S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi Amserlen y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

01 Rhagfyr 2011

  Bydd ffilm fawr Patagonia a drama sy’n codi cwestiynau newydd am yr actor Richard Burton, a’i berthynas â’i frawd hynaf, ymhlith uchafbwyntiau amserlen Nadolig a’r Flwyddyn Newydd S4C a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr.

Hefyd yn yr amserlen Nadolig, her trefnu pantomeim yn Seren Nadolig Rhos, her yn y gegin gyda Dudley: Pryd o Sêr a chyfle i gofio dau gawr o Gymro yn y ddwy ddogfen Orig a Cofio Ceredig.

I ddathlu’r Ŵyl, mae S4C wedi recordio fideo newydd o’r gân Gŵyl y Baban gan Caryl Parry Jones, gyda rhai o sêr rhaglenni Nadolig a Blwyddyn Newydd y Sianel. Bydd y fideo i’w gweld gydol yr Ŵyl i hyrwyddo’r amserlen, ac mae’r gân a’r fideo ar gael i’w lawr lwytho am ddim o wefan s4c.co.uk/nadolig.

Yn codi gwên bydd rhaglenni adloniant fel Sioe ‘Dolig Tudur Owen, Dudley: Pryd o Sêr, Cnex, Ddoe am Ddeg, Dim Byd, Jonathan, Byw yn yr Ardd a Noson Lawen – sydd yn cynnwys rhaglen gyfan yng nghwmni perfformwyr ifanc ar Ddydd Nadolig.

Bu’n dri mis diwyd i drigolion Rhosllannerchrugog wrth i’r gyfres Seren Nadolig Rhos osod her iddynt drefnu a chynnal pantomeim Nadolig eu hunain. Ar Ddydd Nadolig cawn fwynhau ffrwyth eu llafur gyda perfformiad o’r panto Wizard o Rhos.

Nid cymuned Rhos yw’r unig rai sy’n paratoi ar gyfer sioe fawr. Mae Sioe Nadolig yr ysgol leol yn rhan annatod o ddathliadau teuluoedd, a bydd Nadolig y Plant: Digwyddiadau 11 ar Noswyl Nadolig yn rhoi cip i ni ar bedair ysgol gynradd sy’n perfformio sioeau plant gwreiddiol y Nadolig hwn.

Dau arall sydd wedi ymgymryd â her Nadoligaidd yw’r gyflwynwraig Nia Parry a’i chyfaill Mel Parry sydd wedi gweithio, gyda help trigolion lleol, i drefnu Ffair Nadolig Penygroes, Dyffryn Nantlle. Dilynwn yr helynt yn y gyfres Mel a Nia ar 7, 14 a 21 Rhagfyr.

A thipyn o her oedd o flaen criw ansbaradigaethus cariad@iaith:love4language ym mis Gorffennaf pan dreulion nhw wythnos yn dysgu Cymraeg. Mewn un rhaglen arbennig ar Noswyl Nadolig cawn weld os yw eu Cymraeg wedi gloywi wrth iddynt gwrdd unwaith eto.

Bydd wyth seren ddewr yn derbyn her Dudley: Pryd o Sêr ar 27 i 30 Rhagfyr, ac mae Dudley Newbery wedi rhybuddio y bydd tasgau eleni yn galetach nag erioed! Hefyd, bydd y cogydd yn rhannu syniadau Nadoligaidd yn Dudley ar Daith ar 16 Rhagfyr.

O gegin Dudley Newbery i Gegin Peblig yng Ngahernarfon wrth i’r cymeriad lliwgar Kenny Khan ddychwelyd i’r sgrin. Mae Dos i Gwcio ar 29 Rhagfyr yn gyfle i weld sut mae ei brosiect coginio cymunedol wedi datblygu ers y gyfres Cegin Cofi ym mis Ebrill.

Byddwn yn codi’r tô gyda nifer o raglenni cerddoriaeth yn cynnwys cyngerdd Only Men Aloud - Nadolig Llawen, Sopranos, Cyngerdd Gala’r Eisteddfod gyda Shân Cothi, Wynne Evans ac eraill, a’r gyfres Rhydian yn parhau gan gynnwys rhifyn Nadoligaidd ar 26 Rhagfyr. Dathlwch hefyd gyda’r ddau Huw mewn rhifyn arbennig o Bandit yn Gigio.

Bydd Carolau o Langollen a Dechrau Canu Dechrau Canmol yn darparu’r dathliadau traddodiadol gan bwysleisio gwir ystyr yr Ŵyl. Hefyd, bydd y ddogfen Dawel Nos ar 18 Rhagfyr yn rhoi hanes y garol sy’n ffefryn i lawer.

