwrdd o alcohol a chyffuriau er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o droseddu eto. Mae Tom mewn perygl o gael ei yrru yn ôl i'r llys am fethu ei apwyntiadau gwaith di-dâl. Elin a Danielle ydy'r Swyddogion Prawf sy'n rheoli'r ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.
Cyfres newydd sy'n mynd â ni i ganol cymuned chwarelyddol Bethesda - cymuned glos Gymreig. Yn y rhaglen olaf cawn gwrdd â Carrie Rimes - dynes busnes sy'n dechrau ar fenter newydd gyffrous yn yr ardal wrth iddi droi'r hen eglwys babyddol yn laethdy i wneud caws. Hefyd cawn weld trigolion Bethesda yn dod ynghyd am gêm o bingo ac yn trafod pwysigrwydd cymuned a'u gobeithion am y dyfodol.
Mae'r cyflwynydd Alun Williams, y cogydd Chris Roberts a'r comediwr Kiri Pritchard McLean yn parhau ar eu hantur fythgofiadwy yn Seland Newydd gan symud o ynys y De i'r Gogledd. Ar ôl ceisio pysgota am koura mewn moroedd garw, bydd y tri yn blasu gwin enwog ardal Marlborough, cyn ymweld â'r unig far Cymreig yn hemisffer y De ac ymarfer rygbi gyda thîm merched lleol.
Blodau, llysiau a phethau da bywyd, yng nghwmni Meinir Gwilym, Sioned Edwards, a Rhys Rowlands. Draw ym Mhant y Wennol mae Meinir yn creu storfa wlân i'r adar bach sy'n nythu yn ei gardd, tra mae Sioned yn hau dringwyr blynyddol ym Mhont y T¿r. Yn rhandiroedd Cae Pawb mae Rhys yn paratoi ar gyfer cnydau'r Hydref.
Yn y bennod hon, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn cartref i gwpwl ifanc yng Nghaerfyrddin. Ni fydd gan y cwpwl syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu- a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'
Yn dilyn ei sgwrs gefnogol efo Kay mae Sophie yn frwd i gadw'r berthynas i fynd, ond nid yw Kay mor awyddus. Gyda'i berthynas efo Ben yn datblygu mae Jason yn darganfod ei hun yn annog ei dad i drio am waith yn yr Iard. Ar y wyneb nid yw Ben yn awyddus, ond mi fyddai llwyddo i gael ei droed drwy'r drws yno yn beth i'w groesawu. Mae newyddion da yn cyrraedd yn y post i Caitlin ac mae hi'n dod i benderfyniad pwysig iawn ynglyn ag arian John. Peth hollol wahanol sy'n cyrraedd y mat croeso i Mathew
Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn rhaglen olaf y gyfres mae'n dangos i ni sut i greu prydau 'ffansi pants', rhai sy'n edrych yn fwy cymhleth nag ydyn nhw. Ac mae Mam a Dad Colleen yn dod draw i fwynhau pwdin arbennig.
Mae Deian wedi cael llond bol o'i chwaer yn dweud wrtho be i'w wneud bob munud, a ma' petha'n gwaethygu wrth iddi ddod yn ffrindiau â Gwydion y Dewin sydd yn hoffi rheoli pobl yn fwy na hi hyd yn oed! Ond ydi hi'n saff gyda'i 'ffrind' newydd' A fydd Deian yn gallu cael ei chwaer yn nôl'!
Yn y gyfres hon wedi ei chyflwyno gan Steffan Powell, mae darpar brynwyr yn cael eu paru â pherson lleol fydd yn dangos eiddo iddynt o fewn eu cyllideb ac hefyd yn rhoi cipolwg iddynt o'r gymuned a'r ardal maent yn bwriadu symud iddi - y gymdeithas, y diwylliant a'r iaith. Pwrpas y sioe yw rhoi profiad 'profi cyn prynu' i'r gwerthwyr o fyw fel pobl leol wrth chwilio am eu cartref newydd. Bydd y rhaglen hefyd yn mynd i'r afael â'r sensitifrwydd o amgylch ail gartrefi a'r farchnad dai yng Nghymru.
Tra bod Jude Cisse yn byw bywyd i'r eitha yn Dubai, mae Rhiana Courlander a'i theulu yn benderfynol o gadw eu cefndir Cymreig yn fyw yma. Mae hen ffrind i Mike Phillips, artist Julian Castaldi yn cofio'r hen ddyddiau gyda'r cyn chwaraewr. Ac Mike yn wynebu un o'i ofnau mwyaf.
