S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Boomerang i gynhyrchu dolenni cyflwyno gwasanaeth plant S4C

04 Ebrill 2007

Mae Grŵp Boomerang wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y cytundeb i gynhyrchu dolenni cyflwyno gwasanaeth plant S4C.

Bydd y cytundeb newydd yn dod i rym ym mis Mehefin, gyda’r dolenni cyflwyno ar eu newydd wedd yn cael eu darlledu am y tro cyntaf ddiwedd Hydref.

Mae dylunio a chynnal gwefan newydd hefyd yn rhan o’r cytundeb dwy flynedd o hyd.

Mae gan Boomerang draddodiad cryf ym maes rhaglenni plant ac mae’r cwmni wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys tlysau Bafta.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae darparu’r gwasanaeth gorau posibl i blant yn un o amcanion craidd S4C ac mae’r cytundeb yma, a enillwyd gan Boomerang fel rhan o broses dendro agored, yn dynodi’r cam cyffrous diweddaraf yn ein hymrwymiad i’r maes plant.”

Bydd S4C yn cyhoeddi union fanylion y cytundeb maes o law.

Diwedd

Nodyn i’r golygydd:

Noder, nid yw’r broses dendr hon yn cynnwys lansio na rheoli sianel Gymraeg ar gyfer plant. Mae S4C wedi datgan ei bwriad i sefydlu sianel ar wahan i blant; bydd Awdurdod S4C yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i mewn i’r sianel arfaethedig cyn bo hir.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?