S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y diwrnod enillodd Caerdydd Gwpan Lloegr

11 Ebrill 2007

Wrth i dîm pêl-droed Caerdydd ddathlu 80 mlynedd ers ennill Cwpan yr FA yn 1927 mae rhaglen ddogfen ar S4C - Cwpan Caerdydd - yn ystyried y posibilrwydd o weld yr Adar Gleision yn dychwelyd i frig y byd pêl-droed.

Mae’r rhaglen, a ddarlledir nos Lun, 16 Ebrill ac a gynhyrchir gan Green Bay, yn cymharu sefyllfa’r clwb yn yr 20au â’r presennol. Yn 1927 roedd Albanwyr, Saeson a Chymry ymhlith y chwaraewyr, roedd y clwb yn datblygu ei stadiwm newydd, roedd gan Gaerdydd reolwr medrus ac roedd y clwb yn uchelgeisiol – ffeithiau sydd yr un mor wir heddiw.

Ond yn wahanol i heddiw, gyda Chaerdydd yn llwyddiannus ym Mhencampwriaeth y gynghrair pêl-droed, ni chafodd y tîm fawr o lwyddiant yn y gynghrair yn nhymor 1926-27.

Roedd dilynwyr y clwb yn llawer llai cefnog na’r selogion heddiw gyda De Cymru yn dal i ddod dros effeithiau Streic Fawr 1926. Er hynny, roedd y tyrfaoedd yn dechrau dod yn eu holau i Barc Ninian.

Ynghanol y 20au, perfformiodd Caerdydd yn dda fwy nag unwaith yng nghystadleuaeth y Gwpan. Cyrhaeddodd y clwb y rownd derfynol yn Wembley yn 1925 gan golli o un gôl yn unig i Sheffield United.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gwireddwyd y freuddwyd ac mae’r rhaglen yn ail-fyw'r diwrnod mawr – 23 Ebrill, 1927 - pan gipiodd Caerdydd ‘gwpan Lloegr,’ fel yr adnabuwyd y cwpan bryd hynny, gan guro Arsenal 1-0 - y tro cyntaf a’r diwethaf i’r cwpan fynd o afael tîm o Loegr.

Yr actor Dafydd Hywel, sy’n adrodd stori’r gêm fawr a sut y bu i’r gôl, a sgoriwyd wedi 73 munud o chwarae, roi’r fuddugoliaeth i Gaerdydd - buddugoliaeth sy’n destun trafod o hyd gan mai camgymeriad gan y Cymro o’r Rhondda, Dan Lewis, yng ngôl Arsenal arweiniodd at unig gôl y gêm.

Aeth y capten Fred Keenor â’i dîm ymlaen i ennill y Gwpan – ond bu awgrymiadau i Lewis ollwng y bêl yn y gôl yn fwriadol. Mae’r rhaglen yn holi a oes yna unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad ysgubol yma.

Croesawyd y tîm yn ôl i’r Ddinas gan dyrfa o 150,000 ac mae camp fawr 1927 yn dal i danio gobeithion cefnogwyr y clwb hyd yn oed heddiw. Meddai’r storïwr a bortreadir gan Dafydd Hywel ar y rhaglen: “Mae’r potensial yna i ddod â’r hen ddyddiau o lwyddiant yn ôl. A fydd hanes yn ail-adrodd ei hun?”

Cwpan Caerdydd

Nos Lun, 16 Ebrill, 9.00pm, S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar gael hefyd ar fand llydan - s4c.co.uk/gwylio

Cynhyrchiad Green Bay ar gyfer S4C

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?