S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cog1nio

Y Ffeinal - Ffeithiau Bwyd

Y Ffeinal

Mecryll

Pysgodyn o'r r'un teulu â'r Tiwna. Mae'n uchel iawn mewn olew iach omega 3 ac yn fwy o faint yn ystod y gaeaf. Mae mecryll sy'n llai na 225g yn cael eu galw'n 'Joeys sydd hefyd o'r un teulu a Tiwna .

Mae'n dda wedi ei biclo, ei fygu, wedi ei orchuddio mewn halen, ar farbeciw, wedi ffrio, mewn cyri neu hyd yn oed yn amrwd.

Granadila (passion fruit)

Pan yn aeddfed mae croen y ffrwyth yn borffor tywyll ac yn grychlyd. Yn wahanol i ffrwythau eraill yr hadau a'r sudd sy'n dda i'w bwyta. Dyw e ddim yn ddeniadol iawn ond mae'r blas yn yn felys ac yn uchel iawn mewn fitamin C.

Siocled Gwyn

Dydy siocled gwyn ddim yn cynnwys coco sef prif gynhwysyn siocled felly nid siocled go iawn yw e. Ond yn ol yr Undeb Ewropeaidd, gawn ni ei alw'n 'siocled gwyn' oherwydd ei fod yn cynnwys canran o fenyn coco.

Couscous

Carbohydrad tebyg i basta yw couscous sy'n cael ei wneud drwy brosesu blawd semolina a'i rolio'n ronynnau bach crwn .

Mae'n gynhwysyn poblogaidd mewn bwyd o Ogledd Affrica. Yn aml caiff ei gymysgu gyda pherlysiau fel persli neu goriander , sbeis , llysiau salad neu/a ffrwythau sych.

Ham Parma

Cig o ardal Parma yn yr Eidal - 'Prosciutto di Parma'. Made'r cig yn dod o goes ôl mochyn sy'n cael ei hallti a'i sychu yn yr awyr agored am fisoedd. Pan fydd yn barod i'w fwyta mae'n cael ei sleisio'n denau iawn, ac yn cael ei fwynhau'n aml fel 'starter' yn yr Eidal sef 'antipasto'.

Brulée

Pwdin clasurol o Ffrainc mae'r ryseit dros 300 mlwydd oed.

O'r gair Ffrangeg am 'losgi' y daw'r term 'brulée'. Mae'n bwdin poblogaidd - cwstard melys gyda haenen o siwgr wedi'i garameleiddio sy'n golygu -'hufen wedi'i losgi'!

Ricotta

Caws ffres, meddal o'r Eidal yw 'ricotta – ystyr y gair ricotta yw ' wedi ei goginio ddwywaith'. Caiff ei wneud o'r hylif sydd fel arfer yn cael ei wastraffu wrth wneud caws.

Mae caws ricotta yn is mewn braster na chawsiau meddal eraill ac mae'n cael ei ddenyddio mewn ryseitiau poblogaidd fel ravioli, cannelloni a lasagne.

Ravioli

Daw'r term Ravioli o'r gair Eidaleg - 'avvolgere' - sef 'i lapio'. Mae ravioli'n cael ei wneud drwy lapio llenwad llyfn o gig, pysgod, caws neu lysiau rhwng dau ddarn tenau o basta ffres a'i dorri'n gylchoedd neu'n sgwariau, sy'n edrych fel clustogau bach.

Saws pomodora

Saws syml pobolgaidd sy'n cynnwys tomatos, olew olewydd a basil. Mae tomatos wedi eu prosesu yn cynnwys lefel uchel o'r cemegyn Lycopene - sydd hefyd yn rhoi lliw coch i'r ffrwyth. Mae'r cemegyn yma yn gallu helpu cadw'r galon yn iach ac yn gallu amddiffyn rhag canser.

Kiev Cyw Iar

Prif ddinas Wcrain yw Kiev. Ryseit poblogaidd o'r 1970's yw Kiev Cyw Iâr – sef brest cyw iâr wedi ei lenwi gyda menyn garlleg . Cafodd ei greu gan gogydd o Rwsia.

Mintys

Un o flasau mwyaf poblogaidd y byd! Mae mintys yn cael ei ddefnyddio i roi blas i bob math o gynyrch o bast dannedd i gwm cnoi, hufen ia, siocled , tatws a diodydd.

Mae yna dros 30 gwahanol fath o fintys.

Parmesan

Caws caled o ardal Parma yn yr Eidal. Dyma un o gawsiau mwyaf poblogaidd y byd. Yn ôl rheolau bwyd yr Undeb Ewropeaidd, dim ond caws ddaw o ardal Parma gyda stamp yr enw swyddogol 'Parmigano Reggiano', sy'n gallu cael ei alw'n Parmesan.

Cennin

Pan aeth y brenin Cadwaladr a'i fyddin i frwydro'n erbyn y Sacsoniaid yn y flwyddyn 640 rhoddwyd gorchymyn i'r milwyr wisgo cenhinen er mwyn gallu gweld y gwahaniaeth rhyngddyn nhw â'r gelyn . O'r frwydr honno , ddaeth y genhinen yn lysieyn cnedlaethol I ni'r Cymry . Mae'n flasus mewn ryseitiau sawrus o bob math.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?