S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Etholiad 2007: Arlwy gynhwysfawr S4C

13 Ebrill 2007

Wrth i Gymru baratoi i bleidleisio ar 3 Mai, bydd S4C yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr o raglenni ar Etholiad Cynulliad 2007 gan ganolbwyntio ar y pynciau sy’n bwysig i’r pleidleiswyr.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd tîm o gyflwynwyr, sylwebyddion a gohebwyr S4C yn dilyn yr ymgyrchu ac yn cadw bys ar byls y genedl gyda’r holl wasanaeth yn cyrraedd uchafbwynt mewn rhaglen arbennig Etholiad 07 a ddarlledir drwy’r nos ar ddiwrnod y pleidleisio ei hunan.

Ymhlith arlwy S4C bydd rhifynau arbennig o’r gyfres drafod Pawb a’i Farn, gyda thrigolion Bae Colwyn (19 Ebrill) a Bae Caerdydd (26 Ebrill) yn holi panelwyr fydd yn cynnwys Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhodri Morgan. Cyflwynydd Newyddion, Dewi Llwyd fydd yn cadeirio’r sesiynau.

Bydd Newyddion yn cynnig trosolwg o’r ymgyrchu, y trafod a’r dadlau yn y bwletinau dyddiol am 7.30pm a 8.55pm. Bydd y rhaglen wleidyddol b’nawn Sul Maniffesto, sy’n cael ei chyflwyno gan Rhuanedd Richards, yn ymweld â’r pum rhanbarth etholiadol ac yn cyfweld ag arweinyddion y pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.

Ar 23 a 30 Ebrill, bydd y gyfres materion cyfoes Hacio yn edrych ar y pynciau o bwys i’r pleidleiswyr iau yng Nghymru mewn rhaglenni arbennig i’w darlledu ar S4C analog a digidol. Bydd y gyfres materion cyfoes arobryn Y Byd ar Bedwar hefyd yn darlledu rhaglen arbennig ar yr etholiad ar 1 Mai.

Materion o bwys i ffermwyr fydd dan sylw mewn rhifyn o’r gyfres Ffermio ar 30 Ebrill ac fe fydd hyd yn oed rhifyn arbennig o’r gyfres gerddoriaeth Bandit ar 26 Ebrill, sy’n cynnwys gig o’r Senedd ei hun fel rhan o raglen a fydd yn datgelu chwaeth gerddorol rhai o’n gwleidyddion.

Ar noson yr Etholiad, 3 Mai, yn Etholiad 07 bydd S4C yn darlledu drwy’r nos, o 10.30pm hyd nes i’r canlyniad olaf un ddod i mewn.

Bydd gohebwyr Etholiad 07 yn adrodd yn fyw o dros hanner y 40 etholaethau, y tîm mwyaf eto i ohebu ar noson yr Etholiad. Yn ogystal, lleolir gohebwyr yn Aberdeen i glywed yr adwaith yn yr Alban, yn San Steffan er mwyn bwrw golwg ar y canlyniadau o safbwynt y Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, yn y Senedd ei hunan ym Mae Caerdydd.

Yn y stiwdio bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys Dewi Llwyd, Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, Rhuanedd Richards, a chyflwynydd BBC Cymru Rhun ap Iorwerth yn pwyso a mesur y canlyniadau gyda help y systemau graffeg ddiweddaraf yn y Siambr Ymddangosol.

Y gwasanaeth etholiad cynhwysfawr ar S4C

Pawb a’i Farn, Iau, 19 a 26 Ebrill, 9.oopm, Cynhyrchiad BBC Cymru Maniffesto, Sul. 15 Ebrill, 12.00pm, 22 a 29 Ebrill, 1.00pm, Cynhyrchiad BBC Cymru

Newyddion, Dyddiau’r wythnos, 7.30pm & 8.55pm, Cynhyrchiad BBC Cymru

Etholiad 07, 3 Mai, yn fyw o 10.30pm, Cynhyrchiad BBC Cymru

Hacio, Llun, 23 and 30 Ebrill, 9.00pm, Cynhyrchiad ITV Cymru

Y Byd ar Bedwar, Mawrth, 1 Mai, 8.25pm, Cynhyrchiad ITV Cymru Ffermio, Llun, 30 Ebrill, 8.25pm, Cynhyrchiad Telesgop

Bandit, Iau, 26 Ebrill, 9.30pm, Cynhyrchiad Boomerang

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?