S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y dewin cerddorol Myrddin yn swyno Cymru

01 Mawrth 2008

Fe brofodd athro ymarfer corff 24 oed y gallai gyflawni campau tu allan i’r gampfa trwy ennill gwobr fawr S4C, Cân i Gymru mewn cystadleuaeth gyffrous yn fyw ar y Sianel nos Wener, 29 Chwefror.

Fe enillodd Aled Myrddin dlws y gystadleuaeth a’r brif wobr o £10,000 am y gân ‘Atgofion’ gan ddenu'r nifer fwyaf o bleidleisiau gan y gwylwyr gartref a’r panel o arbenigwyr mewn noson drydanol yng Nghanolfan y Lido Afan, Port Talbot.

Yn y noson, a gyflwynwyd gan Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips, fe gurodd y gân wyth cynnig arall mewn rownd derfynol cystadleuaeth a oedd wedi denu 109 o gynigion yn wreiddiol.

Fe ddaeth Lowri Evans a Lee Mason o Drefdraeth, Sir Benfro, yn ail gan ennill gwobr o £4,000 am y gân ‘Ti a Fi’ a myfyriwr o Brifysgol Bangor, Ieuan Wyn, yn drydydd, gan ennill gwobr o £2,000 am ei gân ‘Gwenllian Haf’ a berfformiwyd ar y noson gan Gruff Rees.

Roedd Aled, sy’n wreiddiol o Borthaethwy ond bellach yn byw ym Machynlleth gyda’i wraig Erin, ar ben ei ddigon ar ôl cipio’r brif wobr a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd ymhen rhai wythnosau yn Donegal.

Meddai’r athro ymarfer corff yn Ysgol Bro Dyfi. Machynlleth, “Wnes i erioed meddwl y byddwn i'n ennill - mae hyn yn freuddwyd wedi'i gwireddu. Yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r gan ydy fy nheulu a fy ngwraig, Erin. Maen nhw wedi bod yno ar hyd y daith, mae gan bawb atgofion, a dwi wedi penderfynu cofnodi fy rhai i ar ffurf cân!"

Yn gyfarwydd i lawer fel aelod o’r grŵp Cristnogol Manna, mae Aled yn hen law ar gystadlu ar lwyfannau cenedlaethol hefyd. Fe enillodd yr Unawd Cerdd Dant 19 -25 oed yn Eisteddfod yr Urdd 2003, gan gystadlu’r un flwyddyn am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Ychwanegodd, "Dwi'n bendant am brynu stwff recordio gyda'r £10,000 er mwyn fy ngalluogi i ganolbwyntio’n fwy ar gyfansoddi, caiff y gweddill fynd i'r banc!"

Cyflwynwyd y wobr gyntaf iddo gan enillwyr Cân i Gymru 2007. Einir Dafydd a Ceri Wyn Jones.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?