S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cymru v Seland Newydd . . . nid y crysau duon ond y crysau gwynion

22 Mai 2007

 Bydd dwy wlad sy’n fwyaf adnabyddus am herio’i gilydd ar y maes rygbi yn cwrdd mewn gornest ryngwladol y bêl gron...ac fe fydd S4C yn dangos y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Seland Newydd yn fyw ac yn ecsgliwsif ar deledu daearol ar 26 Mai.

Mae’r Crysau Gwynion, fel y’u gelwir, yn dod i Gymru fel rhan o daith ddwy-gêm Ewropeaidd ac fe fyddant yn wynebu tîm pêl-droed Cymru ar y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Sadwrn, 26 Mai (y rhaglen yn dechrau am 2.45pm, y gêm am 3.00pm).

Drwy gyfrwng Y Clwb Pêl-Droed Rhyngwladol, a gyflwynir gan Gareth Roberts, gall dilynwyr pêl-droed fwynhau gornest ddiddorol rhwng Cymru a thîm Seland Newydd, o dan eu rheolwr, Ricki Herbert, cyn chwaraewr rhyngwladol gyda’r Crysau Gwynion.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys, Chwaraeon, S4C, “Mae darlledu gêm Cymru a Seland Newydd yn fyw yn tanlinellu ymrwymiad S4C i bêl-droed yng Nghymru. Rydym yn awyddus i ddarlledu cymaint o gemau Cymru a phosib, gan fod hi’n gyfnod cyffrous i dîm John Toshack wrth iddynt baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol y Bencampwriaeth Ewropeaidd ac adeiladu ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.”

Gobaith John Toshack yw y bydd y rhan fwyaf o’i brif chwaraewyr ar gael ar gyfer yr ornest hon, wrth iddo baratoi ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn y Weriniaeth Tsiec a ddangosir yn llawn ar S4C ychydig oriau ar ôl i’r gêm gael ei chwarae ar 2 Mehefin.

Disgwylir y bydd y garfan yn cynnwys rhai o sêr yr Uwch-Gynghrair fel y capten, Ryan Giggs, Craig Bellamy a Simon Davies, ond fe fydd yna rai wynebau newydd, gan gynnwys ymosodwr Barnsley, Daniel Nardiello, sy’n dilyn ôl troed ei dad, Donato chwaraeodd i Gymru yn y saithdegau.

Y tro diwethaf bu Seland Newydd yn chwarae yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd oedd yn 1982. Maent yn darparu ar gyfer eu gemau cymhwysol y flwyddyn nesaf drwy ddod â charfan o 20 i chwarae Cymru a’r Wcráin. Bydd y tîm yn awyddus i wella ar eu perfformiadau diweddar yn colli’n drwm yn erbyn Costa Rica a Feneswela.

Y Clwb Pêl-droed Rhyngwladol: Cymru v Seland Newydd

Yn fyw, Dydd Sadwrn, 26 Mai, o 2.45pm, S4C

s4c.co.uk/chwaraeon

Cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?