S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr Gwasanaethau Symud Swyddfa

Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i drefnu a gweithredu prosiect symud swyddfa gan sicrhau'r effaith lleiaf posib ar barhad busnes S4C. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau ymateb tendr yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r ymateb tendr i S4C yw canol dydd, dydd Gwener 25ain Mai 2018.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r tendr hwn a/neu'r broses dendro hon at: cwestiynautendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r tendr yw canol dydd, dydd Llun 14eg Mai 2018.

*NODER bod y fersiwn Saesneg o'r dogfennau canlynol wedi eu hamnewid â dogfennau wedi'u diweddaru. Nid oes newid i'r fersiynau Cymraeg. 'Appendix 1: Schedule of Furnitre' a 'Carmarthen Office Draft Office Layout'.*

Gwahoddiad i Dendro

Atodiad 1 – Rhestr Dodrefn

Atodiad 2 – Cyllideb Templed

Atodiad 3 – Contract Drafft

Atodiad 4 – Mactrics Safonol

Atodiad 5 – Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol

Cynllun Swyddfa

Cwestiynau ac Atebion Tendr

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?