S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dai yn mentro i’r môr

24 Rhagfyr 2007

Bydd cyfres ddogfen newydd sy’n dilyn y cyflwynydd poblogaidd Dai Jones wrth iddo geisio concro un o’i brif ofnau - y dŵr - ymhlith uchafbwyntiau arlwy gwylio S4C dros yr ŵyl.

Yn y gyfres dair rhan Dai yn y Dŵr, sy’n dechrau ar Ddydd San Steffan am 8.25pm, bydd Dai, sy’n enwog am gyfresi fel Cefn Gwlad a Rasus, yn mentro o’r tir mawr i’r dŵr, i ddysgu nofio mewn cyfnod byr o saith niwrnod.

Fel y gŵyr pawb, mae Dai yn ofni’r dŵr, ac ar ôl ymdrechu’n nerfus yn y pwll nofio yn Aberystwyth, mae’n hedfan i’r Aifft i weld a all dyfroedd hallt y Môr Coch helpu ei gadw ar wyneb y dŵr.

Ymhlith rhaglenni eraill S4C dros y Nadolig mae ffilm animeiddiedig newydd wedi’i seilio ar chwedl Gelert, ci ffyddlon y tywysog Llywelyn Fawr, un o atyniadau mawr Dydd Nadolig ar y Sianel.

Darlledir y ffilm 30-munud o hyd 2D Gelert, yr animeiddiad cyntaf erioed o’r chwedl enwog, am 6.25pm. Ymhlith y sêr sy’n lleisio’r prif gymeriadau mae John Ogwen, Lowri Steffan a Tudur Owen; bleiddgi Gwyddelig sy’n cyfarth yn enw Gelert.

Hefyd ar Ddydd Nadolig am 5.55pm, bydd Cha Cha Gethin yn dilyn hynt a helynt cyflwynydd Blue Peter, Gethin Jones yn y gyfres ddawnsio boblogaidd Strictly Come Dancing.

Yn y cyngerdd Gala Dennis a Kiri ar S4C ar 30 Rhagfyr, cawn weld y tenor byd-enwog Dennis O’Neill ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru gyda’r Fonesig Kiri Te Kanawa ar gyfer gwledd o opera i ddathlu pen-blwydd y maestro yn 60 oed.

Bydd y plismon digri PC Leslie Wynne yn lansio ei sioe siarad ar Ŵyl San Steffan, tra bydd yna rifynnau Nadoligaidd o sioeau adloniant Cadair Fawr Eleri Siôn a Pws. Bydd penodau arbennig o Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, a rhifyn arbennig o

Mastermind Cymru pan fydd sêr Cymru yn mentro i’r gadair ddu.

Bydd S4C yn darparu digon o chwaraeon dros yr ŵyl hefyd, gan gynnwys darllediad byw o un o uchafbwyntiau’r tymor rygbi, y gêm rhwng y Sgarlets a’r Gweilch ar Barc y Strade ar 27 Rhagfyr.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?