S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr Gwasanaethau Diogelwch gyda Gofalwr

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau diogelwch gyda gofalwr ar gyfer ei safle a leolir ym Mharc Tŷ Glas, Llanishen, Caerdydd. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu arSell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Holiadur Cyn-Gymhwyso yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Holiadur Cyn-Gymhwyso i S4C yw canol dydd 13eg Ionawr 2014.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur hwn a/neu'r broses dendro hon at: cwestiwntendr@s4c.co.uk Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur yw canol dydd, 6ed Ionawr 2014.

Tendr Gwasanaethau Diogelwch gyda Gofalwr

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?