S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Sut i wylio S4C

Ar ba sianel deledu mae S4C?

  • Yng Nghymru:

    • Freeview (4), S4C HD (104)
    • Sky (104)
    • Virgin Media TV (104)
    • Freesat (104)

  • Yn Lloegr, yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon:

    • Sky (134)
    • Virgin Media TV (164)
    • Freesat (120)

Y diweddaraf gyda S4C Clic

Mae ap S4C Clic nawr ar gael ar Freeview Play, gyda mwy o wybodaeth ar gael fan hyn: Dyfeisiau a setiau clyfar + Teledu clyfar.

Gyda chwaraeon, dramâu, dogfennau a mwy, mae digon o gynnwys i chi fwynhau ar S4C Clic.

Ydy S4C ar gael ar-lein?

  • Mwynhewch rhaglenni S4C yn fyw neu gallwch ddal i fyny ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim.

    Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio y tro nesaf.

    Ewch i s4c.cymru/clic/MyS4C/SignUp ble mae'n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 cam syml.

    1. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.

    2. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!

Pa ddyfeisiau alla’i ddefnyddio i wylio S4C?

Gwasanaethau Mynediad

  • Isdeitlau Saesneg

    Isdeitlau Saesneg

    Mae'r isdeitlau yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, aelwydydd ieithyddol cymysg a phobl f/Fyddar.

  • Isdeitlau Cymraeg

    Isdeitlau Cymraeg

    Mae'r gwasanaeth isdeitlau Cymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ac i bobl f/Fyddar Cymraeg eu hiaith i fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.

  • Sain ddisgrifio

    Sain ddisgrifio

    Mae gwasanaeth sain ddisgrifio ar gael ar gyfer y deillion a'r rhannol ddall. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys disgrifiadau ychwanegol sy'n cyfoethogi mwynhad y gwyliwr.

  • Arwyddo

    Arwyddo

    Mae rhai rhaglenni ar S4C yn cael eu dangos gydag arwyddwr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn.

Dilynwch S4C ar Gyfryngau Cymdeithasol

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?