S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Ennill Pecyn FIFA 23 ar PS5 a Crysau Cymru WEDI ARWYDDO!

MAE'R GYSTADLEUAETH WEDI CAU, POB LWC!

Dwy wobr sydd i ddau enillydd gwahanol.

  • 1.PS5 FIFA 23 BUNDLE
  • 2.DAU GRYS PÊL-DROED CARTREF CYMRU (WEDI ARWYDDO GAN DÎM Y DYNION A'R MENYWOD)

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth - pob lwc!

  • CYSTADLEUAETH CIC BYW Y WOBR FAWR
  • I gystadlu, rhaid: Rhoi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar y ffurflen gystadlu ar wefan CIC – s4c.cymru/cic, neu tecstia CIC gyda dy enw i 80800. Bydd y gystadleuaeth yn cau yn ystod rhaglen olaf CIC BYW ar ddydd Gwener, 16 Rhagfyr 2022. Dwy wobr sydd i ddau enillydd gwahanol. DYMA'R GWOBRAU:
  • 1.PS5 FIFA 23 BUNDLE
  • 2.DAU GRYS PÊL-DROED CARTREF CYMRU (WEDI ARWYDDO GAN DÎM Y DYNION A'R MENYWOD)

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dewisir y DDAU enillydd o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Bydd enwau'r enillwyr yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen CIC BYW, ddydd Gwener 16 Rhagfyr, 2022. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?