S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Byns Pasg

Pasg Hapus! Pwy fydd yn creu'r byns pasg oren a llugaeron gorau?

BYNS PASG - HOT CROSS BUNS OREN & LLUGAERON

CYNHWYSION

Ar gyfer y byns

Croen (zest) 1 Oren, sudd ½ Oren

50g llugaeron ( Cranberry ) wedi sychu

125ml llaeth

25g menyn, wedi torri mewn i giwbiau

1 ŵy mawr

250g blawd bara cryf gwyn

0.5 tbsp burum cyflym sych

1 tsp sbeis cymysg (mixed spice)

50g siwgr caster

Ychydig o olew i iro

Ar gyfer yr eisin

37g blawd plaen

Sudd ½ oren

2.5 tbsp jam bricyll

DULL

CAM 1

Rhowch y croen oren mewn powlen, a'i roi i'r ochr. Tolltwch y sudd mewn i bowlen arall, ychwanegwch 30ml o ddŵr berwedig a'r llugaeron sych, gadewch rhain i socian.

CAM 2

Yna, tolltwch y llaeth mewn i sosban, ychwanegwch y menyn a chynheswch dros wres isel a'i droi bob hyn a hyn nes bod y menyn wedi toddi. Trowch y gwres i ffwrdd a churwch yr ŵy i mewn gyda llaw.

CAM 3

Cymysgwch y blawd bara, burum, 0.5 tsp halen, y sbeis a'r siwgr mewn powlen fawr. Gwnewch bant yn y blawd a tholltwch y gymysgedd llaeth i mewn.

CAM 4

Rhydyllwch y dŵr allan o'r bowlen llugaeron gan ddefnyddio sieve, ac ychwanegwch y ffrwyth i'r bowlen croen oren. Yna, cymysgwch hwn i mewn i'r bowlen toes gyda llwy bren nes mae popeth yn dod at ei gilydd - ni ddylai fod yn ludiog (sticky).

CAM 5

Tolltwch y toes ar y cownter (gwnewch siŵr fod ychydig o flawd ar y cownter gyntaf), tylinwch y toes am 5 munud nes mae'n llyfn ac yn elastig.

Irwch powlen gyda ychydig o olew, yna rhowch y toes yn y bowlen a'i orchuddio gyda thywel. Rhowch mewn rhywle cynnes am 1 awr er mwyn i'r toes godi.

CAM 6

Unwaith mae'r toes wedi dwblu mewn maint, tollwtch allan ar y cownter eto, (angen blawd ar y cownter eto). Curwch y toes gan dylino am 1 munud, mi fydd hyn yn tynnu'r aer mawr allan a rhoi byns hafal neis i chi.

CAM 7

Rhannwch y toes mewn i 8 darn cyfartal, rholiwch mewn i beli a'u gosod ar bapur pobi ar hambwrdd pobi. Rhowch yr hambwrdd mewn bag plastig a'u gadael i godi am 1 awr arall.

CAM 8

Cynheswch y popty i 220C/ 200 ffan / gas 7. Cymysgwch y blawd plaen a 2.5 tbsp dŵr mewn powlen nes mae'n ludiog. Gan ddefnyddio llwy, rhowch y gymysgedd mewn bag peipio gyda thwll BACH iawn ar y pen. Peipiwch groes (neu unrhyw siâp hoffech) ar bob bynsen. Rhowch y byns yn y popty am 20-22 munud nes wedi brownio ar y top.

CAM 9

Tra mae'r byns yn pobi, gwnewch y sglein (glaze). Tolltwch y sudd oren mewn i sosban a chymysgwch y jam i mewn. Gadewch iddo ddechrau berwi dros wres isel, yna gadewch iddo fudferwi am 3-5 munud - mae'n bwysig i gadw golwg ar hwn drwy gydol yr amser a'i droi fel nad yw'n gludo i'r sosban. Unwaith mae'r byns wedi oeri, paentiwch y sglein arnynt. Gadewch iddynt oeri cyn bwyta - gyda menyn wrth gwrs!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?