S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwifren Gwylwyr S4C 10/03/08

Gwifren Gwylwyr ydi prif bwynt cyswllt gwylwyr S4C, gan ymdrin ag ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â gwasanaethau ac allbwn S4C. Mae'r gwasanaeth yn cael ei rheoli gan Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu S4C, yr adran sy'n gyfrifol am hybu pob agwedd o S4C. Fel rhan o'i ymrwymiad i gysylltu â gwylwyr, mae'n angenrheidiol fod S4C yn cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol, cwrtais a llawn gwybodaeth i'r cyhoedd wrth ateb ymholiadau cyffredinol gwylwyr.

Mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 09:00 a 22:00 yn ddyddiol, 365 diwrnod y flwyddyn. Ni ddylai cost galwadau'r gwylwyr fod yn fwy na'r gyfradd genedlaethol gyffredinol o fewn y DU. Yn ystod 2006 derbyniwyd 12,424 ymholiad dros y ffôn, e-bost, llythyron neu ffacs.

Mae'r gwasanaethau'n cynnwys cynnig ymateb addas i ymholiadau dros y ffôn, trwy e-bost, a gohebiaeth ysgrifenedig. Dylid ateb galwadau ffôn pobl gyda diffygion clyw trwy ddefnyddio Minicom. Rhaid i wybodaeth ac atebion i wylwyr gyfateb i bolisïau corfforaethol S4C. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys darparu adroddiadau i S4C ynglŷn ag ymholidau ac atebion, presenoldeb mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a chyfarfodydd cyhoeddus gyda'r gwylwyr.

"Oes hawl gan gonsortiwm wneud cynnig? Os oes, pa fanylion sydd eu hangen ar y ffurflen gais?"

Mae S4C yn derbyn ffurflenni cais a chynigion gan gonsortia. Fodd bynnag, os oes consortiwm yn cynnig tendr sy'n cael ei dderbyn gan S4C, gall S4C ofyn i'r consortiwm ffurfio endyd cynfreithiol cyn cytundebu. Gall fod gofyn am atebolrwydd cyd ac unigol holl aelodau'r consortiwm hefyd.

Os ydy'r Ymgeisydd yn gonsortiwm, rhaid cwblhau ffurflenni cais unigol i bob aelod o'r consortiwm a rhaid rhoi gwybod i S4C pwy ydy prif aelod y consortiwm.

Cliciwch am ffurflen gais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?