Drama 'sci-fi' llawn diregelwch. Mae ITOPIA wedi rhyddhau'r 'Z' ¿ dyfais cyfathrebu chwyldroadol. Mae Lwsi'n cael trafferth i ddod i arfer gyda'r 'Z' ac yn gofyn am help gan Zac. Mae Alys a Macs yn anghytuno ynglŷn â'r ffordd orau i ddelio â'r hyn welson nhw yn yr Uned Biotech.
Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Meleri yn ymweld a Sioe Aberystwyth yng nghwmni Tomi, Ianto a Morys gyda Mali a Macs yn cael hwyl ar dwyni tywod Merthyr Mawr a Huw ac Elan yn cwrdd a dwy ffrind sydd wrth eu bodd yn marchogaeth.
Dilynwn yr ymdrechion i dorri recordiau Guinness World Records Cymru 2024 - ac mae un ymgais uchelgeisiol yn cynnwys lori anferth, monster truck a'r rhaff tynnu'r gelyn hiraf yn y byd! Yna, mae Bois y Pizza ac Ysgol y Strade yn anelu at dorri record y llun cerdyn fflip fwyaf - a bydd ymgais hefyd i dorri record y 20 metr cyflymaf ar Space Hopper ac adeiladu'r t¿r uchaf wedi ei neud o bicau ar y maen! Alun Williams a Rhianna Loren sydd yn ôl i dorri mwy o recordiau Guinness World Records!
Rhaglen newydd yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu. Beth yw bod yn Gymry' Sut mae siaradwyr Cymraeg yn edrych ' Beth am yr iaith ni'n ei defnyddio' 75 mlynedd ers I fenwnfudwyr o'r Caribi gyrraedd Prydain ar long y Windrush, Emily Pemberton sy'n holi'r cwestiynau, gan dynnu ar brofiadau ei theulu, ffrindiau a chymuned ddoe a heddiw yng Nghaerdydd.
FFASIWN DREFN - RHAGLEN 4 Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'n trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Meinir Williams Jones o Ynys Môn sy'n cael ei drawsnewid.
Mae gwaith dur Tata yn ymgynghori ar golli 2,400 o swyddi yn y gwaith dur ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Yn y rhaglen hon fe fyddwn ni yn dod i wybod mwy am y gymuned trwy lygaid dau aelod. Mae'r dref a'r ardal yn ddibynnol ar y gwaith dur am gyflogaeth, ac mewn rhyw fodd neu gilydd, mae pob un agwedd bron ar y gymuned â chysylltiad gyda'r gwaith dur. A oes yna obaith i'r gymuned ar ôl colli'r nifer hyn o swyddi'
Mae'r cerddorion Al Lewis a Mari Mathias ar bererindod i Wyl Interceltique Lorient, yn Llydaw. Mae'r wyl yn ddathliad unigryw o gerddoriaeth a diwylliant y gwledydd Celtaidd, gyda 5,000 o gerddorion, cantorion, dawnwsyr, ac artistiaid gweledol yn perfformio yno. Mi fydd na gerddoriaeth, sgyrsiau, a lliw yr wyl drwy lygaid Al Lewis a Mari Mathias.
Dyma raglen deyrnged i gofio am un o fawrion y byd rygbi yng Nghymru fu farw yn ddiweddar - Barry John. Bydd teulu a chyfeillion yn hel atgofion am ei fywyd a'i dalent aruthrol. Rhaglen deimladwy ac emosiynol am un o eiconau Cymru ac un o'r chwaraewyr rygbi gorau welodd Cymru erioed, wrth ddathlu ei fywyd a'i gyfraniad aruthrol.
Fel teyrnged i'r diweddar Iolo Trefri, dyma gyfle arall i weld Mari Lovgreen yn dathlu bywyd un o gymeriadau chwedlonol Ynys Môn - na, nid y digrifwr Tudur Owen ond ei dad, sydd wedi treulio oes yn arloesi ac arbrofi. Nid pob ffarmwr sydd wedi creu brîd newydd o ddafad, mentro i fyd adloniant, sefydlu bwyty enwog a zoo nid anenwog, ac wedyn yn 90 oed penderfynu adfer ty tafarn!
