S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr Gwasanaethau Glanhau

18 Ionawr 2010

Mae S4C yn rhedeg tendr gwasanaethau glanhau ar gyfer ei swyddfa a leolir ym Mharc Tŷ Glas, Llanishen, Caerdydd. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu yn Siwrnal Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a gellir cael gwybodaeth bellach am y tendr yma ar:https://www.sell2wales.co.uk/notices/display.html?NoticeId=19055 Rhaid i bob cwmni a busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Holiadur Cyn-Gymhwyso yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad olaf er mwyn i S4C dderbyn yr Holiadur Cyn-Gymhwyso wedi ei gwblhau yw canol dydd 15fed Chwefror 2010.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur hwn a/neu'r broses dendro hon at: hannah.evans@s4c.co.uk Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur yw canol dydd, dydd Llun 8fed Chwefror 2010

Holiadur Cyn-Gymhwyso (PDF)

Gwerthusiad Holiadur Cyn-Gymhwyso (PDF)

Cwestiynau ac Atebion

Cwestiwn 1:

Ydych chi'n gallu darparu fersiwn Word o'r Ffurflen Gais sydd ar hyn o bryd mewn fformat PDF neu a oes hawl gennym i ail-greu'r ddogfen ein hunain gan sicrhau ein bod ni'n ateb y cwestiynau yn eglur ac yn yr un drefn?

Ateb 1:

Gall Ymgeiswyr ail-greu'r Ffurflen Gais ond cyfrifoldeb yr Ymgeiswyr ydy sicrhau nad oes unrhyw ran o'r Ffurflen Gais yn cael ei golli a bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani wedi'i amgáu o dan y penawdau perthnasol ac yn y drefn gywir. Mae'r Ffurflen Gais ar gael mewn ffurf 'Word' ar gais, fodd bynnag fel y nodwyd uchod, cyfrifoldeb yr Ymgeisydd ydy sicrhau nad oes unrhyw ran o'r Ffurflen Gais yn cael ei golli neu ei ddileu a bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani yn cael ei chyfleu yn y drefn gywir. Os ydy fersiwn 'Word' o'r ddogfen yn cael ei chreu neu ei chwblhau, dylai'r Ymgeiswyr sicrhau bod y datganiad ar ddiwedd y Ffurflen Gais wedi'i harwyddo a bod y Ffurflen Gais gyflawn yn cael ei sganio a'i danfon at S4C yn electronig. Gall unrhyw Ffurflen Gais anghyflawn gael ei heithrio o'r broses.

Tendr Glanhau - Cwestiynau ac Atebion

Cwestiwn 1

C. Oes yna ddogfen brisio i ddilyn neu a ydych yn derbyn ein fformat costio ar gyfer y tendr hwn?

A. Does yna'r un ddogfen brisio i ddilyn - rydym yn disgwyl i'ch fformat costio ar gyfer y tendr ddilyn y canllawiau a osodwyd yn y ddogfen Gwahoddiad i Dendro.

Cwestiwn 2

C. Yn ein barn ni mae'n bosib y bydd y Rheoliadau TUPE yn gymwys yn yr achos hwn, ac er mwyn inni roi ystyriaeth i'r Rheoliadau hyn yn ein tendr, rydym ni angen y wybodaeth ganlynol:

  • Nifer y staff sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd ar y Contract, gan gynnwys staff wrth gefn.
  • Yr oriau y mae pawb Cyflogedig yn gweithio bob wythnos a nifer yr wythnosau y maent yn eu gweithio mewn blwyddyn.
  • Telerau ac amodau'r holl staff glanhau, gan gynnwys cyfraddau cyflog, cyfnodau talu, hawl gwyliau, pensiwn a threfniadau tâl salwch ayyb.
  • Ers pryd mae pawb cyflogedig yn gweithio gyda chi a'u dyddiad geni
  • Unrhyw swyddi gwag

Bydd y wybodaeth a dderbynnir yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac at ddefnydd y Cytundeb hwn yn unig.

A. Gweler y llythyr dyddiedig 20 Ebrill 2010 oddi wrth S4C ynghylch gwybodaeth am TUPE.

Cwestiwn 3

Q. Rydym yn credu y gall TUPE fod yn berthnasol i'r cytundeb hwn, felly a allwch chi gyflenwi manylion cyswllt y deiliaid presennol neu os gwneir y gwaith yn fewnol, a allwch ddarparu'r holl fanylion am yr holl staff a gyflogir?

