S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad am geisiadau i gyhoeddi a gwerthu cerddoriaeth ar bapur Hughes a'i Fab

Sefydlwyd cwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab yn Wrecsam yn 1824 ac mae wedi bod ym mherchnogaeth S4C ers 1984. Dros y blynyddoedd mae wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o weithiau cerddorol a llenyddol ac er nad yw, ar hyn o bryd, yn cyhoeddi unrhyw weithiau newydd, mae ei gatalog o weithiau cyhoeddedig yn cael ei ddefnyddio o hyd ac ar gael i ymelwa arno. Mae'n cynnwys ei gatalog cerddoriaeth cyhoeddedig, ac mae S4C yn dymuno i'r gerddoriaeth gyhoeddedig barhau i fod ar gael i'w ddefnyddio a'i ddosbarthu'n weithredol. Bwriad S4C, felly, yw cynnig trwydded i weithredu hawliau atgynhyrchu a dosbarthu'r gerddoriaeth gyhoeddedig ac rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth y rheiny sydd â diddordeb mewn gwneud hynny. Mae manylion pellach yn y gwahoddiad i dendr atodol.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 25 Mai 2012 - 12:00pm (canol dydd)(drwy e-bost at hughes@s4c.co.uk)

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad neu i dderbyn copi o'r catalog: 4 Mai 2012 - 12:00pm (canol Dydd)(drwy e-bost at hughes@s4c.co.uk)

Cwestiynau

C: A oes modd cael golwg ar ffigurau gwerthiant catalog Hughes a'i Fab?

A: Yn ystod y chwe mlynedd diwethaf, cyfartaledd y gwerthiant blynyddol oedd c£1700. Roedd y cyfanswm gwerthiant ar gyfer 4 allan o'r 6 mlynedd rhwng £1500 a £1800. Mae'r union ffigurau gwerthu'n fasnachol gyfrinachol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?