S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Mynediad ar S4C

Dyma'r cwmniau llwyddiannus yn dilyn y tendr diweddar ar gyfer Darparu Gwasanaethau Mynediad.

  • Sain Disgrifiad: Cardiff Television Cyf (CTV)
  • Arwyddo: ITV Signpost
  • Isdeitlo: Cyfatebol

Cwestiynnau ac Atebion

C: Ydy hi'n bosib i gwmniau wneud cais am rhan o un lot yn unig e.e. Is-deitlo Saesneg yn unig ac eithrio isdeitlo iaith Gymraeg?

A: Na, nid yw'n bosib gwneud cais ar gyfer rhan o un lot. Rhaid i bob tendrwr fedru darparu'r holl ofynion ar gyfer pob lot y maent yn ymgeisio amdanynt.

C: Mae cyfeiriadau tuag at gyfundrefn "Signiant" ar gyfer trosglwyddo ffeiliau. Sut mae modd cael gwybodaeth pellach am y cynnyrch ac a fyddai disgwyl i'r cwmni buddugol orfod buddsoddi neu dalu am danysgrifiad blynyddol?

A: Mae Signiant yn declyn ar gyfer symud ffeil yn sydyn iawn drwy dorri lawr y cuddni (latency) i bron ddim. Bydd y tendrwr buddugol (sy'n darparu'r isdeitlau)_yn cael mynediad at borth ar gyfer uwchlwytho ffeiliau i S4C. Yr oll sydd ei angen gan y tendrwr llwyddiannus ar gyfer defnydd o'r gwasanaeth yw cywllt i'r rhyngrwyd, bydd costau trwyddedu'r meddalwedd wedi eu talu gan S4C. Er mwyn cysondeb y bwriad yw defnyddio yr un system pan fydd S4C yn cydleoli yr elfennau Cyflwyno a Darlledu i adeilad newydd y BBC yn Sgwar Canolog.

C: Ym mha fformat y mae S4C yn disgwyl pris am lwytho/archifo ffeiliau rhaglenni wedi eu hisdeitlo?

A: Dylid ymgorffori'r costau hyn o fewn costau is-deitlo yr awr.

C: Oes disgwyl i'r cwmni buddugol addasu, llwytho ac archifo ffeiliau Heno a Prynhawn Da ac os oes, sut mae S4C yn disgwyl pris ar gyfer y gwaith?

A: Oes,mae disgwyl i'r cwmni buddugol addasu, llwytho ac archifo ffeiliau Heno a Prynhawn Da. Dylai'r costau am wneud hyn gael eu hymgorffori yng ngostau is-deitlo yr awr. Rydym yn disgwyl uchafswm o hyd at 435 awr o raglenni y flwyddyn a fydd angen y gwasanaeth hyn.

C: Oes angen i rywun o'r cwmni buddugol wylio'r isdeitlau yn ystod y broses recordio BIST neu addasu a darparu'r ffeil isdeitlo BIST fydd unig gyfrifoldeb y cwmni?

A: Cyfrifoldeb y cwmni buddugol fydd sicrhau cywirdeb yr is-deitlau, felly dylai hyn fod yn rhan bwysig o'r llif gwaith / proses wirio ieithyddol â thechnegol.

C: Mae ceisiadau wedi dod ger ein bron am wybodaeth datgeliad TUPE.

A: Bydd y wybodaeth o dan Reoliad 11 o Reoliadau TUPE 2006 yn cael ei ddarparu yn dilyn derbyn y cytundeb cyfrinachedd (NDA) wedi ei arwyddo. Bydd rheiny sydd wedi gofyn am fanylion TUPE yn derbyn NDA drwy ebost mewn da bryd.

A: Rydyn ni wedi ychwanegu Atodiad 5 – Ffurflen Wybodaeth Sylfaenol ar ffurf dogfen Word i'r rhestr o ddogfennau uchod.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?