A. Gweler y llythyr dyddiedig 20 Ebrill 2010 oddi wrth S4C ynghylch gwybodaeth am TUPE.

Cwestiwn 4

C. A allwch ddweud wrthyf a yw'r glanhau trwyadl iawn o'r offer cegin i'w cynnwys yn ein pris?

Os felly, a allwch anfon rhestr o'r offer sy'n cael eu glanhau yn ardal y gegin ar hyn o bryd.

A Gweler paragraff 2.2.16 o atodlen 1 o'r cytundeb drafft. Bydd disgwyl i'r Cwmni i ymgymryd â gwaith glanhau trwyadl iawn yn yr ardaloedd a restrir, sy'n cynnwys ardal y gegin, bob 6 mis. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynnwys yn y pris.

Mae disgwyl i'r canlynol gael eu glanhau fel rhan o'r gwaith glanhau trwyadl iawn bob 6 mis yn y gegin:-

Llawr finyl, sinciau a thapiau golchi dwylo, waliau teils, biniau gwastraff/ailgylchu, sgriniau pry, siliau ffenestr, lloriau (gwaith paent, gwydr a phlatiau troed), darparydd tyweli papur, byrddau neges, matiau rwber diogelwch, mat drws, cyfarpar nwy, poptai combi x2 a theils nenfwd.

Nodwch y dylai'r cyfeiriad at baragraff 2.2.12 ym mharagraff 1.10.1 o Atodlen 1 yn y cytundeb gyfeirio yn hytrach at baragraff 2.2.16.

Yn ogystal â'r darpariaethau glanhau trwyadl iawn 6 misol, mae yna ddarpariaeth ym mharagraff 1.5.2 o Atodlen 1 o'r cytundeb lle mae S4C yn gofyn i'r Cwmni llwyddiannus ymgymryd â gwaith glanhau ar sail ad hoc o ardaloedd penodol o'r adeilad o fewn [8 awr] o'r amser y gwneir y cais. Mae manylion y glanhau trwyadl iawn /glanhau ad hoc yma yn cael eu rhoi i'r Cwmni llwyddiannus gan S4C cyn dechrau ar y gwaith. Dylai'r rhai sy'n tendro ddarparu manylion o'r gost o wasanaethau glanhau trwyadl iawn /glanhau ad hoc fel y gofynnir yn C.2 y ddogfen Gwahoddiad i Dendro a dylai gynnwys cyfradd yr awr gan wahaniaethu rhwng cyfraddau gweithio yn ystod oriau'r dydd, gyda'r hwyr, y penwythnos a gwyliau banc.

Cwestiwn 5

C. A allwch ein cynghori ar y canlynol;

  1. Nifer y bleindiau yno - y rheini'n fleindiau gwyn metel a ffibr polyester.A. Mae yna oddeutu 130 bleind. Fe all hyn newid ar ôl y gwaith adnewyddu ar yr adeilad.
  2. Rydym yn deall bod angen glanhau'r fentiau aer bob 6 mis, a ellir cyrraedd y rhain o'r llawr gyda dwster plu neu gyda vacuum pac cefn os ydynt yn uwch i fyny?A. Gellir cyrraedd y rhain gyda dwster telesgopig.
  3. Hoffem drefnu ymweld â'r safle er mwyn cynnig pris ar gyfer y gwaith glanhau trwyadl iawn yn y gegin. A allwch gadarnhau a yw hyn yn bosibl fel y gallaf wneud y trefniadau angenrheidiol a dychwelyd atoch gydag amser a dyddiad ar gyfer yr ymweliad?A. Yn anffodus, ni fydd yn bosibl trefnu ymwelid safle arall er mwyn ichi baratoi pris ar gyfer glanhau trwyadl iawn o'r gegin. Gweler ein hateb i Gwestiwn 4 uchod.

Cwestiwn 6

C. Yn wyneb eich llythyr dyddiedig 20fed Ebrill 2010 ynghylch gwybodaeth TUPE, os nad yw'r wybodaeth yma ar gael, bydd yn rhaid inni gyflwyno dyfynbris masnachol a fydd yn caniatau inni, os ydym yn llwyddiannus yn ein cais, ailedrych ar ein pris ar ôl derbyn y wybodaeth TUPE. Yng ngoleuni hyn, a allwch gadarnhau eich bod yn dymuno inni fwrw ymlaen â'ch proses dendro?

A. Ewch ati i gyflwyno dyfynbris masnachol. Wrth gyflwyno manylion ar gyfer eich ffi am y gwasanaeth, diystyrwch unrhyw gostau TUPE posibl. Dim ond i'r ymgeisydd llwyddiannus y byddwn yn darparu gwybodaeth TUPE. Bydd y tendrwr llwyddiannus yna'n cael cyfle i ailedrych ar y pris yng ngoleuni'r wybodaeth TUPE.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?