S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Ennill Het Bwced CIC!

Isie siawns i ennill het bwced CIC? Tecstia ni yn ystod y sioe! I gystadlu, rhaid:

Tecstio CIC a dy enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau yn ystod rhaglen CIC Byw ar ddydd Gwener, 18 Tachwedd 2022.

Pump gwobr sydd i bump enillydd: Het Bwced CIC (Bucket Hat CIC)

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth - pob lwc!

CYSTADLEUAETH CIC BYW CYFLE I ENNILL – HET BWCED (BUCKET HAT).

I gystadlu, rhaid:

Tecstio CIC a dy enw i 80800.

Bydd y gystadleuaeth yn cau yn ystod rhaglen CIC Byw ar ddydd Gwener, 18 Tachwedd 2022.

Pump gwobr sydd i bump enillydd: Het Bwced CIC (Bucket Hat CIC)

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dewisir y PUMP enillydd cyntaf i gysylltu yn ennill un o'r gwobrau hetiau bwced. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillwyr yn derfynol.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar rhaglen CIC BYW, dydd Gwener Tachwedd 18, 2022. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillwyr ar ôl y dyddiad cau.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?