S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Y Gemau Gwyllt

Cystadleuaeth Y Gemau Gwyllt

Mae'r gystdaleuaeth wedi cau - gwylia Tag i weld yr enillydd ar 25 Hydref, pob lwc!

...

​Rheolau Cystadleuaeth Y Gemau Gwyllt

Rhestr gwobrau - dewis UN o'r canlynol

  • Bounce Below, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd – tocynnau i 6 person (rhaid i un fod yn oedolyn cyfrifol)
  • Surf Snowdonia, Dolgarrog, Gwynedd – taleb gwerth £150 i wario ar unrhyw weithgaredd neu nwyddau yn Surf Snowdonia (rhaid bod un person yn oedolyn cyfrifol)
  • Bike Park Wales, Merthyr Tudful – taleb gwerth £150 i wario ar unrhyw weithgaredd neu nwyddau yn Bike Park Wales (rhaid bod un person yn oedolyn cyfrifol)
  • TYF Adventure, Tŷ Ddewi, Sir Benfro – taleb hanner diwrnod i 2 blentyn ac un oedolyn i Arfordiro, Kayakio, Dringo neu Syrffio
  • Mountain and River Activities, Glyn Nedd, Bannau Brycheiniog – Tocyn i 4 person i Gerdded Ceunant (Gorge walking) (rhaid i un person fod yn oedolyn cyfrifol)

RHEOLAU

  • 1.Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan gwmni Boom Cymru TV Cyf neu S4C, eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig i'r gystadleuaeth.
  • 2.Bydd modd cystadlu trwy wefan S+, ar gyfrifon Facebook a Twitter S+ a trwy hashtagio #ygemaugwyllt ar Instagram Y Gemau Gwyllt
  • 3.Rhaid i'r ymgeiswyr fod o dan 16 oed ac rydych yn cadarnhau mai chi sydd wedi tynnu'r llun(iau) yn eich ymgais.
  • 4.Bydd y gystadleuaeth yn cael ei feirniadu gan dîm cynhyrchu Y Gemau Gwyllt.
  • 5.Trwy gystadlu rydych yn rhoi pob hawl i ni ddangos eich llun(iau) ac eich enw ar wefannau Y Gemau Gwyllt, TAG, S4C ac ar deledu yn ddigyfyngiad at ddibenion hyrwyddo.
  • 6.Y wobr yw camera GoPro Hero 4 Session Action a thalebau i un o'r lleoliadau/darparwyr gweithgareddau canlynol: Bounce Below, Surf Snowdonia, Bike Park Wales, TYF Adventure neu Mountain and River Activities.
  • 7.Telerau talebau i Bounce Below: Talebau i 6 o bobl i sesiwn Bounce Below yn Zip World, Chwarel Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3NB. Telerau ac amodau llawn Zip World i'w gweld fan hyn: http://www.zipworld.co.uk/contact/terms-and-conditions/
  • 8.Telerau talebau Surf Snowdonia: Talebau i'w gwario ar unrhyw weithgareddau neu nwyddau ar leoliad Surf Snowdonia, Conway Road, Dolgarrog, Conwy, LL32 8QE. Mwy o wybodaeth ar y gweithgareddau a nwyddau sydd ar gael fan hyn: https://surfsnowdonia.co.uk/. Telerau ac amodau llawn Surf Snowdonia i'w gweld fan hyn: https://surfsnowdonia.co.uk/surf-snowdonia-terms-and-conditions-of-service/
  • 9.Telerau talebau Bike Park Wales: Talebau i'w gwario ar docynnau beicio, tocynnau gwell, hyfforddiant neu logi beic/offer yn Bike Park Wales, Gethin Woodland Centre, Abercanaid, Merthyr Tudful, CF48 1YZ. Mwy o wybodaeth a'r telerau ac amodau llawn i'w gweld fan hyn: http://www.bikeparkwales.com/
  • 10. Telerau talebau TYF Adventure: 2 taleb plentyn ac un daleb oedolyn ar gyfer gweithgaredd hanner diwrnod (arfordiro, syrffio, caiacio, neu ddringo) gyda TYF Adventure, 1 High St, Ty Ddewi, Hwlffordd SA62 6SA. Mwy o wybodaeth i'w weld fan hyn: <http://www.tyf.com/>
  • 11. Telerau talebau Mountain and River Activities: Taleb i deulu o 4 i gymryd rhan mewn sesiwn Cerdded Ceunant yn ardal Rhaeadrau Ystradfellte wedi'i arwain gan Mountain and River Activities, 5 Ynys Nedd, Resolfen, Castell Nedd, SA11 4LR. Mwy o wybodaeth i'w weld fan hyn: <http://mountainandriveractivities.co.uk/>
  • 12. Dyddiad ac amser cau'r gystadleuaeth yw 23:59 ar ddydd Sul, Hydref 23ain, 2016. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  • 13. Ni fydd Boom Cymru yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau, diffyg, amhariad, dileu, neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau
  • 14. Cyhoeddir enw'r enillydd ar raglen TAG ar ddydd Mawrth 25 Hydref 2016. Bydd Boom Cymru hefyd yn cysylltu â'r enillydd wedi cyhoeddi'r enillydd. Bydd y wobr cael ei anfon i'r enillydd.
  • 15. Does dim cyfyngiad ar y nifer o weithiau gall unigolyn ymgeisio.
  • 16. Ni thelir unrhyw gostau teithio nac am bethau ychwanegol fel bwyd a diod.
  • 17. Ni thelir y gost am docynnau ychwanegol.
  • 18. Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.
  • 19. Os na fydd modd i Boom Cymru gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud y trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru, bydd gan Boom Cymru'r hawl i roi'r wobr i ymgeisydd arall.
  • 20. Mae penderfyniad Boom Cymru'n derfynol.
  • 21. Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141. Mae'r gystadleuaeth yn hon rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?