S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Darpariaeth Gwasanaethau Ymchwil Ansoddol i S4C

Hoffai S4C wahodd cwmnïau i dendro i ymgymryd â darparu pymtheg grŵp trafod y flwyddyn, ar gytundeb tair blynedd o 1af Ionawr 2010. Fe amgaeir dogfennau tendro isod (Y ddogfen GID sy'n cynnwys matrics gwerthuso, a'r cytundeb ddrafft).

Y dyddiad olaf am ymholiadau yw 5pm ar 29 Gorffennaf 2009, a'r dyddiad cau am dderbyn ceisiadau yw 5pm ar 11 Medi, 2009.

Dylai pob ymholiad fod drwy ebost i - panel@s4c.co.uk

Gwahoddiad i dendro i ddarparu Gwasanaethau Ymchwil Ansoddol (PDF)

Tendr i ddarparu Gwasanaethau Ymchwil Ansoddol - Cytundeb (PDF)

Cwestiynau ac Atebion

Mae gennym gwestiwn am y GID ymchwil ansoddol. Deallwn na wyddoch chi eto gyda pha gynulleidfaoedd byddwch yn trafod ar gyfer yr ymchwil, ond gobeithiwn y gallwch ddweud wrthym am astudiaethau eraill o'r gorffennol er mwyn i ni gael arweiniad. Yn benodol:

Cwestiwn 1:

Pa gynulleidfa oedd yr hawsaf i'w cyrraedd? Hynny yw, pa rai oedd hawsaf i'w darganfod o bersbectif recriwtio?

Ateb 1:

Darganfod gwylwyr/pobl nad sy'n wrthun i raglenni cwis (ar unrhyw sianeli)- Siaradwyr Cymraeg.

Cwestiwn 2:

Pa gynulleidfa oedd yr anoddaf i'w cyrraedd? Hynny yw, pa rai oedd anoddaf i'w darganfod o bersbectif recriwtio?

Ateb 2:

Darganfod cartrefi gyda theledu analog yn unig, sy'n gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C, ac sydd yn bwriadu mudo i Deledu Daearol Digidol ar ôl Newid i Ddigidol.

Cwestiwn 3:

Ydych chi'n gallu rhoi enghreifftiau o bynciau a drafodwyd gan grwpiau trafod yn y gorffennol? Gallwch chi hefyd nodi ble gynhaliwyd y grwpiau?

Ateb 3:

Mae pynciau diweddar yn cynnwys trafod rhaglenni peilot, profi gwefannau, edrych ar chwaraeon penodol, neu genres rhaglenni penodol a darganfod anghenion y gynulleidfa. Fe gynhelir y grwpiau dros Cymru gyfan - Caerdydd, Abertawe, Llanbedr Pont Steffan, Pontypridd, Bangor, Abergele, Pwllheli, Rhuthun, Aberystwyth, Caerfyrddin ac Ystalyfera i enwi rhai llefydd diweddar.

Cwestiwn 4:

Mae'r GID yn son am 15 grwp trafod i gymeryd lle mewn blwyddyn. Ydych chi'n gallu rhoi amcan o faint o rhain fydd angen cymeryd lle fesul "set"? Mewn geiriau eraill, ydych chi'n disgwyl i'r 15 i gael eu rhannu i 5 set o 3 grwp trafod ar draws Cymru neu rywbeth tebyg?

Ateb 4:

Mae hyblygrwydd yn angenrheidiol yma, fel nodir yn y ddogfen tendr. Ar y funud rydym yn comisiynu 11 grwp mewn setiau o 2 & 1 ar draws y misoedd nesaf. Ar adegau eraill gall maint y setiau fod yn 3, 4 neu mwy.

Cwestiwn 5:

A fyddwch chi angen i'r holl grwpiau trafod gael eu trawsysgrifio?

Ateb 5:

Bydd disgwyl i chi gadw cofnodion o'r drafodaeth -gall hyn fod ar ffurf sain yn unig neu wedi eu trawsysgrifio.

Cwestiwn 6:

Rydych yn son am 'grwpiau gwylio' o hyd at 20 o bobl - o dro i dro. Ydych chi'n disgwyl i ni ddarparu adnoddau gwylio/sgrinio ochr yn ochr a'r grwp trafod?

Ateb 6:

Byddai disgwyl i chi drefnu adnoddau gwylio a sgrinio ond os mae hyn yn golygu cost ychwanegol gallwch nodi hyn.

Cwestiwn 7:

Rydych yn son fod grwpiau gwylio yn achlysurol yn cymeryd lle tu allan i Gymru, mewn pa ranbarthau neu siroedd ydych yn rhagweld hyn yn digwydd?

Ateb 7:

Mae'n anhebygol fydd hyn yn digwydd yn aml iawn, gall y rhanbarthau gynnwys ee Llundain neu ardaloedd y gororau (Cymru/Lloegr).

Cwestiwn 8:

Ydych chi'n rhagweld cynnal amrywiadau o'r grwpiau trafod i siaradwyr Iaith gyntaf a Dysgwyr? Hefyd gallwn ni rannu y grwpiau trafod fesul oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol, ayb… dull clystyru, fel sydd angen, neu ydych chi'n chwilio am ddull strata ym mhob grwp trafod?

Ateb 8:

Mae gan pob prosiect anghenion gwahanol, ond sefyllfa arferol yw os ein bod angen, dyweder, 6 grwp, gall y dosbarthiad fod : 2 yn Ne Cymru, 2 yn y Gorllewin/Canolbarth & 2 yng Ngogledd Cymru. Fel arfer fyddai rhain wedi eu pario o ran demograffeg, hy gall un grwp ym mhob rhanbarth fod yn cynnwys bobl o'r grwp oedran 16-34, gyda dosbarth cymdeithasol yn weddol eang, ac yn wylwyr o raglen penodol. Gall y grwp arall yn y rhanbarth fod yn bobl dros 35 oed, gyda dosbarth cymdeithasol yn weddol eang, ac yn wylwyr o'r un rhaglen. Gall fod fod angen recriwtio cyn-wylwyr o raglen penodol, neu unrhyw griteria arall.