Ym mhennod ola'r gyfres wrth i Dilwyn a John ddirwyn tuag at ddiwedd eu taith, maent yn ymweld â Wales yn nhalaith Wisconsin. O faneri'r ddraig goch i enwau strydoedd, maent yn rhyfeddu at yr holl arwyddion adawodd y sefydlwyr o Gymru ym mhob man. Caiff Dilwyn ei urddo i frawdoliaeth enwog beicwyr Harley Davidson yn nhref Milwaukee gerllaw, tra bod John yn darganfod mai Cymry o Fôn, ac nid Almaenwyr ddechreuodd fragu yn y ddinas enwog a gaiff ei galw'n brifddinas fragu'r byd. Daw'n amser wedyn i
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl
Dathlwch hud y Nadolig gydag Aled Jones a'i ffrindiau, gyda pherfformiadau gan Aled ei hun, Al Lewis, Lily Beau, a Carly Paoli. Mae No Good Boyo yn dod â'u tro arferol ar rai o ffefrynnau'r ¿yl, mae Glain Rhys wrth y piano, ac mae Siwan Henderson a Steffan Rhys Hughes yn dod â chyffyrddiad o hud y West End i bethau. Hefyd yn cynnwys Y Cledrau, Brigyn, a Band Pres Tongwynlais, gyda diweddglo i'w gofio gan Aled a chôr arbennig iawn.
Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Huw a'r criw yn helpu Cerys ar Fferm Gymunedol Abertawe, gawn ni gwrdd â Ceiron a lot o ieir, bydd Kyra yn sgwtera i'r ysgol a bydd Meleri yn chwilota yn y pyllau glân môr gyda Florence a Martha
Y tro hwn, awn i Baris. Dinas llawn cariad. Dinas llawn diwylliant. Dinas llawn bwyd. Mae'n daith chwedlonol sy'n enwog am y gwrthdaro rhwng Cymru a'r Les Bleus nerthol. Ond dyw'r bois ddim yma am y rygbi - ma' nhw am flasu'r bwydydd arbennig gall y ddinas hon, sy mor enwog am y bwyd, ei gynnig. Pizzas gyda'r enwog Yves Camdeborde, madarch yn tyfu mewn hen maes parcio, seidr a parti pizza wrth gwrs. Ooh la la!
Yn dilyn y rhaglen ddogfen ddiweddar Bois y Rhondda, bydd y gyfres hon yn dilyn anturiaethau nesa'r criw ifanc o Gwm Rhondda wrth iddyn nhw addasu i'r byd newydd sydd ohoni, a wynebu heriau nesa' bywyd. Mewn cyfres gynnes llawn hiwmor a dagrau, byddwn yn cael cip ar gymhlethdodau'r gymdeithas fodern, a'r brwydrau mae cenhedlaeth iau yn eu hwynebu pan nad oes llawer o gyfleoedd yn yr ardal mae nhw wedi'u magu ynddi.
Yn y bennod arbennig hon, mae Chris yn cydweithio gyda chymuned rhyngwladol Cymru i greu ryseitiau anarferol tanbaid. O'r Caribî i Ynysoedd y Philipinau, Syria a Japan - bydd cogyddion talentog o bedwar ban byd yn helpu Chris i weini'r bwyd i'r Cofis yn ei farchnad Nadoligaidd yng Nghaernarfon!
Ailddarllediad arbennig yn dilyn marwolaeth Barry John yn ddiweddar. Hanner canrif ers i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd am yr unig dro erioed, mae arwyr rygbi Cymru - gan gynnwys Barry John mewn cyfweliad prin yn y Gymraeg - yn cofio'r daith eiconig, a sut drechwyd Y Crysau Duon gan un o'r timau gorau erioed.
Ailddarllediad i nodi penblwydd Karl Jenkins yn 80. Ar Dachwedd 11, 2018, i goffau canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu cantorion o bedwar ban byd yn uno ar gyfer telediad o berfformiad yr Offeren Heddwch gan Syr Karl Jenkins yn Arena Mercedes Benz, Berlin. Gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain, bydd côr unedig o leisiau o 27 gwlad yn dod ynghyd mewn dinas sy'n symbol o heddwch, undod, rhyddid a goddefgarwch. Ymhlith y gwledydd fydd Awstria, Israel, Awstralia, Rwsia, Seland Newydd, Yny
Sioe Nadolig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chast o gymeriadau a chyflwynwyr poblogaidd Cyw. Mae pawb ym Myd Cyw yn edrych ymlaen i ddathlu'r Nadolig! Maen nhw wrthi yn paratoi pan ddaw galwad gan Cyw i ddweud bod yna argyfwng! Tybed a ddaw Cyw adre ar gyfer y diwrnod mawr ac a oes digon o amser i Siôn Corn lenwi sled' Efallai gall Deian a Loli helpu'
Mae 'Dyfodol i Dewi' yn dilyn brwydr foesol y comediwr Eleri Morgan am ddod â babi i fyd ansicr, oherwydd newid hinsawdd. Ar ôl addo peidio â chael plentyn ei hun, oherwydd ôl troed carbon enfawr babanod y Gorllewin; mae Eleri yn ffeindio ei hyn gyda beichiogrwydd sioc, a 6 mis i ddod o hyd i ffyrdd o gael babi mwy ecogyfeillgar, a rywfaint o bositifrwydd am y dyfodol. .
