S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dewis Pantyfedwen fel emyn Cymru 2007

12 Mawrth 2007

 Mae gwylwyr y gyfres canu mawl ar S4C, Dechrau Canu Dechrau Canmol wedi dewis emyn Pantyfedwen fel ‘Emyn i Gymru 2007’.

Mewn rhifyn arbennig o’r gyfres nos Sul (11 Mawrth), fe ddatgelwyd mai’r emyn poblogaidd i eiriau’r diweddar Parch W Rhys Nicholas, ‘Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw’ a thôn Eddie Evans, ddaeth ar frig y Deg Uchaf.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu gwylwyr S4C yn dewis eu hoff emyn Cymraeg allan o ddewis o ddeuddeg trwy bleideisio ar y wefan, s4c.co.uk/dechraucanu neu drwy bleidlais post.

Yn y rhaglen a gyflwynwyd gan Alwyn Humphreys yng nghwmni cynulleidfa o 700 o bobl yn y Lido Afan, Port Talbot, fe gafodd y Deg Uchaf eu perfformio yn nhrefn y bleidlais, o rif 10 i rif 1.

Emyn mawr Lewis Valentine, ‘Dros Gymru’n Gwlad’ ddaeth yn ail ac emyn John Hughes, ‘Arglwydd, gad im dawel orffwys’ i’r don ‘Arwelfa’ ddaeth yn drydydd.

Nai John Hughes, Owain Arwel Hughes, arweiniodd y gynulleidfa i drefniannau cerddorol Jeffrey Howard a chyfeiliant cerddorfa Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Teledu Avanti, y cwmni sy’n cynhyrchu’r gyfres fytholwyrdd drefnodd y bleidlais, a ddenodd ymateb gan gannoedd o wylwyr.

Dywed uwch gynhyrchydd y gyfres, Emyr Afan, “I mi, roedd yn ddigwyddiad i gofio am amser hir iawn. Dyma oedd dewis y bobl ac roedd arddeliad arbennig yn y canu yn y Lido Afan. Am y tro cyntaf yn fy ngyrfa ges i brofi gwirionedd yr ystrydeb ‘codi’r to’

“Yr hyn roedd yn ddiddorol oedd ein bod ni fel cenedl yn symud ymlaen i gynnwys caneuon cyfoes fel Gair Disglair Duw fel rhan o waddol ein traddodiad emynol. Roedd hyn yn arbennig o iach wrth i ni brofi bod canu cynulleidfaol yng Nghymru gyda’r gallu i esblygu ac addasu i gyfansoddiadau gwych ein hoes.”

I ddechrau’r broses, fe dynnodd Avanti, sydd wedi’i leoli yn Porth, y Rhondda, banel o feirniaid arbenigol ynghyd i lunio rhestr fer o emynau.

Dywedodd un aelod o’r panel hwnnw, yr arweinydd corawl John S Davies, am yr emyn ddaeth i’r brig, “Mae’r dôn Pantyfedwen wedi dod yn gyfarwydd ac yn adnabyddus iawn i ni fel cenedl ac ym mhellach na hynny mae’r dôn wedi cael ei defnyddio yn Lloegr a’u canu’n Saesneg. Mae W. Rhys Nicholas yn un o’n emynwyr mwya’ ni yma yng Nghymru ac mae ei eiriau mor gyfoes.”

Diwedd

Y DEG UCHAF YN GYFLAWN….

1 - Pantyfedwen - Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw

2 - Finlandia - Dros Gymru’n Gwlad

3 - Arwelfa - Arglwydd, gad im dawel orffwys

4 - Rhys - Rho i’m yr Hedd

5 - Tyddewi - Mi dafla ‘maich

6 - Bryn Myrddin - Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb

7 - Gair Disglair Duw - Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria

8 - Ebeneser - Dyma gariad fel y moroedd

9 - Cwm Rhondda - Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd

10 - Clawdd Madog - Os gwelir fi bechadur

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?