Gallem ofyn i chi recriwtio siaradwyr Cymraeg sy'n Ddysgwyr ar gyfer rhai prosiectau, neu pobl Di-Gymraeg. Gallem hefyd ofyn i chi recriwtio pobl o lefelau rhuglder penodol.

Cwestiwn 9:

A allwn ni gymryd yn ganiataol mai dim ond un grwp a fydd ar gyfer pob lleoliad am bob set o grwpiau ffocws?

Ateb 9:

Nid yn angenrheidiol gan fydd anghenion pob prosiect yn unigryw. Petaech isio costio ar y sail hyn, nodwch hyn, a nodwch os oes arbediad cost petae mwy nac un grwp yn yr un lleoliad.

Cwestiwn 10:

Pan yn recriwtio grwpiau, beth fyddai diffiniad o siaradwr Cymraeg - a fyddai yr un peth a BARB?

Ateb 10:

Gallai' r diffiniad fod yr un peth a BARB, neu yn ddiffiniad syml o Gymraeg sgyrsiol, yn dibynnu ar anghenion y prosiect.

Cwestiwn 11:

Wrth redeg grwpiau, a fyddai'r iaith mae'r grwpiau'n defnyddio yn ddibynnol ar y mwyafrif neu a ddylai pob cyfrannwr fod yn rhydd i gyfnewid?

Ateb 11:

Mae'r mwyafrif o'r grwpiau yn cael eu cynnal yng Nghymraeg gyda siaradwyr Cymraeg a lefelau rhuglder amrywiol, mae nifer llai o grwpiau yn cael eu cynnal ymysg y di-gymraeg. Mae'r rhain fel arfer yn grwpiau arwahan.

Cwestiwn 12:

Gallwch chi ddweud wrthym am y cyfranddalwyr allweddol a'u hanghenion, er enghraifft byddai'r grwpiau yn cael eu defnyddio ar gyfer profi cysyniad, achosion gwerthu neu enrhifo'r farchnad?

Ateb 12:

Mae amrywiaeth eang o gyfranddalwyr a gall pynciau amrywio o edrych ar raglenni peilot a gwefannau newydd, at waith mwy corfforaethol.

Cwestiwn 13:

Bydd y newid i ddigidol a'i effaith ar S4C yn thema allweddol ar gyfer grwpiau trafod?

Ateb 13:

Ni ellir trafod pynciau unigol yn y fan hon.

Cwestiwn 14:

Ydych yn rhagweld defnyddio unrhyw dechnoleg arbenigol o fewn grwpiau trafod ar hyn o bryd, e.e. Teledu HD, PVR, Gwasanaethau Ar-Alw?

Ateb 14:

Efallai bydd gofynion tebyg, dwedwch eich syniadau wrthym.

Cwestiwn 15:

I ba raddau bydd diddordeb gennych i ddefnyddio dulliau dadansoddi arbenigol yn y grwpiau trafod, e.e. tracio'r llygaid, tracio symudiad llygoden?

Ateb 15:

Nodwch pa ddulliau y gallwch ddarparu, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn ein hasesiad o'ch cais.

Cwestiwn 16:

Er mwyn penderfynu ymarferoldeb ac amcangyfrif cost yr ymarfer hwn, byddai'n ddefnyddiol gwybod:

  • Treiddiad y rhyngrwyd/band llydan yng Nghymru fesul rhanbarth
  • Eich gofynion yn nhermau cyflawni'r sampl fesul rhanbarth.

Ateb 16:

  • Awgrymwn eich bod yn defnyddio'r adroddiadau canlynol: http://www.ofcom.org.uk/research/cm/cmrnr08/wales/YFG2008Cymru
  • Mae hyn yn amhosib i ddarogan ar hyn o bryd. Fel arfer byddwn yn ceisio cynrychioli 3 rhanbarth allweddol Cymru ar gyfer pob prosiect (Gogledd, Gorllewin a'r Canolbarth, De).

Cwestiwn 17:

A allwch chi ddarparu esiampl o ddemograffeg y byddwch yn debygol o angen fel model ar gyfer seilio costau recriwtio.

Ateb 17:

Mae hyn yn amhosib ei ddarogan ar hyn o bryd. Awgrymwn eich bod amcangyfrif cymysgedd o wahanol ddemograffeg ar gyfer pwrpas costio.

Cwestiwn 18:

Byddai'n ddefnyddiol gwybod os ydych yn cynnal ymchwil meintiol ar y pynciau hyn drwy ffynonellau eraill, neu yn wir fyddai hyn yn ddatrysiad ychwanegol gwerthfawr i'ch briff.

Ateb 18:

Drwy ffigyrau gwylio BARB mae gennym ddata meintiol ar holl raglenni cyfredol, felly mae hwn pob tro yn ddata ychwanegol os ydym yn edrych ar raglenni teledu cyfredol. Ond, mewn rhai achosion, hwn fyddai'r unig ffynhonnell wybodaeth.

Cwestiwn 19:

Wrth ddarparu grwpiau trafod a fforymau gwylio traddodiadol, oes gofyn darparu fforymau iaith gymysg a fyddai angen cael eu cyfieithu yn syth?

Ateb 19:

Nid yw hyn yn cael ei wneud, mae grwpiau yn cael eu cynnal yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?