S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad am gynigion i greu a gwerthu nwyddau Cyw

Dymuna adain fasnachol S4C wahodd cynigion i gynllunio, cynhyrchu a dosbarthu nwyddau yn seiliedig ar y brand a'r cymeriadau craidd o'i gwasanaeth rhaglenni plant, Cyw (gan gynnwys Cyw, Plwmp, Deryn, Llew, Bolgi a Jangl). Mae'n bosib y bydd hawliau marsiandïaeth ar gyfer mwy o raglenni a chymeriadau sy'n gysylltiedig â brand Cyw ar gael yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2013

Dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion: 16 Awst 2013 am 16:00

Diweddariad

Yn dilyn sylwadau am amseriad dyddiad cau y gwahoddiad i greu marsiandiaeth Cyw a chan gofio bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst - rydym am ymestyn y dyddiad cau tan 4pm dydd Gwener 16 Awst.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?