S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Codi’r canu yn y gogledd

13 Awst 2007

Fel rhan o’r ail gyfres o’r sioe canu corawl boblogaidd, Codi Canu, bydd côr newydd o gefnogwyr rygbi’r gogledd yn cael ei ffurfio i herio rhanbarthau Sgarlets Llanelli, Gleision Caerdydd, y Gweilch a Dreigiau Casnewydd Gwent.

Cynhelir cyfarfod cyntaf côr y gogledd, a arweinir gan Mari Pritchard a Geraint Roberts, nos Fercher, 12 Medi yng nghlwb rygbi Bangor. Mae croeso cynnes i unigolion neu grwpiau o ffrindiau, yn siaradwyr Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg ac o bob gallu cerddorol i fynychu; rhaid i bawb fod o leiaf 18 oed.

Bydd y gyfres wyth rhan yn dilyn datblygiad y pum côr cymysg wrth iddynt ddysgu emynau ac anthemau rygbi yn barod i herio’i gilydd mewn un sialens ganu fawr gerbron y beirniad, yr arweinydd byd-enwog, Owain Arwel Hughes.

Fe ddaeth y gyfres gyntaf i’w huchafbwynt cyn gêm Cymru v Lloegr fis Mawrth pan enillodd Côr Dreigiau Casnewydd Gwent y fraint o ganu’r anthem genedlaethol cyn y gêm yn Stadiwm y Mileniwm. Y wobr y tro hwn fydd canu’r anthem cyn gêm Cymru v Ffrainc ar 15 Mawrth 2008.

Meddai Uwch Gynhyrchydd Codi Canu, Ronw Protheroe, o Grŵp Boomerang, “Fe wnaeth y gyfres gyntaf afael yn nychymyg gwylwyr yn rhyfeddol. Roedd yr ymateb ymhlith y rhanbarthau rygbi yn frwd iawn hefyd, gyda phawb yn dweud bod y sialens wedi codi’r awyrgylch mewn gemau ar hyd y tymor ac yn enwedig yn y gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr. Ein nod y tro hwn yw cael miloedd o leisiau i gydganu yn gyson yn ystod y gêm rhwng Cymru a Ffrainc.

“Roedd yr ymateb yn arbennig o frwd ymhlith gwylwyr yn y gogledd - cymaint fel y penderfynwyd bod yn rhaid cynnig cyfle i gefnogwyr rygbi yno i sefydlu côr i herio corau rhanbarthau'r de.”

Nid côr y gogledd yw’r unig ddatblygiad newydd ar gyfer yr ail gyfres. Bydd y maestro Owain Arwel Hughes yn mynychu ymarferion y pum côr er mwyn dewis 12 aelod o bob côr i greu ‘super côr’ o 6o aelod i berfformio mewn digwyddiadau arbennig. Mae yna le i ambell i aelod newydd ymhlith corau’r de – cysylltwch ag alan@boomerang.co.uk.

Mae arweinyddion rhanbarthau’r de yn aros yr un peth, sef Tim Rhys Evans, Cefin a Rhian Roberts (Dreigiau); Eilir Griffiths a Delyth Medi (Gleision), Alwyn Humphreys a Sioned James (Gweilch) ac Islwyn Evans a Catrin Hughes (Sgarlets). Dyma pryd fydd cyfarfodydd cyntaf y de: Sgarlets – Llun, 3 Medi; Dreigiau - Mawrth, 4 Medi; Gweilch - Mercher, 5 Medi; Gleision - Iau, 13 Medi. Mae pob cyfarfod i ddechrau am 7.30pm. Mae mwy o fanylion am y lleoliadau ayb ar gael ar www.s4c.co.uk/codicanu

Diwedd

Nodyn i’r golygydd

Darlledir rhaglen uchafbwyntiau arbennig awr o hyd yn edrych yn ôl ar gystadlu brwd y gyfres gyntaf o Codi Canu ar S4C nos Sul, 19 Awst am 8.30pm.  

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?