S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Prentis Digidol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes darlledu? A fyddech yn hoffi ennill cymhwyster tra'n ennill cyflog, os felly, ar eich cyfer chi y mae'r brentisiaeth hon.

Rydym yn cynnig prentisiaeth am 15 mis gyda thâl yn ein hadran Ddigidol. Byddwch yn cael profiad ymarferol o weithio mewn adran sy'n creu cynnwys er mwyn ei osod ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol S4C yn ogystal â datblygu Chwaraewr Clic S4C. Yn ystod eich prentisiaeth byddwch yn dysgu am y gwahanol feysydd busnes sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth darlledu ar draws gwasanaethau teledu ac ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod y cynllun byddwch yn cael hyfforddiant ymarferol sy'n berthnasol i'r swydd, wrth astudio tuag at gymhwyster Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 4 (Llwybr Cyfryngau Rhwydweithiol). Gall unrhyw un sy'n 18 + oed pan fyddant yn dechrau, ac nad oes ganddynt radd raddedig ymgeisio.

Bydd angen o leiaf pedwar TGAU arnoch, gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg.

Bydd angen i chi fod ar gael am gyfweliad rhwng 14-16 Awst 2019.

Mi fydd y brentisiaeth yn cychwyn Medi 2019.

Manylion eraill

Cyflog: £12,600

Cytundeb: 15 mis

Oriau gwaith: 35.75

Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf 2019 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.Nid ydym yn derbyn CV.

Manylion swydd

Ffurflen gais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?