S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Anfon fideo i Stwnsh Sadwrn!

Eisiau gweld dy fideo di ar y rhaglen? Danfona fideo i ni nawr i gael siawns o'i weld ar y rhaglen! Dyma ein tips i recordio fideo llwyddiannus:

  • Mae rhaid i'r ffôn fod ar ei ochr 'landscape' a ffilmio o'r wâst fyny.
  • Cyn dechrau rapio, mae rhaid i chi bwyso record, a rhoi clap gyda'ch dwylo.
  • Bydd rhaid recordio'r rap 'mwy neu lai' a rap 'golchi dwylo' fel dau fideo ar wahân plîs.
  • Mae rhaid i'r fideos sydd yma ar y wefan uchod chwarae drwy glustffonau wrth rapio a defnyddio dyfais arall i recordio'r rap.
  • Mae'n bwysig bod pob fideo yn cael ei recordio mewn un cynnig – hynny yw, i beidio stopio recordio tan ddiwedd y rap.
  • Ar ôl gorffen rapio, mae rhaid parhau i wenu a gwneud ystym bys ar hwter am 5 eiliad.
  • Cofiwch wenu a dawnsio a'n bwysicach fyth, i fwynhau!

Mae'r ffurflen hon yn cadarnhau'r termau ynglŷn â chaniatáu cynnwys y llun neu fideo ("Y Deunydd").

1. Rydych chi'n rhoi i Boom Cymru neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan Boom Cymru, drwydded an-ecsgliwsif am byth i recordio, gwneud copi, golygu, atgynhyrchu, a darlledu holl, neu ran o'r Deunydd ar gyfer cynhyrchu, hyrwyddo, ymelwa'n fyd eang am gyfnod cyflawn yr hawlfraint yn y Deunydd ynghyd â phob adnewyddiad ac estyniad mewn unrhyw fodd sy'n hysbys nawr neu a ddyfeisir yn y dyfodol.

2. Rydych yn yn gwarantu ac yn cadarnhau eich bod yn rhydd a heb gyfyngiad i allu ymrwymo i'r telerau hyn ac i roi'r holl hawliau y cyfeiriwyd atynt ym mhwynt 1, a thrwy ymarfer yr hawliau yma ni fydd (a) yn tremasu ar unrhyw hawlfraint, neu unrhyw hawliau personol neu eiddo sy'n perthyn i unrhyw berson arall neu yn dor gytundeb neu dorri rheolau, (b) rhoi hawl i berson arall hawlio taliad gan Boom Cymru neu (c) unrhyw berson sydd yn ymddangos yn y Deunydd sydd wedi rhoi ei ganiatâd er mwyn galluogi Boom Cymru i ymelwa mewn unrhyw fodd neu unrhyw gyfrwng yn fyd eang ac yng nghyfnod cyflawn yr hawlfraint.

3. Rydych yn indemnio'r Cwmni yn erbyn pob achos, cyfreitha, cost, iawndal, colled a hawliad (gan gynnwys heb gyfyngiad, costau cyfreithiol ac unrhyw gostau a dalwyd o dderbyn cyngor Cwnsel) a allai godi yn sgil y ffaith eich bod wedi torri neu fethu a chadw at y gwarantiadau neu'r ymrwymiadau a gynhwysir yn y ffurflen hon.

4. Am ragor o wybodaeth cyfeiriwn at polisi preifatrwydd Boom Cymru

5. Rheolir y Termau ac Amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr ac fe'i dehonglir yn unol â'r gyfraith honno.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?