S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Ymgyrch Cyfathrebu Trosiad i Ddigidol ar gyfer S4C

Ffurflen Gais ar gyfer eich cynnwys ar y restr fer i dendro am y cytundeb ymgyrch cyfathrebu trosiad i ddigidol

Cwestiwn 1:

A wnewch chi gynghori ar sut i lenwi'r Ffurflen Gais? Mae'r briff yn awgrymu ein bod yn cwblhau'r ffurflen a ddarparwyd, fodd bynnag mae'r ffurflen ar ffurf PDF ac felly mae'n anodd. Ydych chi'n gallu darparu dogfen Word o'r PDF neu a oes hawl gennym i ail-greu cyflwyniad ein hunain gan sicrhau ein bod ni'n ateb y cwestiynau yn eglur ac yn yr un drefn?

Ateb 1:

Mae Ymgeiswyr yn gallu ail-greu'r Ffurflen Gais ond cyfrifoldeb yr Ymgeiswyr ydy sicrhau bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani wedi'i amgáu o dan y penawdau perthnasol. Mae dogfen Word ar gael ar gais, fodd bynnag fel y nodwyd uchod, cyfrifoldeb yr Ymgeisydd ydy sicrhau bod yr holl wybodaeth a ofynnwyd amdani yn cael ei chyfleu. Os ydy fersiwn Word o'r ddogfen yn cael ei chreu neu ei chwblhau, dylai'r Ymgeiswyr sicrhau bod y datganiad ar ddiwedd y Ffurflen wedi'i harwyddo a bod y Ffurflen Gais gyflawn yn cael ei sganio a'i danfon at S4C yn electronic.

Cwestiwn 2:

Ydych chi'n gallu cadarnhau os ydy enw'r ymgeisydd ar y PQQ yn cyfeirio at enw'r cwmni neu enw'r person sy'n ymgeisio ar ran y cwmni?

Ateb 2:

Mae enw'r ymgeisydd yn cyfeirio at enw'r cwmni.

Cwestiwn 3:

Ydych chi'n gallu cynnig gwybodaeth ychwanegol os gwelwch yn dda i egluro'r term 'rheolaeth digwyddiadau' yng nghyd-destun y tendr hwn gan S4C. "Mae'n rhaid i Ymgeiswyr feddu ar brofiad ac arbenigedd mewn rheoli digwyddiadau". Yn ogystal, yn rhan F. Sicrwydd Ansawdd o'r Ffurflen Gais, mae'r cwestiwn yn gorffen gyda'r term "...digwyddiadau yn cael eu cyflwyno mewn ffordd broffesiynol". Ydych chi'n gallu cadarnhau os ydy digwyddiadau yn yr un cyd-destun â'r term ' rheolaeth digwyddiadau' a nodwyd uchod. Os na, ydych chi hefyd yn gallu egluro ystyr y frawddeg hon.

Ateb 3:

Diffiniad S4C ydy rheolaeth gyflawn o ddigwyddiad, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu at, gynllunio a datblygu, staffio, cysylltu gyda chyrff allanol, materion cytundebol a thrwyddedu, a chyflawni'r digwyddiad. Mae Rhan F yn gofyn am eglurhad o sut mae'r Ymgeisydd yn sicrhau ansawdd gwasanaeth mewn perthynas â rheolaeth digwyddiadau (fel sydd wedi diffinio uchod).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?