S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ymuno â Gwasanaeth Teledu’r Rhyngrwyd Freewire TV

16 Mai 2007

 Mae S4C ac Inuk Networks, cyflenwr gwasanaethau chwarae-triphlyg i ddefnyddwyr, darparwyr gwasanaeth a gweithredwyr rhwydwaith, wedi cyhoeddi cytundeb i gynnwys S4C digidol o fewn gwasanaeth teledu protocol y rhyngrwyd (IPTV) y cwmni, Freewire TV.

Bydd cynnwys S4C digidol i blith sianeli Freewire TV yn golygu bod S4C ar gael i fwy o wylwyr ledled y DU. Ychwanegu’r sianel at eu gwasanaeth yw’r cam diweddaraf yng nghynllun Inuk Networks i gynnig darpariaeth i gartrefi ym mhob cwr o’r DU yn ddiweddarach eleni.

O dan y cytundeb cludiant newydd, bydd S4C digidol ar gael yn y lle cyntaf i fyfyrwyr sy’n byw mewn neuaddau preswyl yn y DU. Mae Inuk Networks yn defnyddio amlddarlledydd dros rwydweithiau IP caeedig i ddarparu’r sianeli teledu Freewire TV, gan ganiatáu i fyfyrwyr wylio teledu digidol yn uniongyrchol o’u llety campws trwy ddefnyddio offer cyfrifiadur personol a gysylltir gan rwydwaith cyflym JANET.

Mae’r datblygiad yn estyn cyrhaeddiad S4C digidol ledled y DU. Mae’r sianel ar hyn o bryd ar gael i wylwyr y tu allan i Gymru ar loeren ddigidol ac ar fand llydan. Fel rhan o’i strategaeth ddigidol, dechreuodd S4C weddarlledu’r sianel yn fyw ar fand llydan y mis hwn.

Mae rhaglen ehangu sianeli Inuk Networks yn rhan o weledigaeth y cwmni i ddwyn dewis digidol amgen i’r bobl hynny sydd, yn hanesyddol, wedi cael eu heithrio o deledu aml-sianel. Fe rennir y weledigaeth hon gan arloeswyr technegol blaenllaw, gan gynnwys y Cymro Syr Terry Matthews, prif fuddsoddwr yn y darparwr IPTV.

“Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn dibynnu ar S4C am gynnwys sy’n uniongyrchol berthnasol iddyn nhw ac sy’n ateb eu hanghenion mewn modd na all gwasanethau eraill,” meddai Syr Terry Matthews.

Ychwanegodd, “Mae’r cytundeb hwn gydag S4C yn dipyn o garreg filltir. Nid yn unig y mae’n golygu y bydd y sianel ar gael i siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd â diddordeb mewn cynnwys Cymraeg ar hyd a lled y DU, ond fe fydd hefyd yn golygu bod diwylliant Cymreig ar gael i gynulleidfa ehangach nag o’r blaen. Mae’r ffaith bod rhaglenni Cymraeg ar gael i’r rhai sydd â buddiannau yn y gymuned Gymraeg yn ddatblygiad cadarnhaol.”

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Y fenter hon yw’r cam diweddaraf yn strategaeth S4C i adeiladu ar ei phresenoldeb ar bob un o’r prif lwyfannau digidol. Nid yw ein nod wedi’i gyfyngu i gynnal yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yng Nghymru yn unig. Fe ddylai fod ar gael ymhob man i bawb sydd â diddordeb mewn cynnwys gwreiddiol o ansawdd uchel.”

Ychwanegodd, “Rydym o’r farn bod ymroddiad S4C i chwaraeon a cherddoriaeth – gan gynnwys y sîn roc Gymraeg – ynghyd â rhaglenni sy’n amrywio o ddrama cwlt i ddychan animeiddiedig - o apêl benodol i’r gymuned myfyrwyr.”

Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) yw’r cyntaf o nifer o brifysgolion Cymru i arbrofi gyda gwasanaeth Freewire TV. Mae UWIC yn cynllunio i ddarparu Freewire TV i fyfyrwyr a staff yn y flwyddyn academaidd newydd 2007/08). Fe fydd gwasanaeth teledu Freewire TV yn cael ei ehangu i brifysgolion a cholegau eraill ledled y DU yn ddiweddarach eleni.

Mae llwyfan Freewire TV Inuk Networks yn gallu ymdopi â chyflwyno cannoedd o sianeli o gynnwys fideo ynghyd â galwadau ffôn dros y rhyngrwyd – system a elwir yn VoIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd) - a chael rhwydwaith band llydan. Mae Freewire TV yn helpu i gynyddu cyrhaeddiad teledu digidol wrth inni baratoi ar gyfer y newid i’r oes ddigidol-yn-unig, newid sydd i’w gwblhau yng Nghymru erbyn 2009/10 a’r DU yn gyfan erbyn 2012.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?