S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad i dendro i ddarparu gwasanaeth Rheoli Prosiect Taith Nadolig Cyw 2013

Mae S4C yn awyddus i benodi cwmni addas i reoli prosiect Taith Nadolig Cyw o'r dechrau i'r diwedd.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 15 Ebrill 2013 - 12.00 (canol dydd)

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 5 Ebrill 2013 - 12.00 (canol dydd)

Cwestiwn ag ateb

Os fedrwn ni sicrhau cyrraedd y nod ar gyfer pob un o'ch anghenion chi, a bydde chi yn hapus gyda taith sydd dim ond yn mynd i ysgolion?

Byddwn yn ystyried y ceisiadau'n unigol a'r rhesymeg tu ôl y lleoliadau arfaethedig.

A oes dal gennych chi gytundeb gyda Sain (neu arall) i werthu nwyddau? Os ie, fedrwch chi esbonio'r berthynas plîs er mwyn i ni cynnwys y manylion cywir. Neu os na, ydy hwn yn opsiwn i'r cwmni sydd yn tendro i reoli / gwerthu / elwa o'r nwyddau?

Mae gan Sain gytundeb i werthu marsiandïaeth Cyw. Mae'r cytundeb yma'n dod i ben ar 30 Mehefin eleni ac rydym yn y broses o adolygu'n cynlluniau ar gyfer ymelwa ar frand Cyw wedi hyn. Nid yw'n bosib cadarnhau fwy o fanylion ar hyn o bryd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?