S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Rysait Yule Log

CYNHWYSION

AR GYFER Y SPWNG SIOCLED:

65g o flawd codi

100g o siwgr mân

4 ŵy mawr.

40g o bowdwr coco.

AR GYFER Y LLENWAD:

  • 300ml o hufen dwbl

AR GYFER YR EISIN SIOCLED AC ADDURNIADAU:

100g o fenyn wedi ei feddalu

200g siwgwr eisin

3 llwy fwrdd o laeth

2 ½ llwy fwrdd o bowdwr coco

DYNION EIRA

  • 6 Ferrero Rocher neu 6 siocled Raffaello
  • Eisin fanila parod.
  • Eisin siocled parod.
  • Ychydig o gyrants neu adduriadau tebyg.
  • 2 Lasyn licorys coch.
  • 1 llwy fwrdd o siwgwr eisin.

FYDD HEFYD ANGEN

Tin Pobi 'Rolyn Swiss'

Papur Pobi

DULL

Cam 1

  • Cynheswch y popty i 200 ° C.
  • I greu y spwng siocled, chwisgiwch yr wyau a siwgwr gyda'i gilydd nes bod yn troi'n liw melyn golau ac yn ysgafn.
  • Ychwanegwch y blawd a'r powdwr coco i'r gymysgedd drwy sifio ac yna cymysgu.
  • Paratowch y tin pobi wrth uro'r tin yn gyntaf gyda menyn ac yna gosod papur pobi dros ben ac yna ei uro'n dda eto.
  • Arllwyswch y gymysgedd i fewn i'r tin ac yna llyfnwch fel ei fod yn gwasgaru a llenwi'r tin.
  • Rhowch y tin yn y popty am 8-10 munud.

Cam 2

  • Torrwch bapur popi i'r un maint a't tin a'i osod ar cownter neu fwrdd y gegin.
  • Gwasgarwch siwgwr eisin dros y papur nes ei fod wedi'i orchuddio.
  • Trowch y spwng siocled allan ar ben y papur a roliwch y sbwng yn dynn o'r ochor lleiaf i'r ochor arall tra dal yn dwym.
  • Gadewch i'r sbwng orffwys tra yn gwneud y llenwad.

Cam 3

  • Ar gyfer y llenwad hufen, chwisgiwch yr hufen tan ei fod yn drwchys.
  • Pan yn barod a bod y sbwng siocled wedi oeri, dat-roliwch y spwng a lledeinwch yr hufen dros y spwng siocled.
  • Roliwch y spwng unwaith eto a dyma chi eich rolyn spwng yn barod i addurno.

Cam 4

  • Ar gyfer yr eisin siocled chwisgiwch y menyn am 4 munud nes ei fod yn feddal.
  • Ychwanegwch y siwgwr eisin a powdwr coco i'r menyn gan ddefnyddio bach o laeth os oes angen nes bod y gymysgedd yn llyfn.

Cam 5

  • Gorchuddiwch y rolyn spwng gyda'r eisin siocled ac yna defnyddiwch fforc i greu llinellau yn yr eisin i edrych fel boncyff coeden.

Cam 6

  • Nawr i greu y dynion bach eira.Yn ofalus gan ddefnyddio sgewer pren, rhowch y siocledi ar y sgewer un ar y tro.Mi fydd angen dau siocled ar y sgewer i greu siap dyn eira.
  • Yna gan ddefnyddio lasyn licorys, clymwch hanner ffordd rhwng y siocledi i greu sgarff y dyn eira.
  • Defnyddiwch eisin parod, cyrants ac addurniadau i rhoi gwyneb i'r dynion eira.Gosodwch ar ben y Yule Siocled.Mwynhewch !
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?