S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr y Dreigiau yn fuddugol yn Codi Canu

17 Mawrth 2007

 Ysbrydolodd bedwar côr cymysg o gefnogwyr rhanbarthau rygbi 'r wlad Gymru i fuddugoliaeth dros Loegr yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn. Perfformiodd y corau ddetholiad o ganeuon rygbi enwog yn Stadiwm y Mileniwm cyn y gêm, gyda chôr y Dreigiau yn curo’r Gweilch, Sgarlets a'r Gleision i ennill yr anrhydedd o berfformio’r anthemau cenedlaethol cyn y gic gyntaf.

Roedd y corau yn cymryd rhan yn y gyfres Codi Canu a gellir gweld holl ddrama a chyffro’r achlysur ar S4C nos Sul 18 Mawrth am 7:30pm gydag isdeitlau Saesneg.

Yr arweinydd Owain Arwel Hughes oedd â’r dasg o ddewis y côr buddugol yn dilyn misoedd o ymarferion.

Meddai Owain: “Llongyfarchiadau gwresog i gôr y Dreigiau. Rwy’n gobeithio bydd y gystadleuaeth yn helpu sbarduno adfywiad yn y traddodiad canu yn ein meysydd rygbi.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?