S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Ci Da

Ryseitiau

  • Rhaglen 1 - Rhew Cyw Iâr & Afal Cnau

    Rhew Cyw Iâr

    Cynhwysion

    • Cyw Iâr
    • Stoc Cyw Iâr

    Offer

    • Mowld rhew (siap asgwrn)
    • Jwg

    Dull

    • 1.Torra'r cyw iâr yn fân a'u gosod yn y mowld
    • 2.Tollta'r stoc i'r mowld tan ei fod yn gorchuddio'r cyw iâr
    • 3.Rho nhw'n y rhewgell am ddwy awr
    • 4.Cyn eu rhoi i'r ci – gad iddyn nhw doddi ychydig bach

    Afal Cnau

    ***Os oes gen ti alergedd I gnau – paid gwneud y bwyd yma***

    Cynhwysion

    • Afal
    • Menyn cnau (peanut butter) braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg I'r ci.

    Offer

    • Teclyn tynnu canol afal, neu gyllell I dynnu'r canol.

    Dull

    • 1.Golcha'r afal a thynna'r canol oddi yno gyda'r teclyn (falle fyddi di angen help gyda'r cam yma)
    • 2.Llenwa'r canol gyda menyn cnau
  • Hufen Iâ Ci Da

    ***Os oes gen ti alergedd I gnau – paid gwneud y bwyd yma***

    Cynhwysion

    • 1 cwpan o iogwrt plaen braster llawn (nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci)
    • 1 banana
    • Menyn cnau (peanut butter) braster llawn (nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci)
    • Ffyn 'Rawhide'

    Offer

    Cymysgydd (blender)

    Cwpanau papur

    Dull

    • 1.Rho'r cynhwysion yn y cymysgydd
    • 2.Tollta'r gymysgedd I'r cwpanau
    • 3.Rho'r cwpanau yn y rhewgell am 2 awr
    • 4.Yna, rho'r ffon 'rawhide' yng nghanol y gymysgedd
    • 5.Bydd angen gadael nhw yn y rhewgell am 2 awr arall
    • 6.Ar ôl eu tynnu o'r rhewgell, torra'r cwpan papur i ffwrdd, gad iddyn nhw doddi ychydig cyn eu rhoi i'r ci.
  • Da Das Ci Da

    ***Os oes gen ti alergedd I gnau – paid gwneud y bwyd yma***

    Cynhwysion

    • 1 cwpan o iogwrt plaen braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci.
    • ½ cwpan o fenyn cnau braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner).

    Offer

    • Tun pobi (baking tray)
    • Papur coginio (parchment paper)
    • Bag 'ziplock'
    • Siswrn

    Dull

    • 1.Rho'r papur coginio ar y tun pobi
    • 2.Cymysga'r iogwrt a'r menyn cnau gyda llwy nes ei fod yn feddal.
    • 3.Rho'r gymysgedd mewn bag ziplock
    • 4.Torra gornel y bag gyda'r siswrn
    • 5.Pibella'r gymysgedd mewn i ddisgiau bach ar y tun
    • 6.Rho'r tun yn y rhewgell am 30 munud, gad iddyn nhw doddi ychydig cyn eu rhoi i'r ci.
  • Rhaglen 5 - Pawennau Llawn Llus Cynhwysion

    • 1 cwpan o lus (blueberries)
    • 1 banana
    • 170g o Iogwrt Plaen braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci.

    Offer

    • Mowld siap pawen (neu mowld creu iâ)
    • Cymysgydd (blender)

    Dull

    • 1.Rho'r cynhwysion yn y cymysgydd nes bod popeth yn hylif
    • 2.Tollta'r gymysgedd mewn i'r mowld
    • 3.Rho'r mowld yn y rhewgell am ddwy awr, gad iddyn nhw doddi ychydig cyn eu rhoi i'r ci i'w bwyta
  • Rhaglen 6 - Bisgedi Menyn Cnau

    ***Os oes gen ti alergedd i gnau – paid gwneud y bwyd yma***

    Cynhwysion

    • 1 cwpan o flawd gwenith cyflawn (wholemeal)
    • 1 cwpan o ddŵr
    • 1 cwpan o fenyn cnau (peanut butter) braster llawn ac nid un braster isel rhag ofn ei fod yn cynnwys melysydd (sweetner) sy'n gallu bod yn ddrwg i'r ci.
    • 2 lwy fwrdd o fêl
    • 1 ŵy
    • 1 llwy de o bowdr pobi (baking powder)

    Offer

    • Tun pobi (baking tray)
    • Powlen
    • Rholbren
    • Torrwyr bisgedi (neu wydr ben i waered)

    Dull

    • 1.Cymysga'r blawd, yr ŵy a'r powdr pobi
    • 2.Ychwanega'r dŵr, menyn cnau a'r mêl i'r bowlen
    • 3.Cymysga'r cyfan nes ei fod yn edrych fel toes bisgedi
    • 4.Rho ychydig o flawd ar y bwrdd a rholia'r gymysgedd i drwch o tua 1cm.
    • 5.Defnyddia'r torrwyr (neu'r gwydr) i wneud y bisgedi yna'u gosod ar y tun pobi.
    • 6.Falle fyddi di angen help oedolyn gyda'r rhan yma –
    • coginia'r bisgedi yn y popty am 18 munud ar dymheredd o 180˚ neu marc nwy 4.
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?