S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llu o enwebiadau Celtaidd i raglenni S4C

12 Ionawr 2009

Mae cyfres drawiadol am fyd natur Cymru yn un o 13 o raglenni S4C sydd wedi eu henwebu am wobrau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2009, a gynhelir yng Nghaernarfon, Gwynedd ym mis Mawrth.

Bu Natur Cymru, cyfres chwe rhan a gynhyrchwyd gan gwmni Aden a’i chyflwyno gan y naturiaethwr Iolo Williams, yn un o brif gyfresi’r sianel yn ystod ei blwyddyn o raglenni gwyrdd yn 2008.

Mae’r sioe sgwrs spwff Sioe PC Leslie Wynne, a gynhyrchwyd gan Boomerang ac a gyflwynir gan y digrifwr Tudur Owen yn ei fantell fel y plismon doniol o ogledd Cymru, wedi’i henwebu yn y categori Adloniant.

Mae Lle aeth Pawb? yn un o dair rhaglen gan y cwmni cynhyrchu o Wynedd, Cwmni Da sydd wedi derbyn enwebiadau. Mae’r rhaglen, sy’n trefnu aduniadau rhwng gwahanol bobl mewn hen luniau ffotograff, wedi’i henwebu yn y categori Adloniant Ffeithiol.

Mae’r ddrama ynghylch teulu maffia yng ngorllewin Cymru, Y Pris ar drywydd gwobr arall ar ôl ennill gwobr BAFTA Cymru yn 2008 am y gerddoriaeth. Mae’r cynhyrchwyr, Fiction Factory, yn gobeithio am fwy o lwyddiant yn y categori Drama ym mis Mawrth.

Ymhlith y rhaglenni eraill sydd wedi eu henwebu mae’r ffilm Dringo i’r Eitha sydd yn dilyn y dringwr ifanc Ioan Doyle o Fethesda. Y llynedd fe enillodd y ffilm ddogfen wobr ‘Camera Alpine Gold’ yng ngŵyl ffilm Graz yn Awstria. Cynhyrchwyd y ffilm gan Gwmni Da, ac fe’i darlledwyd fel rhan o gyfres Wynebau Newydd S4C.

Bydd y rhaglen hon yn wynebu cystadleuaeth yn y categori ffeithiol gan raglen ddogfen arall a ddarlledwyd ar S4C, Jennie. Mae’r rhaglen, a gynhyrchwyd gan gwmni Cambrensis, yn bortread cofiadwy o’r golygydd dadleuol Jennie Eirian Davies.

Mae Y Byd ar Bedwar, a gynhyrchir gan ITV Cymru, hefyd wedi ei henwebu am ddwy wobr yn y categori Materion Cyfoes, tra bod cynyrchiadau gan BBC Cymru, Teledu Apollo a Rondo hefyd wedi ennill enwebiadau.

Mae Cyfarwyddiaeth Cyfathrebu S4C wedi ennill enwebiad am ei hymgyrch hyrwyddo Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a gynhyrchwyd gan JM Creative. Fe lwyddodd yr ymgyrch i ennill y blaen ar ymgyrchoedd yn hybu’r Gemau Olympaidd ac Euro 2008 i ennill y wobr aur yng ngwobrau Promax UK fis Tachwedd y llynedd.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n cynyrchiadau wedi’u henwebu ar gyfer gwobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni. Bu’n flwyddyn gyffrous o ddarlledu ar y sianel ac mae hyn wedi ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o raglenni sydd wedi eu henwebu. Hoffwn longyfarch yr holl dimau talentog sydd wedi cynhyrchu’r rhaglenni yma ymhlith cwmnïau’r sector annibynnol, BBC Cymru ac ITV Cymru.”

Diwedd

RHESTR ENWEBIADAU S4C

Categori Cyfres Ffeithiol:

Natur Cymru O Gymru gan Aden.

Adloniant Ffeithiol:

Lle Aeth Pawb? O Gymru gan Cwmni Da.

Ffeithiol – Rhaglen Unigol:

Wynebau Newydd: Dringo i’r Eitha O Gymru gan Cwmni Da.

Jennie O Gymru gan Cambrensis.

Celfyddydau:

Bois Parc Nest O Gymru gan Teledu Apollo.

O Flaen dy Lygaid: Cofi Opera O Gymru gan BBC Cymru Wales.

Cyfres Ddrama:

Y Pris O Gymru gan Fiction Factory.

Materion Cyfoes:

Y Byd ar Bedwar: Heroin O Gymru gan ITV Cymru Wales.

Y Byd ar Bedwar: Siwrne Ola’ Yogi O Gymru gan ITV Cymru Wales.

Plant:

Atom O Gymru gan Cwmni Da.

Pobl Ifanc:

Rownd a Rownd O Gymru gan Rondo.

Adloniant:

Sioe PC Leslie Wynne O Gymru gan Boomerang.

Teitlau a Ffilmiau Hyrwyddo Ar-sgrin:

Chwe Gwlad O Gymru gan JM Creative/Cyfathrebu S4C.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?