S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Archwilio Allanol 2016

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau archwilio allanol. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar sell2wales.gov.wales. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r cais yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r cais i S4C yw canol dydd, 09 Medi 2016.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais hwn a/neu'r broses dendro hon at: tendrarchwilio2016@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, 26 Awst 2016.

Cwestiynau ac Atebion Tendr Gwasanaethau Archwilio Allanol 2016

Cwestiwn 1

A allwch chi gadarnhau bod y gwahoddiad i dendr yn cynnwys gwaith cydymffurfio treth ac os ydy hi'n bolisi i gael un darparwr ar gyfer y ddau wasanaeth?

Ateb 1

Mae'r tendr yn cynnwys y gwaith cydymffurfio treth. Yn y gorffennol yr un darparwr sydd wedi darparu'r ddau wasanaeth.

Cwestiwn 2

Ydi hi'n bosib cwrdd â'r tîm rheoli er mwyn i ni ehangu ein dealltwriaeth o'ch sefydliad ac i ddatblygu ein cynnig archwilio ar gyfer S4C?

Ateb 2

Nid yw'r Tîm Rheoli wedi gwneud hyn yn y gorffennol, fodd bynnag, mae staff allweddol wedi cyfarfod â chwmnïau sy'n ystyried gwneud cais yn y gorffennol. Fe fydd staff allweddol ar gael i drefnu cwrdd ar ddydd Mercher 7 Medi.

Cwestiwn 3

Pa systemau TG ydych chi'n eu defnyddio?

Ateb 3

Dyma'r systemau a ddefnyddir:

  • Y Gyflogres - Earnie.
  • Cyllid – SAP Business 1.
  • System Archebu - Idocuments.

Cwestiwn 4

Beth ydy eich risgiau archwilio sylweddol?

Ateb 4

Risgiau Archwilio Sylweddol. Mae'r cynllun archwilio allanol (sy'n cynnwys risgiau allweddol ar gyfer yr archwiliad allanol) yn cael ei ddatblygu bob blwyddyn gan yr archwilwyr allanol ac yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a'r Bwrdd Masnachol ym mis Chwefror bob blwyddyn. Gellir cyfeirio at dudalennau 116 - 119 o'n Hadroddiad Blynyddol am fwy o ddatganiadau am ein harchwilio a risgiau.

Cwestiwn 5

Sawl awr ydy'r archwiliad yn ei gymryd?

Ateb 5

Mae'r archwilwyr allanol ar y safle yn S4C am tua 14 diwrnod. Fodd bynnag, mae llawer o'r gwaith yn digwydd oddi ar y safle (yn enwedig amser y rheolwyr a'r partneriaid) a gall hyd y fath oriau amrywio.

Cwestiwn 6

Pa adroddiadau ffurfiol ydych chi'n disgwyl oddi wrth eich archwilwyr? e.e. Papur cynllunio a phapur ar ôl cwblhau'r archwiliad?

Ateb 6

Dogfen Cynllunio Archwilio Allanol, Adroddiad Canfyddiadau'r Archwiliad, Llythyrau Cynrychiolaeth, Tystysgrifau Enillion y Cyfarwyddwyr lle'n berthnasol. Bydd angen y rhain ar gyfer yr holl gyrff o fewn y grŵp.

Cwestiwn 7

Beth yw'r amserlen archwilio: gwaith maes yr archwilio, amseru derbyn papurau rheoli, y cyfrifon ac adroddiadau i'r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg?

Ateb 7

Amserlen - Cynllunio ym mis Chwefror, Gwaith Maes pythefnos olaf mis Ebrill, pwyllgorau Archwilio a Rheoli Risg ym mis Mai, Pecyn C flynyddol i'r DCMS ym mis Mai, Cymeradwyaeth Ymddiriedolaeth y BBC a'r DCMS ym mis Mehefin, Gosod y cyfrifon gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf, a chofrestru cyfrifon y grŵp Masnachol yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Cwestiwn 8

Pa dechnegau archwilio cyfrifiadurol sydd yn cael eu defnyddio yn ystod y broses archwilio?

Ateb 8

Nid yw ein harchwilwyr allanol cyfredol wedi trafod y technegau cyfrifiadurol maent yn eu defnyddio.

Cwestiwn 9

Sawl cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg ydy'r archwilwyr yn eu mynychu, ac mewn sawl cyfarfod disgwylir i'r archwilwyr gyflwyno adroddiad?

Ateb 9

Bydd disgwyl i'r Archwilwyr Allanol fod yn bresennol yng nghyfarfodydd yr Awdurdod a'r Bwrdd Masnachol ym mis Mai. O bryd i'w gilydd mae angen iddynt fod yn bresennol mewn cyfarfodydd eraill (e.e. yn 2015/16 cafwyd cyflwyniad gan yr archwilwyr i esbonio'r newidiadau FRS102).

Cwestiwn 10

A fydd y tîm cyllid yn symud i Gaerfyrddin yn 2018?

Ateb 10

Bydd, fe fydd y tîm cyllid yn symud i Gaerfyrddin yn 2018.

Cwestiwn 11

Ydi hin bosib cael copi o'r datganiad i'r llywodraeth er mwyn i ni ddeall cwmpas y gwaith sydd angen ei wneud?

Ateb 11

Mae gwaith Cyfrif y Llywodraeth Gyfan yn golygu archwilio'r pecyn C a gyflwynir i'r DCMS (Gweithlyfr Excel sy'n cymryd mantolen brawf y Cyrff Hyd Braich [ALB] ac yn ei drosglwyddo i mewn i set o gyfrifon sy'n unol â'r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol [FReM]). Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn delio'n uniongyrchol â'r archwilwyr allanol ar y darn hwn o waith. Byddwn yn trefnu danfon copi o'r pecyn at ymgeiswyr.

Cwestiwn 12

Beth yw cwmpas y gwaith cydymffurfio treth?

Ateb 12

Mae'r gwaith cydymffurfio treth yn cynnwys yr holl gyfrifiadau treth ar draws y grŵp, gan gyflenwi nodiadau dreth statudol ar gyfer eu cynnwys yn y cyfrifon, a ffurflenni treth a gyflwynwyd ar ran S4C ar gyfer pob endid. Bydd unrhyw gyngor treth ychwanegol ar sail ffi ar wahân i'w gytuno.

Cwestiwn 13

Oes modd i chi ddarparu copïau o'ch cyfrifiadau treth blaenorol?

Ateb 13

Ni fedrwn ddarparu copïau o'r cyfrifiadau blaenorol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?