S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Ysbyty Hospital

Pwy sy'n gweithio yn ysbyty gwaethaf Cymru?

Ysbyty Hopsital ydy ysbyty gwaetha’r byd, ac mae’r drysau ar fin agor i bawb weld.

Gwna’n siŵr bo ti'n apwyntiad bob
wythnos, achos Ysbyty Hospital ydy’r lle i fod. Byddi di’n chwerthin nes dy fod di’n sâl!

ENW: Doctor TT (Tomos Tomos)

SWYDD: Doctor

HOFF BETH: Gadjets

CAS BETH: Bod heb ei ffôn

TALENT ARBENNIG: Gwella cleifion gan ddefnyddio ei ffôn

HOFF O DDWEUD: "Hashtag..."


ENW: Ms Glenise De Paris Kardashiân Lloyd-Jones

SWYDD: Y Bos

HOFF BETH: Ei hun

CAS BETH: 'Bandages!'

TALENT ARBENNIG: Cadw cyfrinach

HOFF O DDWEUD: Cliriwch y papurau 'na!


Enw: Bob Owen Siencyn

SWYDD: Glanhawr

HOFF BETH: Mynd ar nerfau Glenise

CAS BETH: Glanhau

TALENT ARBENNIG: Gwerthu sothach

HOFF O DDWEUD: 'Chi moyn prynu...?'


ENW: DJ SAL (Syril Arwel Lewis)

SWYDD: DJ Radio Therapi FM

HOFF BETH: Pice ar y maen

CAS BETH: Byd heb pice ar y maen

TALENT ARBENNIG: Diflasu pobl

HOFF O DDWEUD: O's cacs 'da chi?


ENW: Tudur Ap Mansel

SWYDD: Cynorthwy-ydd Personol

HOFF BETH: Ysbyty heb gleifion

CAS BETH: Pobl heb steil

TALENT ARBENNIG: Dawnsio

HOFF O DDWEUD: Wi'n dwli ar Ysbyty Hospital!


ENW: Lois Williams

SWYDD: Adran Te a Chacs

HOFF BETH: Breuddwydio am fod yn enwog

CAS BETH: Neb yn credu y bydd hi'n enwog un dydd

TALENT ARBENNIG: Darllen y dail te i weld y dyfodol

HOFF O DDWEUD: Amser panad!


ENW: Anni Jones

SWYDD: Nyrs

HOFF BETH: Ysbyty glân a thaclus

CAS BETH: Cleifion budr a blêr

TALENT ARBENNIG: Hypnoteiddio pobl

HOFF O DDWEUD: Sbia mewn i'n llygaid i…….


Dr. Owain Siencyn

ENW: Owain Siencyn

SWYDD: Doctor

HOFF BETH: Achub bywydau, bach a mawr

CAS BETH: Ysbyty heb gleifion

TALENT ARBENNIG: Rhedeg lawr coridorau

HOFF O DDWEUD: Nyrs! BP! Drip!


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?