S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cog1nio

Ryseitiau Nel, Amy a Kirsten

Kebabs Nel

Cebabs cig oen, dip tomato, cous-cous

Cynhwysion:

1/2 pwys o friw-gig oen di fraster

½ winwnsyn bach

1 clôf o garlleg

1 llwy fwrdd cumin sych

½ llwy fwrdd coriander sych

olew olewydd (i frwsio'r cebabs)

pupur a halen

1 llwy fwrdd olew olewydd

1 ewin garlleg

150ml passata

½ llwy fwrdd puree tomatos

¼ llwy fwrdd siwgr

Llond cwpan o cous cous

ciwb stoc llysiau

coriandyr ffres a ¼ lemon i'w addurno

offer arbennig: sgiwers pren, gefel i droi y cebabs a ffoil

Cymysga'r cig, y winwnsyn wediiI dorri yn fân, y garlleg wedi ei dorri'n fân, cumin, coriander pupur a halen a ffurfia kebab hirgrwn . Rho sgiwer drwyddo. Brwsia gyda olew a'i roi e dan gril am 4- 5 munud bob ochr a'I droi gyda'r sgiwer.

Cymysga'r ciwb stoc gyda dwr berwedig a rho'r cous cous I fewn. Rho ffoil ar ben y bowlen/jwg a'I adael.

Ffria'r garlleg mewn olew, wedyn ychwanegu y passata, y puree, siwgr a'i leihau yn saws trwchus tomato mewn sosban .

Rho' kebabs ar blat, gweina gyda ¼ lemwn a dail coriander gyda saws mewn ramekin fel dip.

Tarten Feta Kirsten

Tarten feta spigoglys

Cynhwysion:

1 pecyn toes filo oer

Shibwns

2 ewin garlleg

Nytmeg

1 pecyn dail spigoglys

1 pecyn caws ffeta

1 pecyn cherry tomatoes ar y winwydden

Pecyn bach o datws newydd bach

Olew olewydd

Mintys

HalenPupur du

Rhowch y popty ar 200c/Nwy 6

Coginio'r tatws am 8-10 munud a chael gwared o'r dwr – rhowch I'r neillty a'u torri yn ddarnau bach

Torrwch y ffilo yn hanner a wedyn hanneri eto yn gadael 8 x sgwar

Rhowch y tartennau bach wedi brwshio gyda olew yn y popty am 8-10 munud

Mewn padell ffrio rhowch y sbigoglys, garlleg, shibwns a sesnwch yn dda wedyn tynnwch o'r gwres.

Ychwanegwch nutmeg and ffeta a 'I cymysgu yn ysgafn.

Ffriwch y tatws mewn menyn am 5-10 munud tan yn frown ac ychwanegwch shibwns a tomoatos a'u cogiio am 1-2 funud

Rhowch bach o bersli ar ben y taren gyda thatws a tomatos.

Cyri Penfras gyda reis basmati Amy

Cyri Penfras gyda reis basmati

Cynhwysion:

175g reis basmati

halen

coriander ffres

2 leim

olew olewydd extra virgin

pupur du

powdr cyri mwyn

2 ffiled penfras, tua 200g yr un

menyn

Iogwrt naturiol

Y Reis

Golcha'r reis am funud mewn colander.

Rho'r reis yn y dwr a'i ferwi yn gyflym am 5 munud.

Rho fe trwy'r colander i gael gwared o'r dwr.

Rhowch 2.5cm o ddwr mewn sosban a'I ferwi wedyn ei fudferwi . Rho'r colander ar ben y reis a'i stemio am 8-10 gyda chlawr neu ffoil ar ben y colander wedyn ei dynnu o'r gwres.

Torra ddail coriander yn fân.

Defnyddia zest 2 leim a'u torri yn eu hanner.

Rho popeth mewn gyda'r reis a wedyn ychwanegu y sudd leim

Gyda ychydig o olew olewydd a ma'r reis yn barod.

Y Pysgodyn

Rho'r powdr cyri, halen a phupur ar fwrdd torri. Rolia'r penfras yn y powdr wedyn ei rhoi mewn ffreipan poeth iawn gyda olew a defnyddia llwy i roi olew poeth dros y penfras tra'n coginio. Ar ol 2-3 munud ar bob ochr bydd e'n barod i'w weini.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?