S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Waw! Einir yn ennill y dwbwl!

06 Mawrth 2007

    Mae disgybl ysgol 17 oed o Foncath, Einir Dafydd, wedi cyflawni’r dwbl trwy ennill gwobr fawr S4C, Cân i Gymru y penwythnos hwn.

Fe enillodd Einir brif wobr sioe dalent S4C WawFfactor 11 mis yn ôl ac mae wedi coroni hynny nawr trwy ennill Cân i Gymru, gan rannu’r brif wobr o £10,000 gyda’r bardd a golygydd llyfrau Ceri Wyn Jones.

Fe enillodd Einir y wobr am y gân ‘Blwyddyn Mas’, gan gipio cyfran fwyaf o bleidleisiau’r gwylwyr gartref a phanel o arbenigwyr yn y sioe a ddarlledwyd yn fyw nos Wener o ganolfan y Lido Afan, Port Talbot.

Fe gurodd y gân wyth cynnig arall mewn tri chategori: Y Cyhoedd, Cyfansoddwyr a Pherfformwyr. Yn y bleidlais derfynol fe gurodd hi'r caneuon Gwaed yn Dewach na Dŵr a Llosgi. Fe dderbyniodd cyfansoddwyr y caneuon hynny, Meilyr Wyn ac Al Lewis/Arwel Lloyd, £3,000 yr un.

Mae Blwyddyn Mas yn gân am rywun ifanc sy’n cael ei gadael ar ôl gartref ar ôl i’w chariad adael i fynd i’r coleg.

Fe ddaeth Einir, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Preseli, Crymych, i sylw’r cyhoedd fis Ebrill diwethaf wrth ennill y sioe dalent WawFfactor.

Mae Ceri, o Aberteifi, yn awdur a bardd adnabyddus, a enillodd Gadair Eisteddfod Meirionnydd 1997. Yn gyn athro Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Teifi, mae Ceri bellach yn olygydd Llyfrau Saesneg gyda’r cwmni cyhoeddi Gwasg Gomer.

Dywedodd Einir, 17, sy’n gobeithio mynd i’r coleg i ddilyn Cwrs Perfformio, nad oedd hi’n dal yn gallu credu ei bod wedi ennill y gystadleuaeth.

“O’n i wir ddim yn meddwl y byddwn yn ennill. Wedi’r cwbl, roeddwn yn cystadlu yng nghategori’r Perfformwyr yn erbyn un o’r artistiaid mwyaf blaenllaw yng Nghymru, Elin Fflur. Roedd mynd ymlaen wedyn ac ennill y brif wobr wedyn yn fonws neis iawn!

“Roedd ennill WawFfactor yn ffantastig ond mae ennill Cân i Gymru hefyd yn freuddwyd. Rwy’n siŵr o ddefnyddio tipyn o’r arian i wneud bach o siopa ac wy newydd basio fy mhrawf gyrru, felly falle fe wnaf fi brynu car!

“Mae’r gân ‘Blwyddyn Mas’ am rywun sy’n colli bod gyda’i chariad ar ôl iddo adael yr ardal i fynd i’r coleg. Mae’n gân sy’n llawn emosiwn ac felly’n neis i’w chanu. Rwy’n gobeithio parhau i ganu a pherfformio – rwy’n mwynhau bod ar lwyfan.”

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?