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld â beudy sydd wedi ei drawsnewid yn gartref trawiadol yng Ngogledd Ceredigion, tŷ newydd sbon sy'n gartref perffaith i'r teulu yn y Gwyr, a thŷ teras braf yn ardal Pontcanna o Gaerdydd.
Mae Dathlu Dewrder 'nôl ac eleni eto fe fyddwn ni'n anrhydeddu ein harwyr tawel yma yng Nghymru. Bydd Elin Fflur, Owain Tudur a Lloyd Lewis yn llywio'r cyfan o seremoni fawreddog yn Sir Gâr. Fe fydd y dagrau'n llifo a'r gwenu'n un, a'r cyfan wrth inni ddathlu dewrder ein harwyr arbennig.
Pennod arbennig am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Mae hi'n Noswyl Nadolig ac wrth gyfarfod â sowldiwr bach o'r enw Arwen mae Deian a Loli'n dysgu bod 'na argyfwng - mae Ysbryd y Nadolig wedi diflannu a heb hwnnw fydd y Nadolig wedi ei ganslo! Rhaid helpu Arwen ddod o hyd i Ysbryd y Nadolig reit sydyn cyn i'r Nadolig ddod i ben am byth!
Sir 5 ar y daith yw Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin. Awn i Gaerfyrddin i fwynhau'r sîn roc Gymraeg yng Ng¿yl Canol Dre, i fwynhau seiclo yn ardal Llanelli, bro'r Scarlets, am drip i Dalacharn i flasu ysbryd Dylan Thomas ac am chips ar draeth Llansteffan. Gorffenwn yn y Mynydd Du, Drefach Felindre a Llandysul. Yna daw'r daith i ben yn sir enedigol Ryland, Ceredigion. Cawn fwynhau afonydd, traethau, pentrefi a threfin, trenau, rhaeadrau a promenâd!
Beth ydi canlyniad dilyn cynllun iach FFIT Cymru' Mae 6 mis wedi mynd heibio ers i ni weld trawsnewidiad diwethaf Kelly, Matthew, Andrea, Linette a Dylan. Mewn rhaglen arbennig ymunwch â'u ffrindiau, teuluoedd a Lisa Gwilym wrth i ni ddathlu moment fawr: canlyniad taith chwe mis colli pwysau yr arweinwyr, gyda chefnogaeth barhaol yr arbenigwyr.
Noson o gomedi LHDTC+ wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Eglwys Norwyaidd hanesyddol Bae Caerdydd, wedi ei chyflwyno gan Al Parr. Sêr y sioe yw rhai o ddigrifwyr gorau Cymru - Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Sianny Thomas. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gymuned Ddawnsfa Gymreig.
Gareth yr Orangutan sy'n cyflwyno Gareth!, ei raglen deledu hir-ddisgwyliedig ble mae Gareth, ynghyd a'i fand, HMS Morris yn cyfarfod ac yn sgwrsio gyda rhai o wynebau amlycaf Cymru. Yn y rhaglen hon bydd Gareth yn cyfweld y gantores ac awdur, Non Parry ynghyd a'r actor a digrifwr, Iwan John.
Garmon ab Ion sy'n arwain y gynulleidfa trwy gyfres o heriau sy'n seiliedig ar fformatau gemau sydd wedi eu gweld yn flaenorol ar fideos Hansh. Yn gymysgedd o wynebau cyfarwydd y sianel ac aelodau o'r gynulleidfa, bydd Garmon yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd "Pwy sy'n well: Gogs neu Hwntws'" Bydd y cystadleuwyr yn mynd benben yn erbyn wynebau cyfarwydd y sianel mewn heriau poblogaidd e.e 'Cwis Trydanol', 'Be Sy' Yn Y Bocs' a 'Dwi erioed wedi'.
Yn y rhaglen olaf o'r gyfres Iaith ar Daith y comedïwyr a'r actorion Jayde Adams a Geraint Rhys Edwards sy'n teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Jayde i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Jayde yn gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Geraint wrth ei hochor ar hyd y ffordd. Ac fe fydd digon o gaws i gyd-fynd gydag ambell jôc gawslyd falle' Ond- a fydd y Gymraeg yn llifo neu'n brifo'
Cyfres sydd yn edrych ar pob math o sefyllfaoedd all godi pryder i blentyn bach; a dyma gyfle i dawelu meddyliau bach drwy ganu, sgwrsio a lot fawr o chwerthin! Y teimlad o fod yn bryderus sydd dan sylw yn Misho heddiw, ac mae Mr Diarth yn ei gwneud hi'n anodd iawn i blentyn bach aros yn nhŷ Mamgu.
