S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Archwilio Mewnol 2015

Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau archwilio mewnol. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r cais yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r cais i S4C yw canol dydd, dydd Iau 5ed o Chwefror 2015.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais hwn a/neu'r broses dendro hon at: tendrarchwilio2015@s4c.co.uk Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, dydd Iau 23ain o Ionawr 2015.

Cytundeb Darparu Gwasanaethau Archwilio Mewnol

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?