
Gyda afonydd, y môr a bryniau o'u cwmpas, bydd sgiliau'r tîm o Fro Teifi yn dod â nhw adref yn saff? Dere i gwrdd â'r pedwar dewr...

ETHAN
Disgrifia dy hun mewn tri gair…
"Siaradus, Galluog a hapus"
Diddordebau...
"Pêl droed, Rygbi a Maths"
Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…
"Rwy'n dda yn rhedeg ac os oes sialens rhifau, rwy'n hyderus yn datrys problemau mathemateg."

GWYDION
Disgrifia dy hun mewn tri gair…
"Jocar, Siaradus a Chyflym"
Diddordebau…
"Sgio, Gwaith Coed, Pêl-droed"
Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…
"Rwy'n joio bod mas yn yr awyr agored a chreu pethau mas o goed."

LLŶR
Disgrifia dy hun mewn tri gair…
"Swnllyd, doniol a hyderus"
Diddordebau…
"Pêl-droed a rygbi"
Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…
"Rwy'n dda yn cyfathrebu ac yn dda am ddatrys problemau."

SETH
Disgrifia dy hun mewn tri gair…
"Egniol, doniol a siaradus"
Diddordebau…
"Dartiau, Rygbi, Pel droed a Rhedeg"
Rhinweddau fydd yn helpu'r tîm…
"Rwy wastod yn canolbwyntio ar y pethau sydd o gwmpas ac mae gen i lot o stamina."
