S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Cynorthwyydd Adnoddau Dynol (Cyfnod Mamolaeth)

Mae S4C yn chwilio am Gynorthwyydd Adnoddau Dynol i ymuno a'r adran dros gyfnod mamolaeth. Byddwch yn rhan o dîm bach, yn cyflawni rôl gynghori/cefnogi a fydd yn golygu rhyngweithio'n aml â chyflogeion a datrys/uwchgyfeirio ymholiadau.

Byddwch yn defnyddio systemau Pobl bob dydd ac yn dilyn prosesau i ddarparu gwasanaeth rhagorol. Disgwylir i chi weithio'n annibynnol i ddatrys ymholiadau hyd at gymhlethdod canolig, ac ar y cyd â'r Pennaeth Adnoddau Dynol i reoli materion a phrosiectau mwy cymhleth. Byddwch yn rhoi gwybodaeth i'r gweithlu yn seiliedig ar wybodaeth am bolisïau a phrosesau; gan ddeall y materion a'r problemau a'u rheoli yn unol â hynny. Bydd gofyn i chi greu a thrin adroddiadau sylfaenol i'w dadansoddi.

Cyflog: £22,500-£26,500

Cytundeb: Cyfnod Penodol cyfnod mamolaeth o 9 mis (gyda'r posibilrwydd o estyniad hyd at 12 mis).

Oriau: 35.75 awr yr wythnos

Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17:15 ar 19 Gorffennaf 2019 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu drwy'r post at: Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Ni fydd CV yn cael ei dderbyn.

Manylion swydd

Ffurflen cais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?