S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen S4C yn dangos pennod ola’ breuddwyd Cymru yng Nghwpan y Byd

02 Hydref 2007

Ceir hanes ecsgliwsif pennod olaf Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2007 yn y rhaglen ddogfen pry-ar-y-wal, Gwesty Cymru ar S4C nos Iau, 4 Hydref am 9.00 o’r gloch.

Bu’r criw ffilmio’n byw gyda’r tîm gyda’u gobeithion yn uchel yn ystod yr holl baratoadau am y gêm yn erbyn Ffiji ac yn gadael am adre’ yn eu cwmni ar ôl y siom fawr o golli o bedwar pwynt yn unig.

“Mae ‘na gyferbyniad mawr o fewn y rhaglen,” medd y cynhyrchydd, Russell Isaac. “Mae gennym luniau ecsgliwsif o gamau ola’ Cymru yn y bencampwriaeth, brwydr ddewr Gareth Thomas i fod yn iach ar gyfer ei ganfed cap, camau ola’ Cymru gyda Gareth Jenkins wrth y llyw ac wedyn yr adwaith i’r gêm .”

Bydd Gwesty Cymru yn datgelu’r datblygiadau arweiniodd at yr angerdd a’r siom o golli yn Nantes. “Doedd dim o’i le ar y paratoadau, roedd pob dim yn ymddangos yn iawn,” medd Russell. “Ond byddwn yn cymryd cam yn ôl ac yn adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd tu ôl i’r llenni.”

Mae’r camerâu yn dal munudau ola’ yr hen drefn wrth i Gareth Jenkins fynd i glywed ei dynged oddi wrth gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering a’r Prif Weithredwr, Roger Lewis tu ôl i ddrysau caeëdig.

Ar ôl colli i Ffiji, mae’r rhaglen yn cael sylwadau emosiynol dau o hyfforddwyr y tîm, Nigel Davies a Robyn McBride. Y systemau a’r strwythur sy’n gyfrifol am ffaeleddau’r gêm yng Nghymru yn ôl Robyn McBride ac nid unigolion.

Bu’r criw yn byw ochr-yn-ochr a’r chwaraewyr yng Ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg ac yn teithio ac yn byw gyda nhw yn Ffrainc ar gyfer eu gemau yno.

Mae gwasanaeth cynhwysfawr S4C o Gwpan Rygbi’r Byd yn parhau gyda sylwebaeth fyw ar rownd yr wyth ola’ ar 6 a 7 Hydref, y rownd gynderfynol ar 13 a 14 Hydref y gêm am y trydydd lle ar 19 Hydref a’r gêm derfynol ar 20 Hydref, pecynnau uchafbwyntiau cynhwysfawr a rhaglenni eraill ar thema rygbi.

Gwesty Cymru

Nos Iau, 4 Hydref, 9.00pm, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Cynhyrchiad SMS ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?