Be sy'n mynd mlaen mewn un o'r 'car meets' drwg-enwog sy'n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain bob wythnos' Dyna mae criw ceir Unit Thirteen isio ffeindio allan yn y bennod olaf o'r gyfres, cyn neidio o un eithaf i'r llall a theithio ar draws y môr Gwyddelig at LZ Festival i weld ffordd llawer gwell - a saffach - o fwynhau ceir.
Diwrnod priodas Rhys a Trystan, ac yn dilyn yr helynt efo Chloe, mae pawb yn gweithio'n galed i wneud yr achlysur mor gofiadwy â phosib i'r ddau. A heb dim cynllunio, mae'n edrych fel bod yn ddiwrnod cofiadwy iawn i Dani. Tra mae pawb yn edrych ymlaen at y dathlu, edrych ymlaen at gael mynd i gasglu efan o'r clinic y mae Ioan; mi fydd yn gyfle i'r ddau gwblhau'r trefniadau ar gyfer rhedeg i ffwrdd, ond i hynny weithio, mae'n bwysig cadw'r gyfrinach rhag eu tad. Mae yna dristwch wrth i Mali adael
Cyfle i weld gêm fyw Menywod Abertawe v Menywod Caerdydd. C/G 3.45. Bydd Stadiwm Abertawe yn for o goch a gwyrdd ar un o ddiwrnodau mwyaf y caelender chwaraeon - diwrnod y Farsiti Gymreig. Rhoddodd Fenywod Caerdydd grasfa i fenywod Abertawe y llynedd am yr ail flwyddyn yn olynol - gall y tim cartre dalu'r pwyth yn ol ar eu tomen eu hunain' Ymunwch a Heledd Anna a'r tim am yr holl gyffro. Sylwebaeth Cymraeg gan Owain Gwynedd ac Elinor Snowsill a'r Saesneg gan Dave Rogers a Siwan Lillycrap.
Fe fydd Elin yn sgwrsio â'r chwaraewr rygbi rhyngwladol a'r sylwebydd, Nathan Brew. O flaen tanllwyth o dân a thafliad carreg o goedwig Penllergaer, cawn hanes ei fagwraeth ym Mrynaman, ei yrfa ar y cae rygbi, a magu 5 o blant! Dyma sgwrs fydd yn cnesu'r galon ar noson hydrefol oer.
Ailddarllediad yn dilyn marwolaeth Leah Owen. Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â Leah yng ngardd ei chartref ym Mhrion, Sir Ddinbych. Er ei bod wedi hyfforddi cenedlaethau o blant Dinbych a'i gwreiddiau bellach yn nwfn yn yr ardal, mae'n parhau i fod yn ¿hogan o Fôn¿ yn ei chalon. O flaen tanllwyth o dân, bowlen o Lobsgows a'r atgofion yn llifo fe ddown ni i nabod Leah, y fam, yr hyfforddwraig a'r gantores sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o blant Sir Ddinbych a Môn.
Mae'r byd a Chymru wedi newid am byth ac mae Tudur wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr or cyfan. Ydi'r byd angen bod mwy diog' Fydd Lloegr byth yn wlad annibynnol' Dylia' plismyn iaith wisgo iwnifforms' Mae Tudur yn gofyn y cwestiynau yma a llawer mwy yn ei sioe stand yp newydd, wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Ond oes ganddo atebion' Go brin!
Mae'r cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda wedi wynebu heriau moesol a chyfreithiol, ac yn dal i wneud. Ond pam Rwanda' Ydy hi'n ddiogel' A beth mae'r ddêl hon yn golygu i un o wledydd lleiaf datblygedig y byd' Siôn Jenkins sy'n teithio yno gyda Chymro o Abertawe sydd â gwreiddiau dwfn yn y wlad.
Mewn rhaglen arbennig, bydd Catrin Haf Jones yn holi'r ddau ymgeisydd sy'n gobeithio camu i sgidie Mark Drakeford fel arweinydd nesa'r Blaid Lafur yng Nghymru - Vaughan Gething AS a Jeremy Miles AS. Bydd panel o westeion yn y stiwdio yn ymateb, a'r Athro Richard Jones yn dadansoddi'r cyfan.