Wrth i ni baratoi i ffarwelio â 2011, bydd rhaglen arbennig ar 30 Rhagfyr yng nghwmni’r darlledwr Huw Edwards yn crynhoi prif straeon newyddion y flwyddyn o Gymru a’r Byd – Y Briodas Frenhinol, Cwpan Rygbi’r Byd a’r economi fydd rhai o’r pynciau dan sylw.

Nos Galan bydd Wedi 2011 yn crynhoi goreuon y flwyddyn a fu ar Wedi 3 ac Wedi 7. Hefyd Noson Lawen, rhaglen arbennig o Jonathan a chyfle yn Cyngerdd Clasuron Pop i fwynhau rhai o’ch hoff ganeuon Cymraeg.

Bydd drama yn amlwg yn yr amserlen ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd, gan ddechrau gyda’r ffilm Patagonia ar Ddydd Calan sy’n dathlu cysylltiad Cymru a’r Ariannin. Nia Roberts, Matthew Rhys a Duffy sy’n serennu.

Bydd Teulu yn dychwelyd am bedwaredd gyfres ar 8 Ionawr, ac mae hi’n gyfnod newydd yn hanes Rownd a Rownd fydd ymlaen bob wythnos o’r flwyddyn am y tro cyntaf erioed, gan ddechrau 2 Ionawr. I ddathlu, bydd tair rhaglen Rownd a Rownd Nôl a Mlaen dros y Nadolig yn bwrw golwg ar oreuon y ddrama ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.

Drama newydd tair rhan yw Sombreros sy’n dechrau ar 4 Rhagfyr, a bydd criw gwyllt Zanzibar yn gwmni i ni tan ddiwedd y flwyddyn. Cawn hefyd dreulio’r Nadolig gyda Pobol y Cwm, pan fydd salwch yn taro’r Cwm. Ond ai twrci’r Deri sydd ar fai?

Bydd y ddrama Burton: Y Gyfrinach ar 27 Rhagfyr, yn rhoi golwg newydd ar fywyd yr actor o Bort Talbot. Yn y gwaith dychmygol hwn gwelwn Richard Harrington yn portreadu Richard Burton, a Dafydd Hywel yn chwarae rôl ei frawd Ifor. Bydd y ddogfen Richard a Burton ar Ddydd San Steffan yn bwrw golwg ar y ddrama a’i lleoliad yn Celigny, Swistir.

Daw cyfle i gofio dau Gymro mawr arall mewn dwy rhaglen ddogfen. Ar Ddydd San Steffan, Tara Bethan sy’n cyflwyno’r ddogfen deimladwy Orig er cof am ei thad, Orig Williams, fu farw ddwy flynedd yn ôl. Yn Cofio Ceredig ar 28 Rhagfyr, Iestyn Garlick sy’n arwain llu o wynebau cyfarwydd wrth i ni dalu teyrnged i’r actor hoffus Huw Ceredig, fu farw eleni.

Mae dwy ddogfen arall yn rhoi sylw i yrfaoedd sêr o Gymru sy’n gwneud eu marc oddi cartref. Bydd Mark Evans: Llanrhaeadr a Llundain ar 29 Rhagfyr yn edrych ar lwyddiant y canwr West End, tra yn y Flwyddyn Newydd bydd dogfen arbennig yn dilyn y seren Hollywood Rhys Ifans.

Bydd digon o gyffro ar y meysydd chwarae gyda Y Clwb Rygbi yn dod â darllediadau byw o’r gemau derbi yn y RaboDirect Pro 12 - Gleision v Dreigiau a Gweilch v Gleision. Hefyd gêm yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon rhwng Pontypridd a Leeds ar 17 Rhagfyr. Ar 27 Rhagfyr, bydd Sgorio yn nodi diwedd cyfnod yn hanes clwb pêl-droed Bangor wrth iddyn nhw herio Prestatyn yn y gêm olaf erioed i gael ei chynnal ar Ffordd Farrar.

Ar gyfer y plant lleiaf bydd hwyl yng nghwmni Cyw a’i ffrindiau yn Ffilm Cyw: Y Raplyfr Coll ar 23 Rhagfyr, ac eto ar fore Nadolig. Hefyd, bydd rhifynnau Nadoligaidd arbennig o Nadolig Marcaroni, Sbridiri a Hafod Haul ymhlith eraill.

I’r plant hŷn, bydd criw Stwnsh Sadwrn yn cyfwyno rhaglen fyw ar fore 24 Rhagfyr. Hefyd dau rifyn o’r cwis Meindia Dy Fusnes Selebs ble bydd y cyflwynwyr yn cystadlu a bydd Tîm Talent yn helpu Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch i gynnal Cyngerdd Nadolig.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?