S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Rôl Selsig

Rôl Selsig berffaith, be gei di well? Ond â fydd rhai Ows a Leah werth eu gweld, neu'n llanast llwyr?

Rôl Selsig

CYNHWYSION

1 cwpan (150g) o flawd plaen

170g o fenyn di-halen, wedi ei droi mewn i giwbiau – angen i'r menyn fod yn oer

Dŵr oer

453g o gig moch

1 llwy fwrdd o sage ffres, wedi ei dorri'n fân

¼ llwy de o halen

1 wy wedi ei guro

DULL

1. Ychwanegwch yr halen, blawd a'r menyn mewn i brosesydd bwyd. Curwch y cyfan nes bod y menyn wedi ei dorri i beli bach mân.

2. Tra bod y prosesydd dal ymlaen, ychwanegwch y dŵr yn araf, nes fod y gymysgedd yn dechrau tynnu o ochr y prosesydd. Stopiwch ychwanegu'r dŵr pan fydd hyn wedi digwydd.

3. Gwasgarwch flawd ar y cownter, a tholltwch y toes allan ar y cownter. Rholiwch y toes i mewn i siap petryal.

4. Plygwch yr ochr bellaf o'r toes mewn at y canol, gwnewch yr un peth gyda'r ochr sydd agosaf atoch chi hefyd fel bod y ddau yn cwrdd yn y canol.

5. Trowch y toes chwarter ffordd, rholiwch y toes allan mewn i betryal a plygwch y toes yn yr un ffordd a cham 4.

6. Lapiwch y toes mewn cling film a'i osod yn yr oergell am 30 munud.

7. Cynheswch y popty i 200°C Ffan. Gosodwch bapur pobi ar hambwrdd pobi.

8. Tra bod y toes yn oeri, rhowch y cig moch a'r sage mewn powlen a'u cymysgu gyda'ch dwylo. Rhowch yn yr oergell nes y bydd y toes yn barod.

9. Gwasgarwch flawd ar y cownter, a rholiwch y toes oer allan mewn i betryal 60cm x 13cm.

10. Siapiwch y gymysgedd cig moch lawr un ochr o'r toes, tua 2.5cm o drwch, gan adael ychydig o le ar ochr y toes ar gyfer y forder.

11. Brwsiwch yr ŵy sydd wedi ei guro lawr yr ochr clir o'r toes, yna codwch yr ochr arall fel eich bod yn gorchuddio'r cig a bod dau ben y toes yn cwrdd ac yn selio.

12. Pwyswch lawr ar y toes gyda cefn llwy er mwyn selio'r toes.

13. Torrwch i ba bynnag maint yr hoffwch! Yna rhowch ar yr hambwrdd pobi.

14. Brwsiwch dop y toes gyda gweddill yr ŵy, wedyn, gyda blaen cyllell torrwch linellau ysgafn yn y toes.

15. Pobwch am 25 munud nes ei bod yn frown ac euraidd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?