S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad i dendro: Cytundebau fframwaith cyfieithu

Mae S4C yn tendro am gytundebau fframwaith ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar gyfer llythyrau, dogfennau, adroddiadau, deunyddiau marchnata, canllawiau a pholisïau, yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon a chyfieithu ar y pryd. O bryd i'w gilydd bydd angen hefyd cyfieithu rhai dogfennau cyfreithiol. Bydd angen cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac hefyd o'r Saesneg i'r Gymraeg. Mae manylion pellach yn y gwahoddiad i dendr a'r cytundeb fframwaith atodol.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 15 Mai 2012 - 12:00pm (canol dydd)(drwy e-bost at tendrcorfforaethol@s4c.co.uk)

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad: 24 Ebrill 2012 - 12:00pm (canol dydd)(drwy e-bost at cwestiynautendr@s4c.co.uk)

CwestiynauC: Ydi aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn faen prawf dymunol neu hanfodol? A: Mae aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (neu sefydliad tebyg) yn faen prawf dymunol ond nid hanfodol wrth ystyried profiad a chymwysterau'r ymgeisydd. Byddwn hefyd yn ystyried:Profiad a chymwysterau'r cyflenwr ynghyd ag unrhyw unigolion allweddol a enwir;Enwau cleientiaid eraill a'r ystod o waith a wnaed iddynt;

Gallu i ddarparu'r gwaith ar fyr rybudd.

Tendr Cytundebau Fframwaith Cyfieithu:

Yn dilyn proses dendr agored, mae S4C wedi apwyntio Cymen Cyf, Prysg Cyf, Trosol Cyf, Ewrolingo Cyf a Nerys Hurford Cyf ar gytundebau fframwaith i ddarparu gwasanaethau cyfieithu i S4C am y ddwy flynedd nesaf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?