S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwraig fferm o Sir Gar yn ennill her pice S4C

13 Mawrth 2007

  Mae gwraig fferm o bentref Meidrim yn Sir Gaerfyrddin wedi ennill cystadleuaeth Pice Mân Gorau Cymru a drefnwyd gan gyfres materion gwledig S4C, Ffermio

Fe benderfynodd cynhyrchwyr y gyfres, Teledu Telesgôp i lansio cystadleuaeth Gŵyl Ddewi, gan wahodd gwylwyr ac ymwelwyr gwe www.ffermio.tv i anfon eu pice i’w pencadlys yn Abertawe.

Bu panel o arbenigwyr o’r gyfres yn cael gwledd yn blasu cannoedd o’r cacennau bach Cymreig yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond Patsy Lewis o fferm Corngafr, Meidrim enillodd y sialens.

Bydd Patsy nawr yn derbyn maen arbennig i wneud pice ar y maen, a gynhyrchir gan y cwmni The Welsh Griddle Company o Abertawe, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu’r ‘planc’ hollbwysig.

“Fe gafon ni ymateb aruthrol i’r gystadleuaeth ac roedd y safon yn uchel iawn. Rydym yn falch o weld bod y traddodiad o wneud pice yn dal yn fyw ac yn iach yng Nghymru. Roedd pice Patsy Lewis, ym marn y panel, yn rhagori o ran blas ac ansawdd,” meddai Terwyn Davies, cyfarwyddwr rhyngweithiol Ffermio.

Roedd Patsy Lewis, sydd wedi lled ymddeol ond dal yn byw ar y fferm ar hyn o bryd gyda’r gŵr John, ar ben ei digon ar ôl clywed ei bod wedi ennill.

“Wy wedi clywed rhai yn canmol y’n pice i, ond roedd e’n sioc ennill,” meddai’r fam i dri-o-blant 56 oed. “Wy’n mwynhau gwneud pice ar y Rayburn gartref ac mae’n handi cael planc yno fel galla i wneud nhw pan mae pobl ddieithr yn galw neu rywbeth mlaen yn y capel.

|

“Does ’da fi ddim cyfrinach ar gyfer y rysáit, ond wy wastad yn defnyddio menyn Cymru - a Menyn Caron os yn bosib - wyau o ffowls y ferch a rhoi digon o siwgr arnyn nhw. Ond mae’n rhaid wastad cael poted neis o de gyda nhw!

Ac ychwanegodd, “Falle daw'r planc newydd yn handi pan fydda i a’r gŵr yn symud i fyngalo yn y pentref neu falle bydd un o’r merched ishe fe gan fod nhw’n mwynhau coginio hefyd.”

Diwedd

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Owain Pennar, Adran y Wasg, S4C 029 29741416

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?