S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Holiadur Cyn-Gymhwyso ar gyfer Darparu Gwasanaethau Datblygu a Chynnal Mewnrwyd ar gyfer S4C – AIL-HYSBYSIAD

Mae S4C wedi ail-gyhoeddi Holiadur Cyn-Gymhwyso (Holiadur) ar gyfer darparwyr i'w cynnwys ar restr fer i ddarparu dyfynbris am ddarparu Gwasanaethau Datblygu a Chynnal Mewnrwyd ar gyfer S4C. Mae'r Holiadur wedi ei hysbysebu ar sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Holiadur yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Holiadur i S4C yw canol dydd, 20 Ionawr 2017.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais hwn a/neu'r broses gystadleuol hon at: Rhodri.apDyfrig@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses gystadleuol at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol arall yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur ac/neu'r broses yw canol dydd, 12 Ionawr 2017.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?