S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llyfrau Hana

16 Chwefror 2007

Mae Random House Children's Books wedi prynu'r hawliau cyhoeddi byd eang ar gyfer cyfres animeiddio newydd S4C i blant bach, Holi Hana, a gynhyrchir gan Calon.

Mae'r cytundeb newydd, a drefnwyd gan ddosbarthwyr y gyfres, S4C Rhyngwladol, yn cynnwys yr holl hawliau Saesneg ar gyfer ystod o gyhoeddiadau, o lyfrau jig-so i lyfrau sticeri.

Bydd hefyd gan Random House Children’s Books yr hawl i gyhoeddi fersiynau mewn ieithoedd eraill, dramor. S4C sy'n dal yr hawliau Cymraeg i'r gyfres, a ddarlledir am y tro cyntaf ar y Sianel dros y Pasg.

Mae Holi Hana yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Calon, slot blant Milshake! Five a ZDF, gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Meddai Anna-Lisa Jenaer o S4C Rhyngwladol: "Mae'r cytundeb hwn yn newyddion cyffrous. Mae Random House yn gwmni sydd ag enw da yn y maes cyhoeddi a bydd ei adnoddau gwerthiant, marchnata a chyhoeddusrwydd yn sicrhau bod gan Holi Hana bresenoldeb go-iawn yn y farchnad."

Mae Random House Children's Books, adran o'r Random House Group, yn cyhoeddi nifer o brif awduron a darlunwyr maes plant. Meddai Fiona Macmillan, Cyhoeddwr, Random House Children's Books: "Rydym yn falch iawn i bartneru gyda Calon ac S4C ar y gyfres feithrin ffantastig hon. Bydd yn ychwanegiad ardderchog i'n portffolio trwyddedu yma yn y DU a ledled y byd."

Mae'r cwmni teganau Golden Bear eisoes wedi ennill trwydded teganau ar gyfer Holi Hana. Bydd cyfres o deganau yn seiliedig ar y gyfres, sy'n adrodd hanes Hana'r hwyaden, sy'n rhedeg llinell gymorth i anifeiliaid ifanc mewn cyfyng gyngor, yn cael ei chynhyrchu. Mae’r cwmni 2-Entertain Ltd wedi sicrhau dosbarthiad DVDs o'r gyfres fel rhan o gytundeb ar wahân.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?