S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffenestr siop byd amaeth Cymru

17 Gorffennaf 2008

Yr wythnos hon, bydd S4C yn cynnig darpariaeth gynhwysfawr i wylwyr drwy’r Deyrnas Unedig o’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae darllediadau o’r Sioe yn cychwyn am 8.00am ar y botwm coch ar Sky gyda gwasanaeth di-dor o’r prif gylch, ac am 9.00am, bydd yn bosibl i wylio digwyddiadau’r ail gylch hefyd. Bydd darllediadau o’r prif gylch i’w gweld ar Virgin a Freeview o 10 o’r gloch ymlaen.

Ar S4C Digidol am 10.00am fe fydd amrywiaeth o eitemau, ac fe fydd y cystadlu a'r sgwrsio yn parhau gyda rhaglenni'r prynhawn ar S4C. Bydd modd mwynhau pigion y dydd yn y rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos, ac mae'r cyfan ar gael drwy weddarlledu byw ar s4c.co.uk/sioe.

Bydd y cyflwynydd Elen Pencwm yn cymryd hoe o’i fferm yn Llanfihangel y Creuddyn, Ceredigion lle mae hi wedi dechrau bridio cobiau Cymreig. Bydd hi’n ail-ymuno â thîm cyflwyno S4C ar faes y Sioe Frenhinol eleni ar ôl genedigaeth ei mab, Jona, y llynedd.

Meddai Elen, fydd yn gohebu o gystadlaethau’r defaid, “Rwy’n dod o gefndir amaethyddol ac roedd ymweld â Llanelwedd bob blwyddyn yn rhan o’m magwraeth. Wrth i fi fynd yn hŷn, dwi’n sylwi ar safon y cynnyrch a’r creaduriaid ac yn synnu pob blwyddyn wrth i’r safon gynyddu. Dyma ffenestr siop Cymru yn y byd amaethyddol, ffenestr sy’n caniatáu i bobl o bedwar ban byd weld beth sydd gyda ni i gynnig. Ac, wrth gwrs, ar ôl diwrnod llawn o ddarlledu, mae’n braf rhoi’r byd yn ei le gyda hen ffrindiau.”

Yn ystod yr wythnos bydd cyfle i fwynhau bwrlwm y cystadlu a hwyl y maes yng nghwmni Elen a’r tîm cyflwyno a sylwebu sydd hefyd yn cynnwys Nia Roberts, Dai Jones, Nia Parry, Mari Grug, Morgan Jones, Wyn Gruffydd, Linda Griffiths, Bethan Gwanas ac Edward Tudor Jones.

Ymhlith uchafbwyntiau’r wythnos mae cystadlaethau meirch y Cobiau Cymreig, Prif Bencampwriaethau’r Ceffylau Cymreig, Treialon y Cŵn Defaid a phinacl yr wythnos yn ôl Elen, Pencampwr y Pencampwyr.

“Am y tro cyntaf eleni, bydda i’n ffilmio gyda chriw'r defaid, a bydd yn braf cael dysgu mwy am y gwahanol fridiau. Mae gan y ffermwyr yma fwy o wybodaeth yn eu pennau nag sydd mewn llond silff o lyfrau a braf yw cael cyfle i ddysgu tipyn gan y meistri a chael ychydig o hwyl ar yr un pryd,” meddai.

Yn dilyn gwynt a glaw mawr 2007, mae Elen yn gobeithio y bydd y tywydd garw yn cadw draw eleni.

“Gallwn ni wneud y gwaith ymchwil a chael pobl wrth law i’w cyfweld, ond un peth dydyn ni ddim yn gallu trefnu yw’r tywydd. Ond s’dim ots sut bydd y tywydd eleni, byddwn ni yno yn cynnig yr arlwy i’r gwylwyr boed gwynt, glaw neu hindda. S’dim byd yn mynd i gadw fi draw o Sioe Frenhinol Cymru!” ychwanega Elen.

Amseroedd darlledu isod

Y Sioe 08

    Llun – Iau, 21-24 Gorffennaf

    S4C2 o 8.00am i wylwyr Sky ac o 10am i wylwyr Freeview a Virgin

S4C Digidol, yn fyw o 10.00am

Darllediadau’r prynhawn ar S4C o 2.20pm

Rhaglenni uchafbwyntiau am 8.25pm ar S4C

Gweddarlledu byw ar s4c.co.uk/sioe

Cynhyrchiad Boomerang ar gyfer S4C

Nodyn i olygyddion:

Mae S4C digidol ar gael ar:

Sky 134 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Sky 104 yng Nghymru

Freeview ar 4 yng Nghymru

Virgin TV ar 194 yng Nghymru

Freesat 104 yng Nghymru

Freesat 120 Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?