S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Meees newydd gan S4C ac Al Jazeera

07 Ebrill 2008

Bydd S4C, Cynyrchiadau Ceidiog Creations a Sianel Blant Al Jazeera yn ymuno i gynhyrchu ail gyfres newydd sbon o'r rhaglen i blant, Baaas, gan ddefnyddio technoleg diffiniad uchel. Dyma'r cyd-gynhyrchiad Prydeinig cyntaf gyda'r darlledwr Arabeg.

Bydd y tri chwmni'n cydweithio ar gyfres o 52 rhaglen chwarter awr o hyd, o'r gyfres Baaas, sioe fywiog i blant meithrin sy'n dilyn hynt a helynt teulu estynedig o ddefaid amlhiliol, sy’n canu a dawnsio.

Bydd Cynyrchiadau Ceidiog Creations yn dechrau gwaith ar y gyfres, a gynhyrchir yng Nghymru, ym mis Mai. Cwmni adnoddau Barcud Derwen fydd yn gyfrifol am olygu'r gyfres gyda'r gwaith sain ôl-gynhyrchu'n cael ei wneud gan Cranc. Mae'r ddau gwmni wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Bydd fersiwn Arabeg y gyfres hefyd yn cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd.

Darlledir Baaas yn Gymraeg yn yr hydref dan y teitl Meees fel rhan o wasanaeth newydd S4C ar gyfer plant meithrin, fydd i'w weld ar S4C digidol drwy'r Deyrnas Unedig. Bydd modd gwylio'r gyfres ar-lein hefyd, ar s4c.co.uk.

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar y gwasanaeth newydd i blant meithrin ar sianel blant Al Jazeera fydd yn cael ei lansio yn gynnar yn 2009. Darlledir y gwasanaeth i'r holl diroedd Arabaidd o'r Maghreb i'r Levant yn ogystal â'r gwledydd Ewropeaidd.

Gwerthwyd cyfres gyntaf Baaas i Al Jazeera fel rhan o becyn o raglenni eraill gan S4C yn 2006.

Nod y gyfres yw cyflwyno plant ifanc i ystod eang o gerddoriaeth, o opera i rap. Mae hefyd yn pwysleisio gwerthoedd teuluol, cydweithio a rhyngweithio yn ogystal â phynciau amgylcheddol pwysig fel ailgylchu. Mae actorion yn chwarae rhan y cymeriadau gan wisgo siwtiau a mygydau a defnyddir technoleg arbennig i symud gwahanol rannau o'r corff (animatronics).

Meddai Delyth Wynne Griffiths, Cyfarwyddwr Materion Busnes S4C, "Mae S4C yn falch iawn o'r berthynas newydd yma gydag Al Jazeera, yn enwedig o ysytyried ein bod yn rhannu'r un diddordeb mewn cynhyrchu cynnwys o safon i blant meithrin. Mae'r cytundeb yma hefyd yn adlewyrchu cryfder creadigrwydd cwmnïau cynhyrchu o Gymru a'r ffordd maen nhw'n gallu elwa o ddefnyddio hawliau'r rhaglenni."

Meddai Nia Ceidiog, creawdwr a chynhyrchydd Baaas a chyfarwyddwr Cynyrchiadau Ceidiog Creations, "Mae'r gyfres liwgar hon, sydd wedi dal dychymyg plant bach, yn edrych ar y syniad o berthyn i deulu mewn ffordd hwyliog sy'n adlewyrchu natur teuluoedd cyfoes. Yn ogystal â chynnig adloniant bywiog i blant bach, mae hefyd yn helpu eu datblygiad personol a chymdeithasol."

Meddai Malika Alouane, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Sianel Blant Al Jazeera, "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r cyd-gynhyrchiad yma i blant, yr un cyntaf o'i fath. Fel darlledwr Arabeg i blant sydd â buddsoddiad mewn gwerthoedd cynhyrchu uchel, rydyn ni'n hyderus y bydd Baaas, fel y gyfres gyntaf, yn llwyddiannus gyda phlant meithrin Arabeg."

Diwedd

Nodiadau i’r Golygydd

Bydd S4C yn lansio ei gwasanaeth estynedig i blant meithrin ym mis Mehefin 2008.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hannah Thomas, Pennaeth y Wasg S4C Head of Press ar 00 44 (0)7810 794853 neu hannah.thomas@s4c.co.uk

Mae S4C digidol ar gael ar:

Sky 134 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Sky 104 yng Nghymru

Freeview ar 4 yng Nghymru

Virgin TV ar 194 yng Nghymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?