S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Martha, Jac a Sianco yn serennu yn seremoni BAFTA Cymru 2008

18 Mai 2009

      Enillodd Martha, Jac a Sianco, ffilm bwerus S4C am etifeddiaeth a thorcalon teuluol, chwech o wobrau yn seremoni BAFTA Cymru 2008, gan gynnwys yr Actor Gorau ar gyfer Ifan Huw Dafydd a’r Actores Orau ar gyfer Sharon Morgan.

Roedd y gwobrau hyn ymhlith cyfanswm o 17 a enillwyd gan S4C ar gyfer amrywiaeth eang o gynyrchiadau.

Enillodd Martha, Jac a Sianco gategorïau’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama, Y Cynllunio Gorau, Y Coluro Gorau a’r Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau. Daeth Con Passionate i’r brig yng nghategori’r Gyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu.

Enillodd Lleisiau’r Rhyfel Mawr Wobr Gwyn Alf Williams, sy’n cael ei rhoi i raglen neu gyfres o raglenni sy’n cyfrannu fwyaf at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru.

Cipiodd S4C y gwobrau am Yr Animeiddio Gorau ar gyfer Nadolig Plentyn yng Nghymru, Y Rhaglen Blant Orau ar gyfer Holi Hana a’r Adloniant Gorau ar gyfer Y 7 Magnifico a Matthew Rhys, a ddilynodd criw o sêr wrth iddynt ddysgu sgiliau cowboi yn yr Unol Daleithiau. Uned 5 enillodd y wobr am y Rhaglen Ieuenctid Orau.

Fe lwyddodd nifer o raglenni ffeithiol S4C hefyd. Enillodd rhifyn o’r gyfres ddogfen Yr Afon (Yangtse), y wobr am y Camera Gorau: Heblaw Drama. Daeth America 08: Dewi Llwyd ar Daith i’r brig yng nghategori’r Newyddion a Materion Cyfoes Gorau.

Enillodd cyngerdd Grand Slam wobr Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau: Heblaw Drama a llwyddodd Lle Aeth Pawb? i ennill y wobr am y Dylunio Graffeg Gorau.

Daeth Eliffantod, ffilm animeiddio fer gan Sally Pearce, a enillodd ysgoloriaeth S4C i astudio yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol, i’r brig yn y categori Ffilm Fer Orau.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Fe roddodd Ifan Huw Dafydd a Sharon Morgan berfformiadau pwerus yn Martha, Jac a Sianco, addasiad S4C o nofel arobryn Caryl Lewis.

“Mae’r ffilm drawiadol hon yn adlewyrchu strategaeth ffuglen S4C sy’n cynnig llwyfan i awduron a chyfarwyddwyr herio cynulleidfaoedd trwy gyfrwng cynnwys blaengar a gwreiddiol. Mae comisiynau sengl fel hwn yn eistedd ochr-yn-ochr â chyfresi drama sydd hefyd yn adlewyrchu bywydau pobl sy’n byw yng Nghymru.

“Mae S4C yn falch iawn gyda’r ystod o wobrau eraill a enillwyd ar draws gwahanol gategorïau. Mae hyn yn gryn gamp sy’n adlewyrchu talentau creadigol a sgiliau technegol ein partneriaid yn y sector cynhyrchu annibynnol a BBC Cymru. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr.”

ENILLWYR BAFTA CYMRU 2008 S4C

Y Gyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu

Con Passionate - Paul Jones(Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Newyddion a Materion Cyfoes Gorau

America 08: Dewi Llwyd ar Daith – Garmon Rhys (BBC Cymru)

 

Yr Adloniant Ysgafn Gorau

Y 7 Magnifico a Matthew Rhys - Amanda Price Jones/Matthew Tune/Rhys D Williams (Boomerang Plus plc)

Y Rhaglen Blant Orau

Holi Hana – Robin Lyons / Tom Edgar (Calon)

Y Rhaglen Ieuenctid Orau

Uned 5 - Nest Griffith (Antena)

Yr Animeiddio Gorau

Nadolig Plentyn yng Nghymru - Dave Unwin(Cwmni Da/Brave New World)

Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama

Martha, Jac a Sianco – Richard Wyn Huws (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Camera Gorau: Heblaw Drama

Yr Afon (Yangtse) – Haydn Denman (Green Bay Media)

Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau – Dim Camera

Grand Slam 08: Dathliad y Pencampwyr– Tim Routledge (Undeb Rygbi Cymru/Avanti)

Y Cynllunio Gorau

Martha, Jac a Sianco – Phil Williams (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Dyluniad Graffig Gorau

Lle Aeth Pawb? – Cwmni Da/Rough Collie

Y Coluro Gorau

Martha, Jac a Sianco – Stephen Williams (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Y Criw Byw Gorau

Marathon Eryri – Dylan Huws (Cwmni Da)

Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau

Martha, Jac a Sianco – John Hardy (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Yr Actor Gorau

Martha, Jac a Sianco – Ifan Huw Dafydd (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Yr Actores Orau

Martha, Jac a Sianco – Sharon Morgan (Apollo, rhan o Boomerang Plus plc)

Gwobr Gwyn Alf Williams

Lleisiau’r Rhyfel Mawr – Ifor ap Glyn (Cwmni Da)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?